Etholiadau hygyrch i bawb
Introduction
Dylai pawb allu cofrestru a bwrw eu pleidlais heb wynebu unrhyw rwystrau. Dylent allu pleidleisio fel unigolion ac yn gyfrinachol.
Yn anffodus, mae pobl sydd ag anableddau yn wynebu problemau o hyd wrth fynd i bleidleisio. Nid ydynt bob amser yn gwybod am eu hawliau pleidleisio.
Nid oes gan rai ohonynt yr hyder i gofrestru na bwrw eu pleidlais, tra bod eraill yn wynebu problemau pan fyddant yn mynd i orsaf bleidleisio neu'n pleidleisio drwy'r post.
Newidiadau yr hoffem eu gweld
Rydym yn galw ar lywodraethau'r DU, pleidiau gwleidyddol a'r rhai sy'n cynnal etholiadau i sicrhau bod pleidleisio yn hygyrch i bawb.
Mae'n rhaid i lywodraethau'r DU wneud y canlynol:
- newidiadau i ffurflenni etholiadau er mwyn sicrhau eu bod yn haws eu deall
- darparu mwy o ffyrdd i bobl sydd ag anableddau bleidleisio
- newid y gyfraith er mwyn sicrhau bod gan bobl ag anableddau fwy o ddewis ynghylch pwy y gallant fynd â nhw i orsaf bleidleisio
Rhaid i bleidiau gwleidyddol wneud y canlynol:
- sicrhau bod eu gwybodaeth yn hawdd ei darllen a'i deall
- sicrhau eu bod yn anfon eu gwybodaeth mewn da bryd fel y gall pawb ei darllen
- cyhoeddi fersiynau hygyrch o'u maniffestos ar yr un pryd â fersiynau eraill
Rhaid i bobl sy'n cynnal etholiadau wneud y canlynol:
- gwneud y broses o bleidleisio a chofrestru i bleidleisio yn fwy hygyrch
- gwneud llinellau cymorth yn fwy hygyrch
- cefnogi unrhyw un y mae angen help arnynt i bleidleisio
Yr hyn sydd ar gael ar hyn o bryd
Rydym yn gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cofrestru i bleidleisio a bod eu profiad o bleidleisio’n un da.
- Rydym yn darparu gwybodaeth hygyrch ar gofrestru i bleidleisio a phleidleisioe, a chanllawiau hawdd eu darllen.
- Rydym yn darparu canllawiau i swyddogion canlyniadau i'w defnyddio i wneud eu gorsafoedd pleidleisio'n fwy hygyrch.
Dysgwch ragor am yr hyn sydd ar gael i'r rheiny sydd ag anghenion hygyrchedd
Bydd Deddf Etholiadau 2022 yn gwneud newidiadau i ba help sydd i gael i bobl sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Bydd y newidiadau hyn yn gymwys i etholiadau cyffredinol Senedd y DU, etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon ac etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon, etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr, ac etholiadau lleol yn Lloegr.
Dysgwch ragor am y newidiadau yn Neddf Etholiadau'r DU
O dan Ddeddf Etholiadau 2022, bydd gennym ddyletswydd i ddarparu canllawiau i Swyddogion Canlyniadau ar y gofyniad i ddarparu cyfarpar rhesymol i helpu pleidleiswyr sydd ag anabledd mewn gorsafoedd pleidleisio.
Adrodd ar hygyrchedd etholiadau
Yn 2017, gwnaethom gyhoeddi adroddiad ar brofiadau pobl ag anableddau yn yr etholiad cyffredinol yn 2017.
Roedd hyn mewn ymateb i gais llywodraeth y DU am dystiolaeth ynglŷn â phrofiadau pobl sydd ag analeddau o gofrestru i bleidleisio a phleidleisio.