Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Awst 2023)

Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben

Mae manylion yr ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol, fel rhan o’u diweddariad rheolaidd o ymchwiliadau sydd wedi dod i ben. 

Caewyd ymchwiliad i un ymgyrchydd nad yw’n blaid dros y mis diwethaf, gyda dim cosbau’n cael eu gosod. 

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio Yr hyn y gwnaethom ganfod Canlyniad
Precious Life (ymgyrchydd nad yw’n blaid yn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon 2022) Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu. Troseddau a gafwyd Dim cosb

Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol: 

“Mae’n hanfodol ar gyfer tryloywder bod pleidleiswyr yn gallu gweld pwy sy'n gyfrifol am y deunydd ymgyrchu maent yn ei gael cyn etholiadau. Mae cyfreithiau argraffnodau yn sicrhau bod gan bleidleiswyr dryloywder dros ddeunydd gwleidyddol ac yn helpu cefnogi hyder cyhoeddus mewn etholiadau a gynhelir yn dda.

“Gwnaeth ein hymchwiliad i Precious Life ganfod bod yr ymgyrchydd nad yw’n blaid wedi methu a chyflawni argraffnod ar ei ddeunydd ymgyrchu cyn etholiad Cynulliad Gogledd Iwerddon 2022. Yn yr achos hwn, ni osodwyd cosbau. Lle canfyddwn droseddau, rydym yn ystyried ystod o ffactorau, fel y nodwyd yn y Polisi Gorfodi, cyn penderfynu p’un a ddylid gosod cosbau. Roedd Precious Life wedi ymgyrchu mewn etholiadau blaenorol ac mae ein hymdrechion i ymgysylltu a nhw, a’u hymateb, wedi arwain at gydymffurfiaeth well.” 

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
         •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
         •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
         •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
    Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU, Senedd Cymru a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.