Gwariant Ymgyrchu (Etholiadau'r Senedd) 2025 ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Cefndir
Mae’r Cod Ymarfer hwn wedi’i gyhoeddi gan un o Weinidogion Cymru o dan adran 100A o Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (‘PPERA’).
Paratowyd y Cod drafft gan y Comisiwn Etholiadol (y ‘Comisiwn’) yn unol ag adran 100C PPERA ar ôl ymgynghori â phersonau â diddordeb, Llywodraeth Cymru a Senedd Cymru.
Mae’r adroddiad ymgynghori ar gael ar wefan y Comisiwn.
Cafodd drafft ei gymeradwyo gan Weinidogion Cymru a’i osod gerbron Senedd Cymru (‘y Senedd’) yn unol ag adran 100C PPERA.
Rhaid i’r Comisiwn roi sylw i’r Cod hwn wrth arfer ei swyddogaethau o dan Ran 6 PPERA a chaiff ei ddiwygio o bryd i’w gilydd yn unol ag adran 100A(3) PPERA.
Etholiadau a gwmpesir gan y Cod hwn
Mae’r Cod hwn yn berthnasol ar gyfer etholiadau i Senedd Cymru (etholiadau’r Senedd). Os bydd cyfnod a reoleiddir cyfunol ar waith o dan Ran III Atodlen 10 PPERA, mae rheolau etholiadau’r DU yn berthnasol i rai etholiadau a gynhelir yn ystod y cyfnod hwnnw. Pan fydd hynny’n berthnasol i etholiad i Senedd Cymru, ni fydd y Cod hwn yn berthnasol1
Diben y Cod hwn
Mae’r Cod hwn yn egluro gweithrediad Rhan VI PPERA ar gyfer trydydd partïon yn ystod y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiadau’r Senedd gan gynnwys yn ystod cyfnod a reoleiddir cyfunol pan fo hynny’n berthnasol. Mae’r Comisiwn a’r Cod hwn yn cyfeirio at drydydd partïon fel ‘ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau’.
Mae’r Cod hwn yn amlinellu:
- beth yw ymgyrchydd nad yw'n blaid
- beth yw ymgyrchu di-blaid
- y mathau o dreuliau sy'n dreuliau cymwys
- o dan ba amgylchiadau yr ystyrir bod treuliau'n cael eu hysgwyddo neu beidio er mwyn hyrwyddo neu sicrhau llwyddiant etholiadol
- y mathau o wariant sy'n cael eu hystyried yn ymgyrchu ar y cyd
- beth yw gwariant a reolir wedi'i dargedu a phryd mae'n berthnasol y gofynion cofnodi a adrodd (gan gynnwys ar gyfer cyfnodau a reoleiddir cyfunol).
Diffiniadau a thermau allweddol
Defnyddir y termau canlynol yn y Cod hwn fel y’u diffinnir yn y ddeddfwriaeth.
Yn y Cod hwn, mae’r diffiniadau canlynol yn berthnasol:
Mae i swm priodol yr un ystyr ag sydd i appropriate amount yn adran 86 PPERA.
Mae i wariant ymgyrchu yr un ystyr ag sydd i campaign expeniture yn adran 72 PPERA.
Mae ymgeisydd yn golygu ymgeisydd mewn etholiad perthnasol o dan adran 22 PPERA.
Mae i wariant a reolir yr un ystyr ag sydd i controlled expeniture yn adran 85 PPERA.
Mae i rodd yr un ystyr ag sydd i donation yn Atodlen 11 PPERA.
Mae ymgyrchoedd cyffredinol yn ymgyrchoedd sy'n bodloni'r diffiniad o general campaigns yn adran 85(2)(b) PPERA ac maent yn cael eu rheoleiddio o dan Ran 6 PPERA; bod yr ymgyrch o blaid neu yn erbyn un neu fwy o bleidiau gwleidyddol; pleidiau neu ymgeiswyr sy'n cefnogi neu sydd ddim yn cefnogi polisïau penodol; neu gategori arall o ymgeiswyr.
Mae i wariant tybiannol yr un ystyr ag sydd i notional expenditure yn adran 86 PPERA.
Mae PPERA yn cyfeirio at Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (fel y’i diwygiwyd)
Ystyr plaid wleidyddol yw plaid sydd wedi'i chofrestru o dan Ran II PPERA.
