Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Awst 2022)
Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Basildon Community Residents Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon adroddiadau rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr | Danfon adroddiadau rhoddion chwarterol a benthyciadau chwarterol yn hwyr |
Dim cosb |
Y Blaid Gydweithredol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Adrodd yn hwyr am rodd | Adrodd yn hwyr am rodd |
Dim cosb |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Danfon rhodd nas caniateir yn hwyr | Danfon rhodd nas caniateir yn hwyr | Dim cosb |
Adrodd yn hwyr am roddion | Adrodd yn hwyr am roddion | Dim cosb | |
Adrodd yn hwyr am fenthyciadau | Adrodd yn hwyr am fenthyciadau | Pedair cosb sy’n dod i gyfanswm o £3,080 | |
Plaid Gweithwyr Prydain Fawr (Workers Party of Great Britain) (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno adroddiad gwariant ymgyrchu cywir | Methu â chyflwyno adroddiad gwariant ymgyrchu cywir |
Dim cosb |
Methu â chynnwys datganiad adroddiad gwariant ymgyrchu | Methu â chynnwys datganiad adroddiad gwariant ymgyrchu |
Dim cosb |
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch cyllid pleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr. Mae'r gofynion yn glir, felly mae hi wastad yn siomedig pan na chânt eu bodloni.
“Lle canfyddwn fod troseddau wedi’u cyflawni, nid ydym yn rhoi cosbau yn awtomatig, ond gwnawn hynny lle ystyriwn fod hynny’n briodol. Rydym yn ymddwyn yn gymesur ac yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniadau terfynol, gan gynnwys ymdrechion plaid i wella’u systemau cydymffurfiaeth er mwyn osgoi tor-cyfraith yn y dyfodol.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, anfonwch e-bost i [email protected]
notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.