Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol

Electoral Commission concludes investigations into two political parties

Mae’r Comisiwn Etholiadol wedi cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol. Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben. 

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio Yr hyn y gwnaethom ganfod Canlyniad
Y Blaid Lleol yn Gyntaf (plaid wleidyddol) Methu â chyflwyno’i datganiad cyfrifon ar gyfer 2023 yn brydlon Ni chafwyd bod trosedd Dim camau gweithredu pellach 
Propel (plaid wleidyddol)Adrodd yn hwyr am ddwy rodd anariannol Ni chafwyd bod trosedd Dim camau gweithredu pellach 

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:  

“Mae’r cyfreithiau cyllid gwleidyddol rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder o ran sut mae pleidiau gwleidyddol yn cael eu hariannu ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod pleidiau’n cydymffurfio â’r gofynion ac yn adrodd i ni’n amserol.”

“Fel rheoleiddiwr, rydym yn ymddwyn yn gymesur ac yn cymryd i ystyriaeth ystod o ffactorau wrth ddod i’n penderfyniadau, fel y nodwyd yn ein Polisi Gorfodi. Ein blaenoriaeth bob tro yw helpu’r gymuned a reoleiddir i gydymffurfio â’r rheolau a chyflawni tryloywder.”

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]  

Nodiadau i olygyddion

  1. Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
        •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i’r afael ag amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch. 
        •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau.
        •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd. 
    Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae’n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban. 
  2. Mae’r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau’r Comisiwn. Dyma ran bwysig o’i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi’n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan. 
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi’u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i’r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.