Datganiad ar ôl y bleidlais – etholiad cyffredinol 2024
Datganiad ar ôl y bleidlais – etholiad cyffredinol 2024
Ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau ar ddydd Iau 4 Gorffennaf, dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Heddiw, fe wnaeth degau o filiynau o bobl arfer eu hawl democrataidd a dweud eu dweud yn y blwch pleidleisio. Ar y cyfan, ein hasesiad cychwynnol yw bod y diwrnod pleidleisio wedi rhedeg yn esmwyth a bod pobl wedi gallu bwrw eu pleidleisiau’n ddiogel. Byddwn yn parhau i gefnogi gweinyddwyr wrth iddynt ymgymryd â’r cyfrif heno.
“Mae miliynau o bobl wedi gallu dweud eu dweud, ond gwyddwn fod lle i wella’r profiad ar gyfer rhai. Cafodd y nifer fwyaf erioed o bleidleisiau post eu dychwelyd yn llwyddiannus, ond nid oedd rhai pobl yn y DU a thramor yn gallu pleidleisio oherwydd bod pleidleisiau post yn cyrraedd yn hwyr. Roedd yna ymgyrch cadarn a bywiog ond hefyd cafodd ymgeiswyr eu cam-drin a’u bygwth. Byddwn yn casglu tystiolaeth gan bobl sydd wedi cymryd rhan yn yr etholiadau hyn fel pleidleiswyr, ymgeiswyr, ymgyrchwyr a gweinyddwyr, er mwyn deall eu profiadau yn well. Byddwn yn argymell gwelliannau i’r systemau lle bydd angen.
“Mae cynnal etholiad cyffredinol yn dasg sylweddol, yn enwedig mor fuan ar ôl yr etholiadau ym mis Mai yng Nghymru a Lloegr. Roedd rheolau newydd ar waith eleni, gan gynnwys rhai ar ID pleidleisiwr lle gwelwyd lefelau uchel iawn o ymwybyddiaeth y cyhoedd. Hoffwn ddiolch i weinyddwyr etholiadol ledled y wlad am eu hymrwymiad a’u proffesiynoldeb wrth gyflawni’r etholiadau llwyddiannus hyn.”