Y Comisiwn Etholiadol yn lansio peilot canfod ffugiadau dwfn i atal camwybodaeth deallusrwydd artiffisial
Mae'r Comisiwn Etholiadol wedi lansio cynllun peilot arloesol i ganfod ffugiadau dwfn gwleidyddol ac atal y bygythiad cynyddol o gamwybodaeth deallusrwydd artiffisial. Mae'r cynllun peilot bellach ar waith cyn etholiadau mis Mai yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Mae'r system yn monitro cynnwys ar-lein am glipiau sain a fideos ffug sydd â'r bwriad o gamarwain pleidleiswyr am y broses etholiadol neu bortreadu ymgeiswyr yn ffug. Er enghraifft, fideos ffug yn honni bod ymgeisydd wedi tynnu'n ôl, neu glipiau sain sy'n dangos ymgeisydd yn gwneud sylwadau sarhaus.
Gall gwybodaeth ffug neu gamarweiniol gael ei rhannu'n gyflym yn ystod etholiadau, ac mae offer deallusrwydd artiffisial wedi gwneud ffugiadau dwfn perswadiol yn gyflymach ac yn rhatach i'w cynhyrchu. Yn Iwerddon yn 2025, dangosodd ffugiad dwfn ymgeisydd arlywyddol yn tynnu'n ôl o’r ras ychydig ddyddiau cyn diwrnod yr etholiad.
Yn ystod etholiad cyffredinol y DU yn 2024, dywedodd dros hanner y pleidleiswyr a holwyd gan y Comisiwn eu bod wedi gweld gwybodaeth gamarweiniol am bleidiau neu ymgeiswyr, ac adroddodd tua chwarter eu bod wedi gweld neu wedi clywed ffugiad dwfn.
Dywedodd Vijay Rangarajan, Prif Weithredwr y Comisiwn Etholiadol:
“Mae pleidleiswyr eisiau gwybodaeth gywir. Ni ddylid rhannu fideo o ymgeiswyr sy'n gamarweiniol neu'n sarhaus yn fwriadol. Mae ffugiadau dwfn yn dod yn fwy soffistigedig ac yn fwy hygyrch, fel yr ydym wedi'i weld mewn etholiadau ledled y byd.
“Nid yw ffugiad dwfn wedi effeithio’n ystyrlon ar etholiad yn y DU eto, ac rydym yn benderfynol o’i gadw felly. Mae'r cynllun peilot hwn yn golygu y gallwn adnabod ffugiadau dwfn yn gyflym, olrhain eu heffaith, a gweithio gyda phleidiau ac ymgeiswyr i dynnu neu gywiro deunydd camarweiniol. Bydd hyn yn rhoi hyder i bleidleiswyr bod gwybodaeth gywir ar gael am sut mae etholiadau'n gweithio. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau ar ôl etholiadau mis Mai.”
Mae'r cynllun peilot yn cael ei gyflwyno mewn partneriaeth ag ACE, yr Accelerated Capability Environment, uned arloesi o fewn y Swyddfa Gartref.
Bydd y Comisiwn yn monitro ac yn casglu’r dystiolaeth. Pan fydd y Comisiwn yn nodi cynnwys sy'n codi pryderon difrifol, gall gyfeirio deunydd at yr heddlu a chyrff perthnasol eraill a gall ofyn am ei ddileu oddi ar y cyfryngau cymdeithasol.
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall gallwch e-bostio [email protected]
Nodiadau i olygyddion
- Y Comisiwn Etholiadol yw’r corff annibynnol sy’n goruchwylio etholiadau ac yn rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hybu hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei chywirdeb drwy:
- alluogi cynnal etholiadau a refferendwm teg, gan ganolbwyntio ar anghenion etholwyr a mynd i’r afael â’r amgylchedd sy’n newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth, a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i’n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
- Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd y DU a Senedd yr Alban.
- Mae'r cynllun peilot yn cwmpasu Cymru, Lloegr a'r Alban, lle cynhelir etholiadau ar 7 Mai 2026, ac mae'n gael ei gynnal o fis Ebrill i fis Mehefin i ganiatáu amser ar gyfer gwerthuso. Nid yw Gogledd Iwerddon wedi'i chynnwys yn y cyfnod hwn, ond bydd y Comisiwn yn ystyried sut y gall y gwaith fod yn berthnasol i etholiadau yn y dyfodol ledled y DU.
- Nid yw'r Comisiwn yn dileu cynnwys, ond lle mae deunydd yn codi pryderon difrifol, gall ofyn am ddileu oddi ar y cyfryngau cymdeithasol. Bydd pob ffugiad dwfn posibl a nodwyd gan yr offer yn cael ei adolygu gan ddadansoddwr dynol cyn cymryd unrhyw gamau gweithredu. Byddwn yn gweithio'n agos gydag ymgeiswyr a phleidiau yr effeithir arnynt.
- Yn Iwerddon yn 2025, dangosodd ffugiad dwfn ymgeisydd arlywyddol yn tynnu'n ôl o'r ras.