Donations and loans received by political parties and non-party campaigners in the UK in first weekly pre-poll report published
Summary
Mae £6,507,146 mewn rhoddion i bleidiau gwleidyddol wedi cael eu hadrodd i'r Comisiwn Etholiadol yn yr adroddiad wythnosol cyn y bleidlais, a gyhoeddwyd cyn etholiad cyffredinol Seneddol y DU ar 12 Rhagfyr.
Mae hyn yn cymharu â £7,054,844 mewn rhoddion a adroddwyd yn yr adroddiad wythnosol cyn y bleidlais cyn etholiad cyffredinol 2017.
Cyn etholiad cyffredinol Seneddol y DU ar 12 Rhagfyr, rhaid i bleidiau gwleidyddol cofrestredig gyflwyno adroddiadau pedair wythnosol yn nodi'r rhoddion a'r benthyciadau dros £7,500 y maent wedi'u derbyn rhwng 6 Tachwedd a 3 Rhagfyr 2019. Rhaid cyflwyno dau adroddiad arall ar ôl y diwrnod pleidleisio am y cyfnod 4 Rhagfyr i 12 Rhagfyr 2019.
Hefyd, mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau cofrestredig hefyd gyflwyno adroddiadau rhoddion wythnosol cyn y bleidlais yn gosod pa roddion y maent wedi'u derbyn dros £7,500. Bydd y wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi ynghyd ag adroddiadau rhoddion a benthyciadau pleidiau gwleidyddol.
Dyma’r etholiad cyffredinol Seneddol cyntaf yn y DU i gael ei gynnal ers i ddeddfwriaeth gael ei chyflwyno i ganiatáu cyhoeddi gwybodaeth am roddion a benthyciadau yng Ngogledd Iwerddon. Dyma’r tro cyntaf felly i adroddiadau rhoddion a benthyciadau cyn y bleidlais gael eu cyhoeddi ar gyfer pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yng Ngogledd Iwerddon.
Crynodeb rhoddion pleidiau gwleidyddol
Party | Total |
---|---|
Alliance - Plaid Alliance Gogledd Iwerddon | £60,000 |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol | £5,673,646 |
Y Blaid Werdd | £30,000 |
Y Blaid Lafur | £218,500 |
Democratiaid Rhyddfrydol | £275,000 |
The Brexit Party | £250,000 |
Links to further information
Mae manylion y rhoddion dros £7,500 a adroddwyd gan bob parti yn y cyfnod adrodd hwn ar gael.
I weld yr holl roddion a adroddwyd gan barti penodol yn y cyfnod adrodd hwn, dilynwch y dolenni isod:
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan Alliance - Alliance Party yng Ngogledd Iwerddon yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan y Blaid Werdd yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan y Blaid Lafur yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan y Democratiaid Rhyddfrydol yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Mae rhoddion a dderbyniwyd gan y Brexit Party yn y cyfnod adrodd cyn-pleidleisio cyntaf ar gael i'w gweld.
Crynodeb rhoddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Ni nodwyd unrhyw roddion dros £7,500 gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau am y cyfnod adrodd rhwng 6 a 12 Tachwedd.
Crynodeb benthyciad
Ni wnaeth unrhyw bleidiau gwleidyddol fenthyciadau na chyfleusterau credyd dros £7,500 yn ystod y cyfnod adrodd hwn.
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei hygrededd drwy'r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n gyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel a hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth ac erlid achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud ac eirioli newidiadau i ein democratiaeth,
- gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Crëwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Lywodraethau'r DU.
Mae ymgyrchydd di-blaid yn grŵp sy'n ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ond nad yw'n blaid wleidyddol ac nad yw'n sefyll ymgeiswyr. Mae'n rhaid i ymgyrchwyr ddi-blaid gofrestru gyda ni os ydynt am wario mwy na £20,000 yn Lloegr, neu £10,000 yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon. Mae rhestr o ymgyrchwyr di-blaid cofrestredig ar gael.
Rhaid i bob plaid wleidyddol gofrestredig gyflwyno adroddiadau rhoddion cyn y bleidlais, oni bai eu bod wedi eithrio eu hunain drwy ddatgan nad ydynt yn sefyll ymgeiswyr. Bydd methu â gwneud hynny yn cael ei ystyried yn unol â'n Polisi Gorfodi. Roedd yn ofynnol i 74 o bartïon adrodd adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais.
Yn yr adroddiadau wythnosol cyn y bleidlais, rhaid i bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau adrodd am roddion y maent wedi'u derbyn yn ystod y cyfnod perthnasol. Fodd bynnga, mae ganddynt 30 diwrnod ar ôl cael rhodd i wirio bod y rhoddwr yn un a ganiateir a phenderfynnu p'un a i dderbyn y rhodd ai peidio.
Cyhoeddir rhoddion dros £7,500 a dderbynnir gan bartïon yn ystod y trydydd chwarter (1 Gorffennaf i 30 Medi) ar 26 Tachwedd.
Mae manylion y cyfnodau adrodd a'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau isod: