Ymchwiliadau gan y Comisiwn Etholiadol sydd wedi dod i ben

Ymchwiliadau gan y Comisiwn Etholiadol sydd wedi dod i ben

Mae manylion yr ymchwiliadau a ddaeth i ben yn ystod y mis diwethaf wedi'u cyhoeddi heddiw gan y Comisiwn Etholiadol. Mae hyn yn rhan bwysig o’n hymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol yn y DU yn dryloyw.

Ymchwiliadau lle cafwyd bod troseddau:

Enw a’r math o endid a reoleiddir Yr hyn yr ymchwiliwyd iddo Troseddau a gafwyd Penderfyniad a wnaed
Reform UK (plaid wleidyddol gofrestredig)

Methu â chyflwyno adroddiad gwariant ymgyrchu cyflawn

Methu â chyflwyno adroddiad gwariant ymgyrchu cyflawn

Dim cosb

Talu ceisiadau yn hwyr Talu ceisiadau yn hwyr
People Before Profit Alliance (plaid wleidyddol gofrestredig) Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn Methu â dychwelyd rhoddion nas caniateir o fewn 30 diwrnod o'u derbyn

Dim cosb

Wrth wneud sylw ar yr ymchwiliadau sydd wedi dod i ben, dywedodd Louise Edwards, Cyfarwyddwr Rheoleiddio'r Comisiwn:

“Mae deddfau ar bwy sy’n rhoddwr a ganiateir yn eu lle i sicrhau bod pleidiau ond yn derbyn arian gan y rheiny sy’n gymwys i’w roi. Yn achos People Before Profit, cafwyd y rhoddion gan unigolyn nad oedd ar y gofrestr etholiadol am gyfnod dros dro, ac felly ni allai roi rhodd.

“Mae Reform UK wedi methu â darparu adroddiad gwariant ymgyrchu cyflawn ar gyfer Etholiad Cyffredinol Senedd y DU 2019. Roedd y blaid hefyd yn hwyr yn talu ceisiadau am wariant ymgyrchu i’w chyflenwyr. O ran tryloywder, mae’n bwysig bod gan bleidleiswyr wybodaeth amserol a chywir ynghylch cyllid pleidiau gwleidyddol.

“Nid ydym yn codi cosb yn awtomatig pan gyflawnir trosedd, gan ein bod yn cymryd agwedd gymesur ac yn ystyried ffactorau lliniaru.”

Diwedd

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa cyfryngau’r Comisiwn Etholiadol drwy ffonio 020 7271 0704, neu 07789 920 414 y tu allan i oriau swyddfa. Fel arall, anfonwch e-bost i [email protected]

Notes to editors

Nodiadau i olygyddion

1. Y Comisiwn Etholiadol yw'r corff annibynnol sy'n goruchwylio etholiadau a rheoleiddio cyllid gwleidyddol yn y DU. Rydym yn gweithio i hyrwyddo hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd a sicrhau ei huniondeb trwy’r canlynol:

  • galluogi cyflawni etholiadau a refferenda rhydd a theg, canolbwyntio ar anghenion etholwyr, a mynd i'r afael ag amgylchedd sy'n cyson newid i sicrhau bod pob pleidlais yn parhau i fod yn ddiogel ac yn hygyrch
  • rheoleiddio cyllid gwleidyddol - cymryd camau rhagweithiol i gynyddu tryloywder, sicrhau cydymffurfiaeth a mynd ar ôl achosion o dorri rheolau
  • defnyddio ein harbenigedd i wneud newidiadau i'n democratiaeth ac eirioli drostynt, gan geisio gwella tegwch, tryloywder ac effeithiolrwydd

Sefydlwyd y Comisiwn Etholiadol yn 2000 ac mae'n adrodd yn uniongyrchol i Senedd Cymru, Senedd yr Alban a Senedd y DU.

2. Mae'r datganiad hwn yn rhan o ddiweddariad misol ymchwiliadau'r Comisiwn. Dyma ran bwysig o'i ymrwymiad i sicrhau bod cyllid gwleidyddol y DU yn dryloyw. Caiff gwybodaeth o'r natur hon ei chyhoeddi'n rheolaidd ar drydydd dydd Mawrth pob mis. Mae manylion cosbau o'r misoedd blaenorol ar gael.

3. Mae unrhyw gosbau sydd wedi'u rhoi gan y Comisiwn yn mynd i'r Gronfa Gyfunol. Caiff hon ei rheoli gan Drysorlys EM ac nid y Comisiwn Etholiadol.