Adnoddau partner ar gyfer etholiad Senedd Mai 2026 yng Nghymru
Ar 7 Mai 2026, mae Etholiad Seneddol yn cael ei gynnal yng Nghymru.
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau,chwarae rhan bwysig wrth gynorthwyo pleidleiswyr cyn etholiad y Senedd.
Rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau i gefnogi pobl i gofrestru i bleidleisio ac i ddarparu gwybodaeth am y system bleidleisio a'r Senedd.
Adnoddau cofrestru i bleidleisio
I gefnogi ein hymgyrch cofrestru pleidleiswyr, rydym wedi creu amrywiaeth o adnoddau partner i helpu awdurdodau lleol a sefydliadau cymdeithas sifil i hyrwyddo cofrestru pleidleiswyr.
Mae'r posteri hyn yn arddangos cynrychiolwyr o grwpiau rydyn ni'n gwybod sy'n llai tebygol o fod wedi cofrestru gan gynnwys pobl sy'n profi digartrefedd, pobl ag anableddau dysgu, menywod Mwslimaidd a chymunedau Sipsiwn, Roma a Theithwyr.
Adnoddau gwybodaeth i bleidleiswyr
Mae'r adnoddau hyn wedi'u cynllunio i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau i'r Senedd, y system bleidleisio newydd a phleidleisio yn bersonol neu drwy'r post neu drwy ddirprwy.
Mae ein hadnoddau digidol wedi’u datblygu ar gyfer Facebook, Instagram a X.
Posteri A3, A4 ac A5 mewn opsiynau 'argraffu masnachol' ac opsiynau 'parod i'w hargraffu.'
Cliciwch y dolenni isod i weld ein hanimeiddiadau gwybodaeth i bleidleiswyr. Gallwch eu rhannu drwy gopïo'r ddolen neu'r cod mewnosod, neu lawrlwytho'r ffeil drwy glicio'r botwm islaw teitl y fideo.
Voter information animation - portrait (English)
Voter information animation - landscape (English)
Adnoddau Croeso i Dy Bleidlais
Er mwyn cefnogi cofrestru ymhlith pobl 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys, rydym wedi datblygu adnoddau digidol ac adnoddau i'w hargraffu penodol ar gyfer y cynulleidfaoedd hyn.
Adnoddau i bartneriaid
Datblygwyd yr adnoddau gan sefydliadau partner i gefnogi ymgysylltiad democrataidd ymysg grwpiau penodol.
Mae Race Equality First wedi datblygu Cwestiynau Cyffredin am etholiadau yn rhai o'r ieithoedd tramor a siaredir fwyaf yng Nghymru.
Mae'r Senedd wedi creu llyfryn yn cynnwys gwybodaeth am yr etholiad a'r newidiadau mewn llawer o ieithoedd. Mae'r llyfryn ar gael ar wefan y Senedd.
Gan weithio mewn partneriaeth ag Age Cymru, rydym wedi datblygu canllawiau i helpu staff gofal i gefnogi’r bobl y maen nhw’n gofalu amdanynt i bleidleisio. Er bod yr adnoddau wedi’u teilwra i’w defnyddio yng Nghymru, gall rhai o’r canllawiau hefyd fod yn ddefnyddiol i’r rheiny sy’n gweithio mewn cartrefi gofal a lleoliadau tebyg mewn mannau eraill yn y DU.
Lawrlwythwch ein canllawiau ar gyfer cefnogi pobl sydd mewn cartrefi gofal.
- lawrlwythwch fersiwn Hawdd ei Ddarllen o’ch canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd
- yn dod yn fuan - lawrlwythwch fersiwn Print Bras o’ch canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd
- gwyliwch fersiwn IAP o’ch canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd
- lawrlwythwch fersiwn sain digidol o’ch canllaw i bleidleisio yn etholiad y Senedd
- cysylltwch â ni am fersiwn sain digidol ar CD
- cysylltwch â ni am fersiwn Braille
Ceir adnoddau hawdd ei ddarllen bellach ar wefan Anabledd Dysgu Cymru
Mewn partneriaeth ag RNIB Cymru, rydym wedi datblygu canllaw poced ar gyfer pleidleiswyr dall a rhannol ddall ar yr hyn i'w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio.
Mae Shelter Cymru wedi datblygu pecyn adnoddau a modiwl hyfforddi ar-lein i staff sy'n cefnogi pobl sy'n profi digartrefedd a thenantiaid cymdeithasau tai i gofrestru i bleidleisio a chymryd rhan yn etholiad y Senedd.
- Hyfforddiant ar-lein
- Pecyn Adnoddau