Ystyr cyfnod a reoleiddir yw’r ‘cyfnod perthnasol’ ar gyfer etholiad i’r Senedd fel y’i nodir (‘relevant period’) yn Atodlen 10 paragraff 6 PPERA.
Mae etholiad perthnasol yn golygu’r etholiadau hynny a nodir yn adran 22 PPERA:
- etholiadau Senedd y DU
- etholiadau Senedd yr Alban
- etholiadau Senedd Cymru
- etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon
- etholiadau comisiynwyr heddlu a throseddu
- etholiadau llywodraeth leol
- etholiadau lleol yng Ngogledd Iwerddon
Mae i’r gair costau ei ystyr arferol o dreuliau eitem, neu'r treuliau sy’n gysylltiedig ag eitem. Mae'n cynnwys y swm priodol i'w drin fel swm sydd wedi’i ysgwyddo gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid o dan y gyfraith ar wariant tybiannol.
Mae ysgwyddo yn golygu gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian.
Mae ymgyrchydd nad yw'n blaid yn golygu unigolyn neu sefydliad sy'n ymgyrchu o amgylch etholiadau heb fod ag ymgeiswyr eu hunain fydd yn sefyll etholiad. Yn PPERA, cyfeirir at ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau fel ‘trydydd partïon’.
Mae ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yn golygu ymgyrchydd nad yw'n blaid sydd ar y gofrestr a ddelir gan y Comisiwn yn unol â hysbysiad a roddir i'r Comisiwn o dan adran 88 PPERA. Cyfeirir at ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau fel ‘trydydd partïon cydnabyddedig’ yn PPERA (gweler adran 88 am y diffiniad statudol).
Mae trothwy adrodd yn golygu’r ‘terfynau gwariant haen isaf’ a ddiffinnir yn adran 85(5B) ac a nodir yn adran 94(5) PPERA fel £10,000 ar gyfer Cymru.
Mae ffurflen gwariant yn golygu ffurflen gwariant a reolir gan ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid fel sy'n ofynnol o dan adran 96 PPERA.
Diffinnir gwariant wedi’i dargedu yn adran 94D PPERA. Cyfeirir ato weithiau fel ‘gwario wedi’i dargedu’. Mae’n golygu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir y gellir yn rhesymol ei ystyried fel gwariant y bwriedir iddo ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio dros un blaid benodol neu dros unrhyw un o'i hymgeiswyr. Mae'n berthnasol mewn perthynas ag Etholiad Cyffredinol Senedd y DU neu yn ystod cyfnod a reoleiddir cyfunol. Nid yw’n berthnasol ar gyfer etholiadau Senedd Cymru.
Y Cod hwn a chanllawiau eraill a gyhoeddwyd gan y Comisiwn
Mae’r Cod hwn yn ffurfio canllawiau statudol.
Mae’r Cod hwn yn wahanol i fathau eraill o ganllawiau y mae’r Comisiwn yn eu cyhoeddi oherwydd ei fod wedi’i gymeradwyo gan y Senedd.
Mae'r Comisiwn hefyd yn cyhoeddi canllawiau anstatudol ar dreuliau a ysgwyddir gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac yn cyhoeddi canllawiau cyfredol ynghylch pa etholiadau sy'n cael eu cynnal a pha ddeddfau sy'n berthnasol ar ei wefan.
Pan fo’r Cod hwn neu unrhyw ganllawiau cysylltiedig yn dweud bod rhaid gwneud rhywbeth, mae hynny’n golygu ei fod yn ofyniad naill ai mewn deddfwriaeth sylfaenol neu mewn is-ddeddfwriaeth.
Troseddau ac amddiffyn
Mae adran 100A(5A) PPERA yn darparu amddiffyniad ar gyfer ymgyrchydd nad yw'n blaid sydd wedi'i gyhuddo o drosedd o dan Ran 6 PPERA pan fo'r drosedd honno'n ymwneud â gwariant sydd wedi’i ysgwyddo neu sy’n cael ei drin fel gwariant sydd wedi’i ysgwyddo gan ymgyrchydd nad yw'n blaid yn ystod y cyfnod a reoleiddir, pan fydd yr ymgyrchydd nad yw'n blaid yn gallu dangos ei fod wedi cydymffurfio â'r Cod hwn wrth benderfynu a fyddai ei weithgarwch ymgyrchu yn ymgyrchu oedd wedi’i reoleiddio2
Beth yw canlyniadau torri’r Cod hwn?
Gall torri'r gyfraith a esbonnir yn y Cod hwn arwain at gyflawni trosedd gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid, y person cyfrifol neu'r unigolyn sy'n gwario'r arian. Gall cyflawni trosedd arwain at gosb sifil (fel dirwy) neu erlyniad. Mae Polisi Gorfodi’r Comisiwn yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gosbau sifil.
Beth yw ymgyrchydd nad yw’n blaid?
Mae rhai unigolion a sefydliadau, nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol cofrestredig, yn ymgyrchu dros neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr, neu ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, heb fod ag ymgeiswyr yn sefyll eu hunain.
Mewn cyfraith etholiadol, diffinnir yr unigolion a'r sefydliadau hyn fel trydydd partïon. Mae'r Comisiwn yn cyfeirio atynt fel ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Mae deddfau y mae'n rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eu dilyn ar wariant, rhoddion ac adrodd ynghylch ymgyrchu.
Mae llawer o unigolion a sefydliadau yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ac yn bodloni'r diffiniad o ymgyrchydd nad yw'n blaid ond sydd heb eu cynnwys yn y drefn reoleiddio.
Pwy sy'n dod o dan y gyfraith
Mae'r gyfraith ar wariant a rhoddion yn berthnasol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n gwario mwy na £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir3 .
Dim ond os yw wedi'i restru yn adran 88(2) PPERA fel rhywun sy'n gymwys i roi hysbysiad i'r Comisiwn y gall ymgyrchydd nad yw'n blaid wario mwy na £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae'n drosedd gwario mwy na £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os yw'r ymgyrchydd nad yw'n blaid heb ei restru yn a88(2) fel rhywun sy'n gymwys i roi hysbysiad i'r Comisiwn4 .
Rhaid i ymgyrchwyr cymwys nad ydynt yn bleidiau sy’n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn, ac ar ôl hynny byddant yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau. Mae'n drosedd gwario mwy na £10,000 heb gyflwyno hysbysiad o'r fath5 .
Ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau a'r person cyfrifol
Unwaith y bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid yn ymddangos ar y gofrestr hysbysiadau, ar ôl cyflwyno hysbysiad, bydd y Comisiwn yn cyfeirio ato fel 'ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid'.
Ar ôl iddo gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn, rhaid i'r ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid benodi 'person cyfrifol'. Mae'r person cyfrifol yn gyfreithiol gyfrifol am gydymffurfio â PPERA6 .
Os bydd unigolyn yn cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid, nid oes angen penodi person cyfrifol gan mai nhw fydd y person cyfrifol yn awtomatig.
Beth yw ymgyrchu di-blaid?
Dim ond i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir y mae cyfraith ymgyrchu di-blaid yn berthnasol. Nid yw pob gweithgarwch ymgyrchu di-blaid yn cael ei reoleiddio.
Gweithgarwch y gellir ei reoleiddio
Mae gwariant ar y gweithgarwch a ganlyn yn cael ei reoleiddio (i) os yw’n digwydd mewn perthynas ag ymgyrch gyffredinol yn ystod cyfnod a reoleiddir ac (ii) os yw’n bodloni’r prawf diben:
- cynadleddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau a drefnir gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid
- trafnidiaeth mewn cysylltiad â rhoi cyhoeddusrwydd i ymgyrch
- llunio neu gyhoeddi deunydd ymgyrchu sy'n cael ei ddarparu i'r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o'r cyhoedd
- canfasio ac ymchwil marchnad sy'n ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau'r cyhoedd
- ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill7
Gweler yr adran ar ‘y cyhoedd’ am ystyr y cyhoedd at ddiben gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Cyfnod a Reoleiddir
Mae gwariant gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cael ei reoleiddio yn y cyfnod cyn etholiad i'r Senedd. Diffinnir hyn yn PPERA fel y ‘cyfnod a reoleiddir datganoledig Cymreig’ a chyfeirir ato yn PPERA fel y ‘cyfnod perthnasol’. Yn y Cod hwn cyfeirir ato fel y ‘cyfnod a reoleiddir’.
