Cyhoeddi ffigyrau rhoddion a benthyciadau diweddaraf pleidiau gwleidyddol y DU (Rhagfyr 2020)

Summary

Adroddodd 19 plaid wleidyddol sydd wedi eu cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £8,662,707 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn nhrydedd chwarter 2020, (mis Gorffennaf hyd fis Medi), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cymharu â thros £19m mewn rhoddion a adroddwyd yn yr un cyfnod yn 2019. 

Wrth wneud sylw ar y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:  

“Mae cyhoeddi’r data hwn yn rhoi gwybodaeth bwysig i bleidleiswyr o ran sut mae pleidiau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu, er mwyn gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.

“Rydym yn croesawu’r ffaith bod y rhan fwyaf o bleidiau wedi cyflwyno eu hadroddiadau rhoddion i ni ar amser er gwaethaf yr amgylchiadau heriol a achoswyd gan y pandemig COVID-19.” 

Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno cofnodion rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol, gan gynnwys:

  • rhoddion a dderbyniwyd sy'n uwch na'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
  • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd 
  • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.

Lle bo rhoddion gwaharddedig wedi eu dychwelyd, neu lle bo rhoddion a dderbyniwyd mewn chwarter blaenorol wedi eu hadrodd yn hwyr i’r Comisiwn, gall y swm a adroddwyd gan blaid yn y chwarter diwethaf fod yn uwch na’r cyfanswm a dderbyniwyd.

Mae adroddiadau rhoddion a benthyciadau o’r chwarter hwn yn cynnwys taliadau ffyrlo gan Drysorlys ei Mawrhydi, sy’n cael eu cynnwys yn y categori cronfeydd cyhoeddus. 

Yr 19 plaid wleidyddol a adroddodd am roddion, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd:

Party Cyfanswm a adroddwyd  Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus) Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwyd   Cyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Alliance - Alliance Party of Northern Ireland £38,246 £7,500 £15,746 £23,246
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol £3,876,847 £3,392,692 £436,032 £3,828,724
Y Blaid Gydweithredol £397,425 £397,425 £0 £397,425
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P £78,076 £0 £78,076 £78,076
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) £117,187 £24,066 £69,411 £93,477
Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon) £11,653 £0 £11,653 £11,653
Cymdeithas Pentref Hersham £204,888 £204,888 £0 £204,888
Y Blaid Lafur £2,896,495 £1,054,194 £1,820,483 £2,874,678
Y Democratiaid Rhyddfrydol £1,415,818 £366,481 £536,322 £902,803
People Before Profit Alliance £4,520 £0 £4,520 £4,520
Plaid Cymru £25,295 £0 £25,295 £25,295
Renew £12,000 £12,000 £0 £12,000
Plaid Werdd yr Alban £3,150 £0 £3,150 £3,150
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) £206,331 £22,000 £184,331 £206,331
SDLP (Plaid Democratiaid a Llafur Cymdeithasol ) £48,861 £0 £48,861  £48,861
Sinn Féin £87,585 £8,000 £73,693 £73,693
Traditional Unionist Voice - TUV £6,720 £0 £6,720 £6,720
Plaid Unoliaethwyr Ulster £22,894 £0 £22,894 £22,894
Plaid Cydraddoldeb Menywod £51,674 £33,875 £12,230 £46,105
Cyfanswm £9,505,665 £5,523,121 £3,349,417 £8,872,528

Mae’r swm a adroddir gan blaid wleidyddol i’r Comisiwn yn wahanol i’r swm a dderbynnir ganddi mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm a adroddir gan blaid gynnwys rhoddion a ddychwelwyd gan eu bod yn waharddedig a / neu roddion a adroddwyd ar gyfer y chwarter anghywir. O ganlyniad, gall y cyfanswm hwn fod yn fwy na’r cyfanswm rhoddion a dderbyniwyd gan blaid mewn chwarter.
Yn ychwanegol at yr adroddiadau rhoddion a restrir uchod, fe wnaeth Advance Together adrodd chwe rhodda dderbyniwyd yn mhedwerydd chwarter 2019 a ddaeth i gyfanswm o £70,798. Fe wnaeth Plaid Brexit hefyd adrodd dwy rodd a ddaeth i gyfanswm o £20,000 a dderbyniwyd yn nhrydydd chwarter 2019, a dwy rodd a ddaeth i gyfanswm o £20,000 a dderbyniwyd ym mhedwerydd chwarter 2019.  

