Y Llywodraeth yn cadarnhau y bydd etholiadau mis Mai yn mynd yn eu blaenau
Y Llywodraeth yn cadarnhau y bydd etholiadau mis Mai yn mynd yn eu blaenau
Wrth wneud sylw ar ddatganiad y Llywodraeth yn cadarnhau y bydd etholiadau mis Mai yn mynd yn eu blaenau, dywedodd llefarydd ar ran y Comisiwn Etholiadol:
“Mae’n egwyddor ddemocrataidd bwysig y dylai’r etholiadau barhau yn ôl y drefn lle bynnag y bo hynny’n bosib. Mae’r gymuned etholiadol wedi bod yn paratoi at etholiadau diogel yng nghyd-destun COVID-19 ers mis Mawrth y llynedd, pan ohiriwyd etholiadau 2020. Gyda’n gilydd, rydym wedi cymryd camau i helpu pawb sydd ynghlwm wrthynt i gymryd rhan yn ddiogel a chyda hyder.
“Bydd mesurau diogelwch, megis gorchuddion wyneb, glanweithydd dwylo, a phellhau cymdeithasol ar waith i wneud gorsafoedd pleidleisio yn llefydd diogel i bleidleisio a gweithio, ac rydym yn rhannu gwybodaeth gyda phleidleiswyr fel eu bod yn deall y dewisiadau pleidleisio sydd a gael iddynt.
“Rydym yn cefnogi gweinyddwyr yn eu gwaith cymhleth a phwysig er mwyn paratoi at yr etholiadau a’u cyflawni, a byddwn yn parhau i ddiweddaru ein canllawiau ar gyfer pleidiau, ymgyrchwyr, a gweinyddwyr etholiadol fel y bo angen er mwyn adlewyrchu’r cyngor iechyd cyhoeddus diweddaraf ac unrhyw newidiadau deddfwriaethol.”
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i olygyddion
Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:
- galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
- rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
- defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd
Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban, a Senedd y DU.
Mae amcanion y Comisiwn ar gyfer etholiadau llwyddiannus yn y cyd-destun iechyd cyhoeddus presennol i’w gweld ar y wefan.
- Disgwylir i'r etholiadau canlynol gael eu cynnal ar 6 Mai 2021:
- Senedd Cymru
- Senedd yr Alban
- Etholiadau llywodraeth leol Lloegr (gan gynnwys pleidleisiau a ohiriwyd ym mis Mai 2020), gan gynnwys cynghorau sir, cynghorau ardal, a chynghorau plwyf.
- Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (pleidleisiau a ohiriwyd yn mis Mai 2020)
- Etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfun (gan gynnwys pleidleisiau o ohiriwyd ym mis Mai 2020)
- Etholiadau Maerol Lleol (gan gynnwys pleidleisiau o ohiriwyd ym mis Mai 2020)
- Maer Llundain a Chynulliad Llundain (pleidleisiau o ohiriwyd ym mis Mai 2020)