Pleidiau gwleidyddol yn derbyn ychydig o dan £17.1m mewn rhoddion yn Ch2 2026

Political parties accept just under £17.1m in donations in Q2 2026

Adroddodd pleidiau gwleidyddol sydd wedi’u cofrestru yn y DU eu bod wedi derbyn £17,085,354 mewn rhoddion a chronfeydd cyhoeddus yn ystod ail chwarter 2026 (mis Ebrill i fis Mehefin), yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd gan y Comisiwn Etholiadol heddiw. 

Mae hyn yn cymharu â £11,346,722 yn yr un cyfnod yn 2025, a £24,507,274.33 yn y chwarter blaenorol (Ch1 2026). 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol: 

“Derbyniodd pleidiau gwleidyddol dros £17m mewn rhoddion yn ail chwarter 2026. Mae gan system cyllid gwleidyddol y DU lefelau uchel o dryloywder, a gwyddom fod gan bleidleiswyr ddiddordeb mewn gwybod o ble mae pleidiau’n cael eu harian. Mae'r cyhoeddiad hwn yn rhan allweddol o gyflwyno'r wybodaeth hon i bleidleiswyr.

“Fodd bynnag, gwyddom fod rhannau o’r system sydd angen eu cryfhau, ac rydym wedi tynnu sylw at yr angen am newidiadau i’r gyfraith ers peth amser. Bydd y diwygiadau arfaethedig gan lywodraeth y DU i'r drefn cyllid gwleidyddol yn y Bil Cynrychiolaeth y Bobl yn helpu i gryfhau rheolaethau ar roddion a sicrhau bod gan bleidleiswyr hyder yn y system cyllid gwleidyddol. Byddwn yn parhau i weithio gyda'r llywodraeth fel bod y newidiadau hyn yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn ymarferol.” 

Y pleidiau gwleidyddol a adroddodd am roddion yn Ch2 2026, gan gynnwys cronfeydd cyhoeddus, oedd: 

PlaidCyfanswm a adroddwydRhoddion a dderbyniwyd (ac eithrio cronfeydd cyhoeddus)Cronfeydd cyhoeddus a dderbyniwydCyfanswm a dderbyniwyd yn ystod y chwarter hwn
Cynghrair - Plaid Gynghrair Gogledd Iwerddon£61,861£20,535£41,326£61,861
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr)£4,174,098£2,810,690£1,228,627£4,039,317
Y Blaid Gydweithredol£51,476£51,476£0£51,476
Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd - D.U.P£136,975£0£136,975£136,975
Great Yarmouth First£45,202£45,202£0£45,202
Y Blaid Werdd (Prydain Fawr)£227,467£114,697£106,193£220,890
Y Blaid Lafur£3,651,922£3,588,506£21,158£3,609,664
Y Democratiaid Rhyddfrydol£2,306,355£1,372,709£792,158£2,164,867
Plaid Agored£140,409£140,409£0£140,409
Pobl Cyn Elw (People Before Profit)£12,907£0£6,453£6,453
Plaid Cymru£230,435£161,410£69,024£230,435
Reform UK£5,552,360£5,333,657£103,703£5,437,360
Adfer Prydain£250,000£250,000£0£250,000
Plaid Werdd yr Alban£2,702£0£2,702£2,702
Plaid Genedlaethol yr Alban (SNP)£320,919£225,000£95,919£320,919
SDLP (Plaid Democratiaid Cymdeithasol a Llafur)£125,276£7,500£110,276£117,776
Sinn Féin£161,060£35,000£126,060£161,060
The Reclaim Party£15,000£15,000£0£15,000
Y Llais Unoliaethol Traddodiadol (Traditional Unionist Voice - TUV)£13,563£0£6,782£6,782
Plaid Unoliaethwyr Ulster£25,185£0£25,185£25,185
Cyfanswm £17,546,194£14,212,812£2,872,542£17,085,354

Gall gwerth y rhoddion a adroddir gan blaid wleidyddol fod yn wahanol i werth y rhoddion a dderbyniodd y blaid mewn gwirionedd yn y chwarter hwnnw. Gall hyn ddigwydd pan fydd pleidiau’n adrodd ar roddion a gydgrynhowyd, yn dychwelyd rhoddion nas caniateir, neu’n adrodd ar roddion yn hwyr.

