Cod Ymarfer ar gyfer Arsyllwyr Etholiadol

Wedi’i gyhoeddi o dan adrannau 6F a 6G o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA).

Mewn perthynas ag etholiadau a gedwir yn ôl, refferenda a deisebau etholiadol:

  • a osodwyd gerbron pob Tŷ Seneddol yn unol ag adran 6F(5) PPERA yn dilyn ymgynghori â’r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 6F(4) PPERA a
  • a gyhoeddwyd o dan adran 6F(6) PPERA.

Mewn perthynas ag etholiadau cyffredinol Senedd yr Alban, etholiadau o dan adran 9 o Ddeddf yr Alban 1998 ac etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban:

  • a osodwyd gerbron Senedd yr Alban yn unol ag adran 6G(5) PPERA yn dilyn ymgynghori â Gweinidogion yr Alban o dan adran 6G(4) PPERA a  
  • a gyhoeddwyd o dan adran 6G(6) PPERA.

Mewn perthynas ag etholiadau cyffredinol Aelodau’r Senedd ac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru:

  • a osodwyd gerbron Senedd Cymru yn unol ag adran 6G(6) PPERA ar ôl ymgynghori â Gweinidogion Cymru o dan adran 6G(5) PPERA a
  • a gyhoeddwyd o dan adran 6G(7) PPERA.

Mae’r Comisiwn Etholiadol hefyd yn cyhoeddi canllawiau anstatudol ar gyfer arsyllwyr achrededig ac ar gyfer swyddogion perthnasol. Mae hyn yn nodi manylion pellach am y Cynllun Arsyllwyr Etholiadol, pa etholiadau sy’n cael eu cynnal a pha gyfreithiau sy’n berthnasol. Gellir dod o hyd i’r rhain ar wefan y Comisiwn Etholiadol.