Diweddariad misol – ymchwiliadau a gwblhawyd (Chwefror 2020)

Summary

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cyhoeddi'r manylion am yr ymchwiliadau a gwblhawyd yn ystod y mis diwethaf,  sy'n rhan bwysig o sicrhau tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.

Yn dilyn ymchwiliad i adroddiadau rhoddion chwarterol Plaid Cymru, mae'r Comisiwn wedi rhoi dirwy o £29,000 i'r blaid am fethiannau adrodd. Canfu'r ymchwiliad fod y blaid wedi cyflwyno naw adroddiad anghywir dros gyfnod o ddwy flynedd, gan hepgor 36 o roddion arian parod gwerth mwy na £497,000. Rhoddwyd gwybod am y rhoddion gan y blaid ym mis Mai 2018. 

Dangosodd ymchwiliad y Comisiwn nad oedd gan y blaid brosesau mewnol effeithiol, a bod hyn wedi arwain at fethiant i ddeall y gofynion adrodd. 

Ymchwiliadau lle y cafwyd troseddau ac y rhoddwyd sancsiynau: 

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo  Troseddau a ganfuwyd Penderfyniad 
Plaid Cymru (plaid wleidyddol gofrestredig)  Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion chwarterol cywir (9 achos)  Mae cosbau ariannol amrywiadwy, gwerth cyfanswm o £29,268 (9 cosb ar wahân), yn ddyledus erbyn 2 Mawrth 2020    

 

Quote

Wrth sôn am y dirwyon a roddwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio: 
“Mae cyfanswm nifer a chyfanswm gwerth y rhoddion a gafodd eu hepgor o adroddiadau chwarterol Plaid Cymru yn sylweddol, ac mae'n dangos diffyg cydymffurfiaeth sylweddol. Mae Plaid Cymru yn blaid sefydledig a dylai allu bodloni ei rhwymedigaethau adrodd. 

“Mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu gweld cofnodion ariannol llawn a chywir sy'n dangos o ble y daw arian plaid wleidyddol. Mae methiant parhaus Plaid Cymru dros gyfnod o ddwy flynedd i ddeall a chyflawni ei dyletswyddau cyfreithiol wedi arwain at ddiffyg tryloywder o ran trefniadau ariannol y blaid, sy'n destun siom. 

“Gall pleidleiswyr fod yn hyderus y byddwn yn gweithredu pan fydd pleidiau yn methu â chydymffurfio â'r rheolau heb esboniad rhesymol.” 
 

Other Investigations

Ymchwiliadau lle na roddwyd sancsiynau: 

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid Troseddau yr ymchwiliwyd iddynt Troseddau a ganfuwyd   Penderfyniad 
 
Campaign Against Pedestrianisation of Oxford Street 
(plaid wleidyddol gofrestredig)
Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr Dim sancsiwn 
Arts party
(plaid wleidyddol gofrestredig)
Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr Cyflwyno datganiad cyfrifon 2018 yn hwyr Dim sancsiwn 
Mr Andy Street
(derbynnydd rheoledig)
Methu â chyflwyno adroddiadau rhoddion o fewn 30 diwrnod i dderbyn y rhoddion. Dim troseddau Dim sancsiwn 

Penderfyniadau fforffedu

Yn y ddau achos, derbyniodd yr unigolion roddion o ffynonellau nas caniateir. Ni chafodd ymchwiliadau eu cynnal, ar ôl i werth llawn y rhoddion hyn gael ei fforffedu'n wirfoddol. 

Enw'r endid a reoleiddir a'r math o endid Troseddau yr ymchwiliwyd iddynt Troseddau a ganfuwyd Penderfyniad 
Sarah Wollaston (ymgeisydd etholiad cyffredinol Senedd y DU, mis Rhagfyr 2019) Ni chafodd ymchwiliad ei gynnal  Dim penderfyniad o drosedd Cafodd y rhoddion eu fforffedu'n wirfoddol 
Ashley Dalton (UK Parliamentary General election candidate, December 2019) Ni chafodd ymchwiliad ei gynnal  Dim penderfyniad o drosedd Cafodd y rhoddion eu fforffedu'n wirfoddol 

Diwedd

Ends

Nodiadau i olygyddion


1.    Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli dros newidiadau i'n democratiaeth, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.


2.    Mae'r datganiad yma'n rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn, fel rhan bwysig o'i ymrywmiad i ddarparu tryloywder i gyllid gwleidyddol y DU. Caiff gwybodaeth o'r natur yma ei gyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth bob mis. Mae manylion cosbau   o'r misoedd blaenorol yn   ar gael .


3.    Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff ei reoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.