Y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi’r wybodaeth ddiweddaraf am ymchwiliad sydd wedi dod i ben (Jan)
Electoral Commission publishes concluded investigation update
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi cwblhau ymchwiliad i Ymgyrch Diwygio Etholiadol Llafur. Canfu'r ymchwiliad fod y gymdeithas aelodau wedi methu ag adrodd am roddion mewn pryd.
Mae’r cyhoeddiad yn rhan o ddiweddariad misol y Comisiwn ar ymchwiliadau sydd wedi dod i ben.
Pwy y gwnaethom ymchwilio iddynt | Yr hyn y gwnaethom ei ymchwilio | Yr hyn y gwnaethom ganfod | Canlyniad |
---|---|---|---|
Ymgyrch Diwygio Etholiadol Llafur (cymdeithas aelodau) | Methiant y blaid i adrodd am 14 rhodd mewn pryd | Ni chanfuwyd unrhyw droseddau | Dim camau gweithredu pellach |
Grŵp sy'n cynnwys aelodau plaid wleidyddol yn gyfan gwbl neu'n bennaf yw cymdeithas aelodau. Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i gydymaith adrodd am roddion y mae'n eu derbyn gyda gwerth dros £11,180 a phob rhodd nas caniateir dros £500, yn unol â'i weithgareddau gwleidyddol.
Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr Gweinyddiaeth a Rheoleiddio Etholiadol:
“Canfu ein hymchwiliad i Ymgyrch Diwygio Etholiadol Llafur fethiannau i adrodd am bedwar ar ddeg o roddion mewn pryd. Ni wnaethom ystyried cosb gymesur yn yr achos hwn, ond rydym wedi bod yn gweithio gyda’r grŵp i sicrhau ei fod yn deall ei rwymedigaethau cyfreithiol ac yn eu cyflawni’n gywir yn y dyfodol.
“Mae’r cyfreithiau rydym yn eu gorfodi yno i sicrhau tryloywder yn y drefn cyllid gwleidyddol ac i wella hyder y cyhoedd yn ein system, felly mae’n bwysig bod rhoddion yn cael eu hadrodd yn gywir ac ar amser.”
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704 neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, e-bostiwch [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
• galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch.
• rheoleiddio cyllid gwleidyddol – cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
• defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd. - Sefydlwyd y Comisiwn yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion ymchwiliadau sydd wedi’u cau o fisoedd blaenorol hefyd ar gael ar ein gwefan.
- Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EF ac nid y Comisiwn Etholiadol.