Fe wnaeth saith plaid fethu â bodloni'r dyddiad cau ar gyfer adrodd ar y chwarter hwn. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o’r materion hyn, yn ogystal â rhoddion a adroddwyd yn hwyr, yn unol â'r Polisi Gorfodi, gan gyhoeddi, os yw’n briodol, unrhyw gosbau a roddir yn ddiweddarach.

Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill, gan wahanol gyrff neu unigolion, sydd yn is na’r trothwyon ar gyfer adrodd i’r Comisiwn. O'u cymryd fel cyfanswm gall y rhain fod yn ffynonellau  incwm sylweddol i bleidiau.

Benthyca

Gwerth benthyciadau newydd i bleidiau gwleidyddol ym Mhrydain Fawr yn nhrydydd chwarter 2020 oedd £217,543. Talwyd yn ôl fenthyciadau gwerth £117,356 yn nhrydydd chwarter 2020. Ni chafwyd adroddiadau am unrhyw fenthyciadau newydd gan bleidiau Gogledd Iwerddon.

Yn nhrydydd chwarter 2020, adroddodd Advance Together fenthyciad o £9,171 yr aed iddo ym mhedwerydd chwarter 2019.

Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn Ch3 2020

Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi dewisol perthnasol, a chymdeithasau aelodau.

Yn nhrydydd chwarter 2020, derbyniwyd £586,896 o roddion gan 26 dderbyniwr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, ynghyd â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
 

Math o dderbynnydd a reoleiddir Gwerth yr arian parod a'r rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd  Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd 
GLA - Aelod o Gynulliad Llundain Fwyaf £164,500 £0 £164,500
Maer £53,662 £0 £52,662
AS - Aelod Seneddol £334,097 £1,587 £335,683
MSP - Aelod o Senedd yr Alban £13,200 £0 £13,200
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu £4,853 £0 £4,853
Cyfansymiau  £585,311 £1,587 £586,898

Further information

Rhagor o wybodaeth

Mae crynodeb o’r rhoddion a adroddwyd gan bleidiau yn nhrydydd chwarter 2020, gan gynnwys y prif roddwyr a manylion adroddiadau hwyr, ar gael ar wefan y Comisiwn. 
Mae manylion llawn rhoddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]

Nodiadau i olygyddion

Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU, a Senedd yr Alban.

Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn gofyn bod pleidiau gwleidyddol yn adrodd am roddion a benthyciadau arian parod, a’r rheiny nad ydynt yn arian parod, yn chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Mae rhaid i bleidiau gwleidyddol adrodd am bob rhodd a benthyciad dros £7,500 sy'n ymwneud â'r blaid ganolog, neu bob un dros £1,500 sy'n ymwneud ag uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau rhoddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.

Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yn Natganiad Cyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. 

Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. 

Mae rhai rhoddion gan y Comisiwn Etholiadol yn ymddangos ar y gofrestr. Y rhain yw: Grantiau Datblygu Polisi, a sefydlwyd gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sydd â dau neu ragor o aelodau cyfredol yn Nhŷ'r Cyffredin. Bwriad y grantiau yw cynorthwyo pleidiau i ddatblygu'r polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiadol. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 miliwn yn flynyddol ar gyfer hyn. Daeth Grantiau Datblygu Polisi yn adroddadwy fel rhoddion am y tro cyntaf yn nhrydydd chwarter 2006 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.

Roedd 353 o bleidiau gwleidyddol wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod trydydd chwarter 2020. Roedd gofyn i 60 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol, ac i 48 ohonynt gyflwyno gwybodaeth benthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill (heblaw eu bod wedi derbyn rhoddion) gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod di-swm olynol yn flaenorol. 

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn yw derbynnydd a reoleiddir a'u gofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.

Mae Aelodau Seneddol yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Ariannol yr Aelodau.  

Mae aelodau Senedd yr Alban yn adrodd am y rhoddion a dderbyniwyd ganddynt yng Nghofrestr Buddiannau Senedd yr Alban. 

Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn adrodd am ei roddion yn uniongyrchol i ni. Yna byddwn yn cyhoeddi'r wybodaeth hon yn fisol fel rhan o'n rôl wrth ddarparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.