Y Comisiwn Etholiadol yn cau ymchwiliadau i ddwy blaid wleidyddol (Mai 2025)

Electoral Commission concludes investigations into two political parties (May 2025)

Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cwblhau dau ymchwiliad yn ymwneud â chyflwyno datganiadau cyfrifon blynyddol yn hwyr. Yn y ddau achos, penderfynodd y Comisiwn nad oedd er budd y cyhoedd i barhau â'r ymchwiliad a chaeodd ef heb benderfynu a oedd trosedd wedi'i chyflawni.  

Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben. 

Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilioYr hyn y gwnaethom ganfod Canlyniad 
Grŵp Trigolion Annibynnol Kingston (Prydain Fawr) (plaid wleidyddol gofrestredig)Danfon datganiad o gyfrifon 2023 yn hwyr Ni chafwyd trosedd Dim camau gweithredu pellach
Plaid Annibyniaeth y Gogledd (Prydain Fawr) (plaid wleidyddol ddadgofrestredig)Danfon datganiad o gyfrifon 2023 yn hwyr Ni chafwyd trosedd Dim camau gweithredu pellach 

Mae cyfraith etholiadol yn ei gwneud yn ofynnol i bob plaid gyflwyno datganiadau cyfrifon blynyddol i'r Comisiwn. Mae'r gofyniad hefyd yn berthnasol i unedau cyfrifyddu sydd ag incwm neu wariant blynyddol o fwy na £25,000.

Dywedodd Claire Robbie, Pennaeth Gweithredu Rheoleiddiol a Gorfodi:  

“Canfu ein hymchwiliadau i Blaid Annibyniaeth y Gogledd a Grŵp Trigolion Annibynnol Kingston fod eu datganiad o gyfrifon ar gyfer 2023 wedi’i adrodd yn hwyr. Ni wnaethom ystyried cosb gymesur yn yr achosion hyn oherwydd bod esboniadau rhesymol wedi’u darparu, ond rydym wedi bod yn gweithio i sicrhau eu bod yn deall eu rhwymedigaethau cyfreithiol a’u bod yn eu cyflawni’n gywir yn y dyfodol.

“Mae’r cyfreithiau rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder yn y drefn cyllid gwleidyddol ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod datganiad o gyfrifon yn cael ei adrodd yn gywir ac ar amser.”

Diwedd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected] 

Nodiadau i olygyddion

  1. TY Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
        •    galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
        •    rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
        •    defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd.
    Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
  2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
  3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.