Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol (Mai 2024)
Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i dair plaid wleidyddol
Mae pedwar ymchwiliad i dair plaid wleidyddol wedi’u cau dros y mis diwethaf gyda’r Comisiwn Etholiadol yn gosod cosbau mewn tri achos.
Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Prydain Yn Gyntaf (Britain First) (plaid wleidyddol gofrestredig) | Methiant y blaid i gyflwyno’i datganiad o gyfrifon ar gyfer 2022 erbyn y dyddiad cau | Cafwyd bod un trosedd | Un ddirwy o £1,500 Y gosb yn ddyledus ar 16 Mai 2024 |
The Labour Party (accounting unit – Ipswich Constituency Labour Party) | Yr uned cyfrifo yn adrodd yn hwyr am ei ddatganiad o gyfrifon ar gyfer 2021 | Cafwyd bod un trosedd | Dim cosb |
Y Blaid Lafur (plaid wleidyddol gofrestredig) | Y methiant i roi gwybod am newid yn nhrysorydd yr uned cyfrifo, ac adroddwyd yn hwyr am bedair rhodd | Cafwyd bod un camwedd Cafwyd bod pedair trosedd | Rhoddwyd hysbysiad o gydymffurfiaeth Un ddirwy o £400 Talwyd y gosb ar 13 Mai 2024 |
Democratiaid Rhyddfrydol (plaid wleidyddol gofrestredig) | Adrodd yn hwyr am bedair rhodd | Cafwyd bod pedair trosedd | Un ddirwy o £350 Talwyd y gosb ar 12 Ebrill 2024 |
Dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio a Thrawsnewid Digidol:
“Mae’r cyfreithiau rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder o ran sut mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hariannu ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod pleidiau’n cydymffurfio â’r gofynion ac yn adrodd i ni’n amserol.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. - Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o fisoedd blaenorol ar gael.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholi