Un wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio yn etholiad y Senedd
Gyda dim ond wythnos ar ôl i gofrestru i bleidleisio mewn pryd ar gyfer etholiad y Senedd ar 7 Mai, mae'r Comisiwn Etholiadol yn annog pleidleiswyr i gofrestru cyn y dyddiad cau sef 11.59pm ddydd Llun 20 Ebrill.
Dim ond 5 munud y mae’n ei gymryd i gofrestru a gellir ei wneud ar-lein trwy fynd i gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Bydd angen i bleidleiswyr ddarparu eu henw, eu cyfeiriad a'u rhif yswiriant gwladol. Bydd angen i unrhyw un a oedd ar y gofrestr yn flaenorol ac sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar neu y mae ei fanylion wedi newid, gofrestru i bleidleisio eto.
Gall pobl 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys sy'n byw yng Nghymru gofrestru i bleidleisio yn yr etholiad hwn. Er gwaethaf hyn, mae ymchwil y Comisiwn Etholiadol yn dangos mai dim ond 43% o bobl 16–17 oed sydd wedi cofrestru i bleidleisio yng Nghymru, o'i gymharu â 95% o'r rhai dros 65 oed. Mae grwpiau eraill sy'n llai tebygol o fod wedi cofrestru yn cynnwys myfyrwyr, pobl sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, rhentwyr preifat, a dinasyddion tramor.
Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol, Cymru:
“Dim ond pobl sydd wedi cofrestru i bleidleisio all ddweud eu dweud yn etholiad y Senedd ar faterion sy’n bwysig i Gymru. Os mai dyma’r tro cyntaf i chi bleidleisio, neu os yw eich manylion wedi newid ers i chi bleidleisio ddiwethaf, gwnewch yn siŵr eich bod yn cofrestru erbyn hanner nos ddydd Llun 20 Ebrill.
“Ochr yn ochr â’n hymgyrch hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr, rydym yn falch o weithio’n agos gyda sefydliadau partner ledled Cymru gan gynnwys Shelter Cymru, Race Equality First, RNIB Cymru a Phlant yng Nghymru i ddarparu cymorth ac adnoddau ychwanegol i grwpiau yr ydym yn gwybod sy’n llai tebygol o fod wedi cofrestru.”
Dywedodd Christina Tanti, Pennaeth Ymchwill i Race Equality First:
“Mae pobl o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru yn cael eu tangynrychioli’n rheolaidd o ran nifer y pleidleiswyr sy’n pleidleisio mewn etholiadau – nid oherwydd diffyg diddordeb, ond oherwydd rhwystrau fel iaith, diffyg hyder, a diffyg gwybodaeth glir a hygyrch am sut mae pleidleisio a chyfranogiad democrataidd yn gweithio yng Nghymru.
“Mae Race Equality First yn gweithio gyda chymunedau ethnig lleiafrifol i ddymchwel y rhwystrau hynny drwy ddarparu cymorth a gwybodaeth glir, diduedd ac ymarferol ynghylch cofrestru a phleidleisio. Dyma’r math o ymgysylltu ystyrlon, sy’n canolbwyntio ar y gymuned, sy’n helpu i greu democratiaeth fwy cyfartal a chynrychioliadol yng Nghymru.”
Gall pleidleiswyr ddefnyddio'r chwiliwr cod post ar wefan y Comisiwn i ddod o hyd i'w gorsaf bleidleisio. Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID i bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Gall y rhai sydd wedi cofrestru i bleidleisio ond na allant gyrraedd eu gorsaf bleidleisio leol gofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy. Mae gan bleidleiswyr tan 5pm ar yr 21ain o Ebrill i gofrestru ar gyfer pleidlais drwy’r post neu 5pm ar yr 28ain o Ebrill ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy.
Diwedd
Mae gan y Comisiwn gynrychiolwyr ar gael i drafod ein hymgyrchoedd gwybodaeth i bleidleiswyr a chofrestru pleidleiswyr. Cysylltwch ag Ella Farrell, Swyddog Cyfathrebu ac Ymgysylltu, drwy e-bostio [email protected] neu ffoniwch 0292 0346 824 os oes gennych unrhyw gwestiynau neu geisiadau am gyfweliad.
Nodiadau i olygyddion
- Mae'r Comisiwn wedi cynhyrchu canllawiau i'r cyfryngau ar etholiadau lleol 2026 yng Nghymru.
- Mae delweddau o'n tafluniadau ymgyrch cofrestru pleidleiswyr yn y Senedd, Castell Caerdydd a Chastell Caernarfon ar gael i'w lawrlwytho a'u defnyddio at ddibenion cyfathrebu.
- Dyddiadau i fod yn ymwybodol ohonynt ar gyfer cynllunio:
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yw canol nos dydd Llun 20 Ebrill
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio drwy’r post yw 5pm ddydd Mawrth 21 Ebrill
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy yw 5pm ddydd Mawrth 28 Ebrill
- Ar y diwrnod pleidleisio, sef dydd Iau 7 Mai, bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor 07:00 – 22:00
- Cynhelir y cyfrif ddydd Gwener 8 Mai
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.