Y Comisiwn Etholiadol yn cau pum ymchwiliad gyda dirwyon ar gyfer dwy blaid wleidyddol
Y Comisiwn Etholiadol yn cau pum ymchwiliad gyda dirwyon ar gyfer dwy blaid wleidyddol
Mae ymchwiliadau i bum plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau ar y Ceidwadwyr a’r Blaid Lafur. Mae cyhoeddi ymchwiliadau sudd wedi dod i ben yn rhan bwysig o ddarparu tryloywder o ran cyllid gwleidyddol yn y DU.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod trosedd
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
British Independents (plaid wleidyddol sydd wedi’i dadgofrestru) | Methu â danfon cyfrifon blynyddol ar gyfer 2021 | Cafwyd bod trosedd | Dim cosb |
Y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol (Prydain Fawr) (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am roddion |
Troseddau a gafwyd |
Tair dirwy o £200 yr un Dirwyon wedi’u talu |
Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol) | Adrodd yn hwyr am roddion | Troseddau a gafwyd |
Dwy ddirwy o £200 yr un Dirwyon wedi’u talu |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“At ddibenion tryloywder, mae’n rhaid i bleidiau adrodd am roddion yn chwarterol i ni, felly mae’n bwysig bod yr wybodaeth maent yn ei rhoi yn gywir. Mae'r gofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chydymffurfir â hwy.
“Lle canfyddwn fod troseddau wedi’u cyflawni, ystyriwn yn ofalus yr amgylchiadau wrth benderfynu p’un a ddylid gosod cosb, ac os felly, lefel y gosb honno, gan gymryd i ystyriaeth cymesuredd ac ystod o ffactorau fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi.
Ymchwiliadau lle na chafwyd bod trosedd
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Redcar and Cleveland Independent (plaid wleidyddol sydd wedi’i dadgofrestru) | Methu â danfon cofnodion rhoddion chwarterol mewn pryd | Dim trosedd |
Dim cosb Achos wedi’i gau |
Unionist Clubs Scotland (ymgyrchydd) | Methu â chynnwys argraffnod dilys ar ddeunydd ymgyrchu | Dim trosedd |
Dim cosb Achos wedi’i gau |
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.