Ers mis Mai 2023, mae'r system bleidleisio mewn etholiadau maerol yng Nghymru a Lloegr ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr yn defnyddio system y cyntaf i'r felin.
Newidiadau
Roedd etholiadau maerol ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn defnyddio'r system Pleidlais Atodol yn flaenorol, lle gallai pleidleiswyr bleidleisio dros ddewis cyntaf ac ail ddewis. Nawr, mae pleidleiswyr yn dewis un ymgeisydd ar y papur pleidleisio. Mae'r system hon yr un peth â'r un a ddefnyddir yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau lleol yn Lloegr.
Ein rôl
I gefnogi gweinyddwyr etholiadau, gwnaethom ddiweddaru ein canllawiau ar yr etholiadau hyn er mwyn adlewyrchu'r newid i'r system bleidleisio. Rydym wedi ystyried pa weithgarwch sydd ei angen i godi ymwybyddiaeth o'r newid i'r system bleidleisio a sicrhau bod pleidleiswyr a'r gymuned etholiadol yn ei ddeall.
Mae'n arbennig o bwysig osgoi dryswch ymhlith pleidleiswyr os bydd sawl etholiad yn cael ei gynnal gan ddefnyddio systemau pleidleisio gwahanol.