Datganiad y Comisiwn Etholiadol - ymchwiliad Channel 4 News
X
Dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
"Rydym yn ystyried yr holl wybodaeth berthnasol, yn unol â’n cylch gwaith rheoleiddiol, ac rydym mewn cysylltiad â Heddlu Llundain.
"Nid yw’r Comisiwn Etholiadol wedi cymeradwyo’r broses fetio rhoddwyr ar gyfer Reform, nac unrhyw blaid arall. Mae pleidiau yn gyfrifol am sicrhau bod eu prosesau a’u rheolaethau mewnol yn addas i’r diben.
"Rydym yn darparu cyngor ac arweiniad i bleidiau gwleidyddol ar sut i gydymffurfio â chyfraith etholiadol.
"Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol adrodd ar bob rhodd a ganiateir y maent yn ei derbyn sydd â gwerth dros £11,180 a phob rhodd nas caniateir sydd dros £500."
"Mae gwybodaeth am unrhyw ymgais bosibl i osgoi’r rheolaethau ar roddion i’r heddlu ei hystyried."