Benthyca

Ymrwymodd dwy blaid i bum benthyciad newydd yn ystod ail chwarter 2026, sy’n dod i gyfanswm o £36,126. Adroddwyd bod un benthyciad wedi'i dalu'n llawn yn ystod y chwarter. Adroddwyd bod tri benthyciad wedi'u trosi'n llawn yn rhoddion.

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]. 

Nodiadau i olygyddion

  • Mae'n ofynnol i bleidiau gwleidyddol gyflwyno ffurflenni rhoddion a benthyciadau chwarterol i'r Comisiwn Etholiadol. Yn y ffurflenni hyn, mae'r pleidiau yn adrodd:
    • rhoddion a dderbyniwyd sy’n uwch na’r trothwy o £11,180 (dros £2,230 ar gyfer unedau cyfrifyddu)
    • rhoddion llai gan roddwr unigol sydd, gyda'i gilydd, yn fwy na'r trothwy adrodd
    • rhoddion gwaharddedig a dderbyniwyd ganddynt a'r camau a gymerwyd mewn perthynas â'r rhain
    • rhoddion y dylid bod wedi eu hadrodd yn ystod chwarteri blaenorol
  • Gan mai dim ond rhoddion a benthyciadau dros y trothwyon hyn sy’n cael eu hadrodd gan bleidiau, nid yw'r ffigyrau yn cynnwys yr holl roddion a benthyciadau a dderbyniwyd gan bleidiau gwleidyddol. Cofnodir rhoddion a benthyciadau o dan y trothwyon hyn yng nghyfrifon blynyddol pleidiau gwleidyddol. Mae gwybodaeth am ddatganiadau o gyfrifon mwyaf diweddar pleidiau gwleidyddol ar gael yng nghronfa ddata’r Comisiwn.
  • Cronfeydd cyhoeddus yw rhoddion gan Dŷ'r Cyffredin, Tŷ'r Arglwyddi, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon a'r Comisiwn Etholiadol. Mae grantiau 'Short' a 'Cranborne' ar gael i’r gwrthbleidiau yn Nhŷ'r Cyffredin neu Dŷ'r Arglwyddi fel ei gilydd. 
  • Roedd 402 o bleidiau gwleidyddol cofrestredig ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn ystod ail chwarter 2026. Roedd gofyn i 70 ohonynt gyflwyno adroddiad rhoddion chwarterol a 59 ohonynt gyflwyno gwybodaeth fenthyca erbyn y dyddiad cau. Eithriwyd y pleidiau gwleidyddol eraill gan iddynt gyflwyno pedwar cofnod o ddim yn olynol yn flaenorol. Cyn belled â’u bod heb gael rhoddion yn y chwarter diwethaf, neu nad ydynt wedi derbyn ac wedi dychwelyd rhoddion annerbyniol, maent wedi'u heithrio rhag cyflwyno adroddiad. 
  • Diffinnir cymdeithas anghorfforedig gan y gyfraith fel unrhyw gymdeithas o ddau neu ragor o bobl sy’n cynnal busnes neu weithgareddau eraill yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn y Deyrnas Unedig ac y mae eu prif swyddfa yno. Dim ond os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol y caiff cymdeithasau anghorfforedig eu rheoleiddio, a rhaid iddynt gofrestru gyda ni os ydynt yn gwneud cyfraniadau gwleidyddol dros £37,270 mewn blwyddyn galendr.  
  • Bwriad newidiadau arfaethedig y llywodraeth i’r drefn cyllid gwleidyddol yw cryfhau'r system drwy gau bylchau. Dylai hyn, yn ei dro, ddatblygu ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd. Mae’r llywodraeth wedi cynnig:
    • newid y gyfraith fel mai cwmnïau sydd â chysylltiad â’r DU ac sydd wedi cynhyrchu refeniw yn y DU yn unig a all wneud rhoddion gwleidyddol
    • cyflwyno gwiriadau ‘adnabod eich rhoddwr’ ychwanegol ar gyfer pleidiau gwleidyddol
    • cau rhai o’r bylchau yn y drefn cymdeithasau anghorfforedig
  • Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
    • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
    • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
    • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
      Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.