Cofrestr etholiadol fodern
Trosolwg
Rydym yn awyddus i weld newidiadau mawr i'r system gofrestru etholiadol yn y DU.
Summary
Roedd lansio'r gwasanaeth cofrestru ar-lein gan y llywodraeth yn gam mawr ymlaen. Mae wedi helpu'r rheiny sy'n llai tebygol o gael eu cofrestru, megis pobl ifanc a dinasyddion Prydeinig dramor.
Ond mae disgwyliadau pobl mewn oes ddigidol yn datblygu'n barhaus, ac mae angen i'r broses cofrestru pleidleiswyr newid yn unol â hyn.
Rydym yn galw ar lywodraethau'r DU i adeiladu ar y llwyddiant hwn a gwneud y broses cofrestru etholiadol yn symlach byth ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr.
Newidiadau yr hoffem eu gweld
Hoffem weld y canlynol:
- gwell defnydd ar ddata cyhoeddus, fel gwasanaethau eraill y llywodraeth, er mwyn hwyluso'r broses cofrestru pleidleiswyr
- bod y broses cofrestru etholiadol yn cael ei hannog drwy gydol y flwyddyn, nid dim ond cyn yr etholiad
- system cofrestru etholiadol fwy cyson er mwyn lleihau cofrestriadau dyblyg
Bydd newidiadau o'r fath yn:
- creu cyfleoedd i awtomeiddio'r broses cofrestru etholiadol, neu ei chymhathu â gwasanaethau cyhoeddus eraill
- helpu'r swyddogion cofrestru i adnabod ac, o bosib, gofrestru dinasyddion cymwys, a hynny wrth gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol
- lleihau costau cyffredinol y system cofrestru etholiadol drwy ei gwneud yn fwy effeithlon
- sicrhau bod gwell ffyrdd o gofrestru i bleidleisio ar gael
Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd
Rydym wedi bod yn ystyried nifer o opsiynau, megis defnydd data cyhoeddus, proses gofrestru awtomataidd ac awtomatig, a ffyrdd o ganfod a rheoli achosion o ddyblygu.
Mae'n bosibl creu system fwy effeithlon. Darllenwch ein hadroddiad