Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad PACAC ar etholiad cyffredinol Senedd y DU
Y Comisiwn Etholiadol yn croesawu adroddiad PACAC ar etholiad cyffredinol Senedd y DU
Mae'r Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol (PACAC) wedi cyhoeddi adroddiad heddiw ar etholiad cyffredinol Senedd y DU 2024.
Mae'r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion yn ymwneud â gwydnwch y system etholiadol a gwelliannau i brofiadau'r rhai sy'n cymryd rhan mewn etholiadau a'r rhai sy'n cyflwyno etholiadau yn y dyfodol.
Wrth wneud sylwadau ar yr adroddiad, dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr:
“Mae’r system etholiadol yn rhan hanfodol o seilwaith cenedlaethol hollbwysig y DU ac mae’n dod o dan bwysau cynyddol. Rydym yn croesawu adroddiad y Pwyllgor a’r argymhellion clir i wella gwydnwch y system ac i gefnogi pleidleiswyr yn well i gymryd rhan.
“Rydym yn croesawu casgliadau’r adroddiad ar wella addysg ddemocrataidd i bobl ifanc ac ymdrin â’r lefelau annerbyniol o gam-drin a bygwth ymgeiswyr yn arbennig. Mae gan y Comisiwn gynllun pum mlynedd uchelgeisiol i fynd i'r afael â'r heriau hyn, a byddwn yn gweithio gyda'r llywodraeth, y gymuned etholiadol a phartneriaid i sicrhau bod etholiadau'n cynnal hyder.
“Rydym hefyd yn falch o weld cydnabyddiaeth y Pwyllgor o rôl y Comisiwn. Byddwn nawr yn ystyried argymhellion yr adroddiad ar gyfer ein gwaith yn ofalus ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor am y cynnydd.”