Cyhoeddi rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol ar gyfer Ch1 2021
Summary
Cofnododd 20 o bleidiau gwleidyddol sydd wedi'u cofrestru ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon eu bod wedi derbyn cyfanswm o £15,298,219 mewn rhoddion a chyllid cyhoeddus yn ystod chwarter cyntaf 2021 (o fis Ionawr i fis Mawrth), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn cymharu â £11.9m o roddion a gofnodwyd ar gyfer yr un cyfnod yn 2020.
Wrth sôn am y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, dywedodd Louise Edwards, y Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae cyhoeddi'r data hyn yn rhoi gwybodaeth bwysig i bleidleiswyr am y ffordd y mae pleidiau yn y Deyrnas Unedig yn cael eu hariannu, er mwyn gwella hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn ein prosesau democrataidd.”
Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau bob chwarter i'r Comisiwn Etholiadol, a chynnwys:
- rhoddion a dderbyniwyd uwchlaw'r trothwy o £7,500 (£1,500 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
- rhoddion llai gan roddwr unigol sy'n uwch na'r trothwy adrodd pan gânt eu cyfrif gyda'i gilydd
- rhoddion y dylid bod wedi rhoi gwybod amdanynt yn ystod chwarteri blaenorol
- rhoddion nas caniateir y maent wedi'u derbyn a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain.
Mae adroddiadau am roddion a benthyciadau o'r chwarter hwn hefyd yn cynnwys taliadau ffyrlo sydd wedi'u cynnwys yn y categori cyllid cyhoeddus.
Donations to parties
Yr 20 plaid wleidyddol a gofnododd roddion yn ystod chwarter cyntaf 2021, gan gynnwys cyllid cyhoeddus, oedd:
| Plaid | Cyfanswm a gofnodwyd | Rhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cyllid cyhoeddus) | Cyllid cyhoeddus a dderbyniwyd | Cyfanswm a dderbyniwyd yn y chwarter hwn |
|---|---|---|---|---|
| Alliance – Plaid ‘Alliance’ Gogledd Iwerddon | £29,564 | £12,500 | £17,064 | £29,564 |
| Animal Welfare Party | £20,000 | £20,000 | £0 | £20,000 |
| Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £6,467,612 | £6,309,248 | £109,048 | £6,418,296 |
| Y Blaid Gydweithredol | £7,500 | £7,500 | £0 | £7,500 |
| Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P | £78,115 | £0 | £78,115 | £78,115 |
| Y Blaid Werdd (Prydain Fawr) | £185,460 | £141,350 | £44,111 | £185,460 |
| Y Blaid Werdd (Gogledd Iwerddon) | £12,173 | £0 | £12,173 | £12,173 |
| Y Blaid Lafur | £4,383,094 | £2,519,705 | £1,829,144 | £4,348,849 |
| Y Democratiaid Rhyddfrydol | £1,278,073 | £922,663 | £321,425 | £1,244,088 |
| Plaid Cymru - The Party of Wales | £141,871 | £3,500 | £25,295 | £28,795 |
| Reform UK | £121,919 | £121,919 | £0 | £121,919 |
| Rejoin EU | £20,000 | £20,000 | £0 | £20,000 |
| Scottish Family Party | £8,000 | £8,000 | £0 | £8,000 |
| Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP) | £570,983 | £300,000 | £270,983 | £570,983 |
| SDLP (Y Blaid Ddemocrataidd Gymdeithasol a Llafur) | £47,958 | £0 | £47,958 | £47,958 |
| Sinn Féin | £880,295 | £800,000 | £80,295 | £880,295 |
| The Reclaim Party | £1,153,330 | £1,153,330 | £0 | £1,153,330 |
| Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) | £70,000 | £70,000 | £0 | £70,000 |
| Plaid Unoliaethwyr Ulster | £22,894 | £0 | £22,894 | £22,894 |
| Plaid Cydraddoldeb Merched | £30,000 | £30,000 | £0 | £30,000 |
| Cyfanswm | £15,528,841 | £12,439,715 | £2,858,505 | £15,298,219 |
Efallai y bydd y swm y bydd plaid wleidyddol yn rhoi gwybod amdano i'r Comisiwn yn wahanol i'r swm y bydd yn ei dderbyn mewn chwarter. Mae hyn oherwydd y gall y swm y bydd plaid yn rhoi gwybod amdano gynnwys rhoddion a ddychwelwyd am eu bod yn rhai nas caniateir a/neu roddion y rhoddwyd gwybod amdanynt fel rhan o'r chwarter anghywir.
Mae'n debygol y bydd pleidiau wedi derbyn rhoddion eraill gan unigolion neu gyrff gwahanol sydd islaw trothwyon adrodd i'r Comisiwn. Gan eu hystyried fel cyfanswm, gall y rhain fod yn ffynonellau sylweddol o incwm i'r pleidiau.
Methodd saith plaid â chyflwyno adroddiad ar gyfer y chwarter hwn erbyn y dyddiad cau. Bydd y Comisiwn yn ystyried pob un o'r materion hyn, ynghyd â rhoddion y rhoddwyd gwybod amdanynt yn hwyr, yn unol â'i Bolisi Gorfodi, os yw'n briodol. Byddwn yn cyhoeddi unrhyw gosbau a roddwyd yn ddiweddarach.
Benthyca
Cofnodwyd gwerth £297,378 o fenthyciadau newydd yn ystod chwarter cyntaf 2021. Talwyd gwerth £121,761 o fenthyciadau'n llawn a throswyd gwerth £1,000 o fenthyciadau'n rhoddion yn y chwarter hwn.
Rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir yn ystod Ch1 2021
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi manylion rhoddion a dderbyniwyd gan dderbynwyr a reoleiddir. Mae derbynwyr a reoleiddir yn aelodau o bleidiau gwleidyddol cofrestredig, deiliaid swyddi etholedig perthnasol a chymdeithasau aelodau.
Yn ystod chwarter cyntaf 2021, derbyniwyd £741,725 o roddion gan 31 o dderbynwyr. Mae'r cyfanswm yn cynnwys rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod, yn ogystal â rhoddion tuag at ymweliadau tramor. Mae manylion llawn ar gael ar ein gwefan.
| Math o dderbynnydd a reoleiddir | Gwerth rhoddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a dderbyniwyd | Gwerth rhoddion a dderbyniwyd tuag at ymweliadau tramor | Cyfanswm gwerth y rhoddion a dderbyniwyd |
|---|---|---|---|
| Cyng. – Aelod o Awdurdod Lleol | £7,500 | £0 | £7,500 |
| Maer | £231,731 | £0 | £231,731 |
| Cymdeithas Aelodau | £110,000 | £0 | £110,000 |
| AS – Aelod Seneddol | £336,901 | £0 | £336,901 |
| ASA – Aelod o Senedd yr Alban | £55,592 | £0 | £55,592 |
| Cyfansymiau | £321,459 | £4,000 | £325,459 |
Rhagor o wybodaeth
Mae crynodeb o'r rhoddion y rhoddwyd gwybod amdanynt gan bleidiau yn ystod chwarter cyntaf 2021, gan gynnwys y rhoddwyr mwyaf a manylion adroddiadau hwyr ar gael ar wefan y Comisiwn.
Mae manylion llawn am roddion a benthyciadau ar gael ar ein cofrestrau.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa wasg y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb drwy wneud y canlynol:
- galluogi'r gwaith o gynnal etholiadau a refferenda rhydd a theg, gan ganolbwyntio ar anghenion yr etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid o hyd er mwyn sicrhau bod pob pleidlais yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i wella tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar drywydd achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth a dadlau o'u plaid, gyda'r nod o wella tegwch, tryloywder ac effeithlonrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n atebol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am roddion arian parod a rhoddion nad ydynt yn arian parod a benthyciadau i'r Comisiwn Etholiadol bob chwarter. Mae'n rhaid i bleidiau gwleidyddol roi gwybod am yr holl roddion a benthyciadau dros £7,500 sy'n gysylltiedig â'r blaid ganolog, neu dros £1,500 os yw'n gysylltiedig â'r uned gyfrifyddu. Mae hyn yn cynnwys cyfansymiau o roddion a benthyciadau o'r un ffynhonnell yn ystod y flwyddyn galendr.
Gan fod y pleidiau ond yn rhoi gwybod am roddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn, nid yw'r ffigurau yn cynnwys pob rhodd a benthyciad i bleidiau gwleidyddol. Caiff y rhoddion a'r benthyciadau o dan y trothwyon hyn eu cofnodi yn Natganiad Cyfrifon Blynyddol pleidiau gwleidyddol.
Ystyr cyllid cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau ‘Short’ a ‘Cranborne’ ar gael i wrthbleidiau y naill i Dŷ'r Cyffredin a'r llall i Dŷ'r Arglwyddi.
Nodwyd ar y gofrestr bod rhai rhoddion yn dod o'r Comisiwn Etholiadol. Grantiau Datblygu Polisi yw'r rhain, a gafodd eu sefydlu gan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ar gyfer pleidiau sy'n cael eu cynrychioli gan ddau aelod presennol neu fwy yn Nhŷ'r Cyffredin. Nod y grantiau yw helpu pleidiau i ddatblygu polisïau y byddant yn eu cyflwyno mewn maniffesto etholiad. Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu swm o £2 filiwn bob blwyddyn at y diben hwn. Roedd yn ofynnol i adrodd am Grantiau Datblygu Polisi fel rhoddion am y tro cyntaf yn chwarter tri 2016 o ganlyniad i Ddeddf Gweinyddiaeth Etholiadol 2006.
Roedd 356 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod chwarter cyntaf 2021. Roedd yn ofynnol i 68 ohonynt gyflwyno adroddiad chwarterol ar roddion ac i 55 ohonynt gyflwyno gwybodaeth am fenthyca o fewn y dyddiad cau. Mae'r pleidiau gwleidyddol sy'n weddill wedi cyflwyno pedair ffurflen dim trafodion yn olynol yn flaenorol. Maent felly wedi'u heithrio rhag gorfod cyflwyno adroddiad, ar yr amod nad ydynt wedi derbyn rhoddion yn ystod y chwarter diwethaf.
Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn sy'n gyfystyr â derbynnydd a reoleiddir a'i ofynion adrodd cyfreithiol ar gael ar ein gwefan.
Mae Aelodau Seneddol yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr o Fuddiannau Ariannol Aelodau.
Mae Aelodau o Senedd yr Alban yn rhoi gwybod am y rhoddion y gwnaethant eu derbyn i Gofrestr Buddiannau Senedd yr Alban.
Mae pob derbynnydd arall a reoleiddir yn rhoi gwybod am eu rhoddion i ni yn uniongyrchol. Yna, rydym yn cyflwyno'r wybodaeth hon bob mis fel rhan o'n rôl yn darparu mwy o dryloywder ym maes cyllid gwleidyddol yn y DU.