Diwygio cyfraith etholiadol
Trosolwg
Mae'r gyfraith etholiadol wedi dyddio. Mae rhai o'r cyfreithiau sy'n llywodraethu ein democratiaeth yn dyddio mor bell yn ôl â 1872, ac ni fyddant yn gweithio mewn oes ddigidol.
Summary
Ond, y cyfreithiau hyn sydd wrth wraidd ymddiriedaeth a hyder ym maes gwleidyddiaeth. Mae'n hollbwysig eu bod yn briodol ar gyfer heddiw ac ar gyfer y dyfodol.
Rydym yn galw ar lywodraethau'r DU i ddiwygio'r gyfraith etholiadol a'i gwneud yn symlach, yn gyfredol, ac yn addas ar gyfer y dyfodol
Cyfreithiau sydd wedi dyddio
Ar hyn o bryd, mae dros 100 o ddarnau o ddeddfwriaeth etholiadol. Mae gan bob math o etholiad ei ddeddfwriaeth ei hun.
Rhaid i ni ysgrifennu cannoedd o dudalennau o ganllawiau er mwyn esbonio'r rheolau i ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol, gweinyddwyr etholiadol a phleidleiswyr.
Mae'n bosib y bydd rhaid i'r bobl sy'n cynnal etholiadau gyfeirio at sawl dogfen er mwyn sicrhau eu bod yn dilyn y gyfraith. Mae hyn yn gostus ac yn llafurus.
Nid yw'r gyfraith etholiadol yn caniatáu i lawer o brosesau ar-lein gael eu cyflawni, er bod pobl yn disgwyl bod modd gwneud hynny.
Cyfraith etholiadol fodern
Daeth yn bryd diwygio. Rydym yn awyddus i lywodraethau'r DU foderneiddio'r cyfreithiau hyn.
Bydd cyfraith etholiadol sy'n addas heddiw ac yn y dyfodol yn sicrhau'r canlynol:
- y gellir cynnal etholiadau mewn ffordd well a mwy effeithlon
- y gall ymgeiswyr, pleidiau gwleidyddol a phleidleiswyr ddeall a dilyn y rheolau'n hawdd
- y gellir gwneud camau syml ar-lein, gan wella gwasanaethau ar gyfer pleidleiswyr ac ymgyrchwyr, a lleihau gwastraff
- y gellir diweddaru gwybodaeth yn hawdd wrth i bethau newid
- y bydd gennym bwerau cryfach a'r adnoddau cywir er mwyn addasu i newidiadau, megis rheoleiddio gwariant ar sianeli newydd
Yr hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd
Mae Comisiynau'r Gyfraith yn y DU eisoes wedi darparu glasbrint ar gyfer diwygio'r gyfraith etholiadol, ac mae'r bobl sy'n cynnal, rheoleiddio ac ymgyrchu mewn etholiadau yn ei gefnogi'n frwd.
Rydym yn falch bod Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol Tŷ'r Cyffredin yn ystyried diwygio'r gyfraith etholiadol erbyn hyn.
Mae'n bryd i'r llywodraethau gymryd y mater o ddifrif ac ymrwymo i gyflawni newid sylweddol. Mae angen iddynt flaenoriaethu'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i wneud gwelliannau arwyddocaol.