Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bum plaid wleidyddol
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i bum plaid wleidyddol
Mae ymchwiliadau i bum plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau o £1,500 mewn un achos. Mae hyn yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
A Better Way To Govern (plaid wleidyddol) | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Dim cosb |
Democratic Network (plaid wleidyddol) | Adroddiadau rhoddion chwarterol heb eu cyflawni | Adroddiadau rhoddion chwarterol heb eu cyflawni | Dim cosb |
Holland on Sea & Eastcliff matters (plaid wleidyddol) | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Dim cosb |
Democratiaid Rhyddfrydol (plaid wleidyddol) |
Adrodd yn hwyr am roddion Talu anfonebau yn hwyr Talu anfonebau a gafwyd yn hwyr |
Adrodd yn hwyr am roddion Talu anfonebau yn hwyr Talu anfonebau a gafwyd yn hwyr |
5 cosb sy’n dod i gyfanswm o £1,500 |
Political Unity for Progress (plaid wleidyddol) | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Danfon datganiad blynyddol o gyfrifon yn hwyr | Dim cosb |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio:
“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol yn eu lle er mwyn sicrhau bod y system yn dryloyw ac yn gywir. Mae'r gofynion ar gyfer pleidiau gwleidyddol yn glir, felly mae hi’n siomedig pan na chânt eu bodloni.
“Yn achos y Democratiaid Rhyddfrydol, gwnaeth ein hymchwiliadau ganfod troseddau oedd yn gysylltiedig ag adrodd am roddion yn hwyr a’r ffurflen gwariant o etholiad cyffredinol Senedd y DU 2019.
“Lle canfyddwn troseddau, nid ydym yn gosod cosbau yn awtomatig. Rydym yn pwyso a mesur y dystiolaeth ac yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau cyn dod i’n penderfyniad terfynol.”
Diwedd
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, anfonwch e-bost i [email protected]
Notes to editors
Nodiadau i olygyddion
1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.
2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.
3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.