Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd
Summary
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf, sy'n rhan bwysig o sicrhau tryloywder mewn cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Penderfyniad | Canlyniad |
---|---|---|---|
National Conservative Draws Society (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi gwybod am roddion gwerth dros £25,000 i blaid wleidyddol | Cosb ariannol amrywiadwy o £750 | Taliad yn ddyledus erbyn 26 Rhagfyr 2019 |
Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (UKIP) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol anghywir ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig 2017 | Cosb ariannol amrywiadwy o £400 | Talwyd ar 28 Tachwedd 2019 |
Grŵp Ceidwadwyr Cyngor Croydon (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi gwybod am roddion gwerth dros £25,000 i blaid wleidyddol | Cosb ariannol amrywiadwy o £350 | Talwyd ar 2 Rhagfyr 2019 |
Cynghorwyr Ceidwadol Bwrdeistref Brenhinol Kensington a Chelsea (cymdeithas anghorfforedig) | Methu â rhoi gwybod am roddion gwerth dros £25,000 i blaid wleidyddol | Cosb ariannol amrywiadwy o £300 | Taliad yn ddyledus erbyn 26 Rhagfyr 2019 |
Comment
Wrth sôn am y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
"Mae'r gofynion adrodd yn glir, felly mae'n siomedig bob amser pan fydd pleidiau a chymdeithasau anghorfforedig yn methu â rhoi gwybod am eu rhoddion. Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn cael y cyfle i weld data llawn, cywir er mwyn gwybod o ble daw arian pleidiau.
“Bydd y Comisiwn yn parhau i orfodi'r gofynion hyn ar bob plaid ac ymgyrchydd er mwyn sicrhau bod gan bleidleiswyr y wybodaeth sydd ei hangen arnynt."
Ymchwiliadau lle na roddwyd sancsiynau:
Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Decision taken | Outcome |
---|---|---|---|
Animal Welfare Party (Gogledd Iwerddon) (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiadau o gyfrifon 2016, 2017 a 2018 yn hwyr | Dim sancsiwn | Ni chafwyd unrhyw droseddau. Wedi cau heb gamau pellach |
Cross-Community Labour Alternative (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyrs | Dim sancsiwn | Cafwyd troseddau. Wedi cau heb gamau pellach |
Friends of Rochford (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau rhoddion a thrafodion chwarterol yn hwyr; cyflwyno datganiad cyfrifon 2017 yn hwyr; methu â rhoi gwybod i'r Comisiwn bod y swyddog cofrestredig wedi newid erbyn y dyddiad dyledus | Dim sancsiwn | Ni chafwyd unrhyw droseddau. Wedi cau heb gamau pellach |
Grassroots Out Limited (cyfranogwr a ganiateir yn refferendwm yr UE) | Adroddiadau cyn y bleidlais anghywir ar gyfer refferendwm yr UE; adroddiad gwariant chwarterol anghywir | Dim sancsiwn | Cafwyd troseddau. Wedi cau heb gamau pellach |
Y Blaid Lafur (uned gyfrifyddu Eltham) | Adroddiadau trafodion chwarterol anghywir | Dim sancsiwn | Dim penderfyniad o drosedd. Wedi cau heb gamau pellach |
Our Nation (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno adroddiadau benthyciadau a thrafodion chwarterol yn hwyr | Dim sancsiwn | Cafwyd troseddau. Wedi cau heb gamau pellach |
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa'r wasg yn y Comisiwn Etholiadol ar 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa, neu anfonwch e-bost i press@electoralcommission.org.uk
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Crëwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU ac i Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrwymiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau misoedd blaenorol ar gael ar ein.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.
Tagiau cysylltiedig
- Campaigner
- Investigations
- Journalist
- Political party
- UK wide
- Voter