Diweddariad misol – ymchwiliadau sydd wedi dod i ben (Hydref 2020)
Summary
Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi dod i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o'n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â dychwelyd rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Methu â dychwelyd rhodd gan roddwr nas caniateir cyn pen 30 diwrnod | Fforffedwyd y rhodd. Dim cosb |
Keep Penrith Special (plaid wleidyddol gofrestredig) a Penrith Posters Ltd | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu yn ystod | Cafwyd trosedd yn achos Keep Penrith Special. Ni chafwyd trosedd yn achos Penrith Posters Ltd | Dim cosb. Cau'r achos heb gamau pellach |
Quote from the Commission's director of regulation
Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau a bennwyd, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:
“Fel rheoleiddiwr, ein tasg yw sicrhau bod pleidiau ac ymgyrchwyr yn dilyn y gyfraith. Yn ogystal â chefnogi pleidiau ac ymgyrchwyr trwy ddarparu canllawiau a chyngor, byddwn yn gweithredu os amheuwn bod troseddau wedi eu cyflawni, fel y gall pleidleiswyr fod yn hyderus yn nhegwch y system. Cyhoeddwn ganlyniadau’n hymchwiliadau er mwyn sicrhau tryloywder o ran sut rydym yn gweithredu er mwyn gorfodi’r gyfraith.”
Summary of cases where no offences were found
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod troseddau:
Enw a’r math o endid a reoleiddir | Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo | Troseddau a gafwyd | Penderfyniad a wnaed |
---|---|---|---|
Independent Group for Change (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno cofnod gwariant ar gyfer etholiadau Senedd Ewrop 2019 | Ni chafwyd bod trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Communities United Party (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methu â chyflwyno cofnod gwariant ymgyrchu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 | Heb bennu bod trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Lincolnshire Independents Lincolnshire First (plaid wleidyddol gofrestredig) | Cyflwyno cofnod gwariant ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019 yn hwyr | Heb bennu bod trosedd | Cau'r achos heb gamau pellach |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, tu allan i oriau swyddfa 07789 920 414 neu drwy e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd y DU a Senedd yr Alban.
Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorolhefyd ar gael.
Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.