Fel arfer, y cyfnod a reoleiddir ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau mewn etholiad i’r Senedd yw'r cyfnod o bedwar mis sy’n arwain at y diwrnod pleidleisio gan gynnwys y diwrnod pleidleisio ei hun8 . Cynhelir etholiadau i’r Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai yn y bedwaredd flwyddyn galendr ar ôl etholiad blaenorol y Senedd, yn unol ag a3(1) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (‘Deddf 2006’)9 . Gall dyddiad y bleidlais gael ei ddwyn ymlaen neu ei ohirio hyd at fis o dan adran 4 Deddf 2006.
Pan fo dyddiad y bleidlais yn cael ei ddwyn ymlaen ddim llai na phum mis cyn y diwrnod y byddai'r bleidlais wedi'i chynnal o dan a3(1) Deddf 2006 neu fod dyddiad y bleidlais yn cael ei ohirio ddim llai na phedwar mis cyn y diwrnod y byddai'r bleidlais wedi'i chynnal o dan a3(1) Deddf 2006, bydd y cyfnod a reoleiddir yn dechrau bedwar mis cyn dyddiad newydd y bleidlais, ac yn dod i ben ar ddyddiad newydd y bleidlais.
Os caiff dyddiad y bleidlais ei amrywio y tu allan i'r amserlenni uchod, mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau bedwar mis cyn y dyddiad y byddai'r bleidlais wedi'i chynnal o dan a3(1) Deddf 2006 ac yn dod i ben ar y dyddiad hwnnw.
Pan gaiff etholiad cyffredinol eithriadol i’r Senedd10 ei alw, mae’r cyfnod a reoleiddir yn dechrau gyda’r dyddiad pan fydd y Llywydd yn cynnig dyddiad ar gyfer yr etholiad ac yn dod i ben ar ddiwrnod y bleidlais11 .
Mae'r Comisiwn yn llunio canllawiau wedi'u diweddaru ar etholiadau penodol (gan gynnwys cyfnodau a reoleiddir) ac yn eu cyhoeddi ar ei wefan.
Cyfnodau a Reoleiddir Cyfunol a gwariant wedi'i dargedu
Gall y cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad nad yw i’r Senedd fod yn berthnasol os yw’n gorgyffwrdd â’r cyfnod a reoleiddir ar gyfer etholiad i’r Senedd. Pan fo dau neu fwy o gyfnodau a reoleiddir yn gorgyffwrdd, mae cyfnod a reoleiddir cyfunol yn gymwys i’r rhan berthnasol o’r DU. Mae'r Comisiwn Etholiadol yn llunio canllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ar gyfer etholiadau penodol, gan gynnwys cyfnodau a reoleiddir cyfunol pan fo hynny'n berthnasol.
Nid yw gwariant wedi’i dargedu yn berthnasol ar gyfer etholiadau’r Senedd ond gallai fod yn berthnasol ar gyfer cyfnodau a reoleiddir cyfunol.12
Prawf diben
Ni chaiff gwariant ar weithgareddau ymgyrchu gan ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ei reoleiddio oni bai y gellir yn rhesymol ystyried ei fod wedi'i fwriadu i hyrwyddo neu gaffael llwyddiant etholiadol:
- un neu ragor o bleidiau gwleidyddol
- un neu fwy o ymgeiswyr rhestr plaid sy'n sefyll ar restr plaid
- pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr sy'n cefnogi neu ddim yn cefnogi polisïau penodol neu
- categori arbennig arall o ymgeiswyr13
drwy ddylanwadu ar bleidleiswyr mewn etholiad perthnasol sydd ar ddod i bleidleisio mewn ffordd benodol. Gweler y diffiniad o ‘etholiadau perthnasol’ uchod.
Mae p’un a ellir yn rhesymol ystyried bod gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn cael ei adnabod yn gyffredin fel y ‘prawf diben’.
Rhaid i'r prawf diben gael ei gymhwyso ar y pryd, neu mewn achos o gyfnod a reoleiddir ôl-weithredol, fel pe bai gwariant ar y gweithgarwch wedi’i ysgwyddo ar y pryd. Os ysgwyddwyd y gwariant cyn y cyfnod a reoleiddir ond bod y gweithgarwch yn digwydd yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid cymhwyso’r prawf diben ar yr adeg mae’r gweithgarwch yn digwydd.
Er nad yw'r rhain wedi'u nodi yn PPERA, mae nifer o ffactorau a all helpu i benderfynu a ellir ystyried yn rhesymol bod gweithgarwch ymgyrchu wedi'i fwriadu i ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod. sef:
- Galwad i weithredu
- Tôn
- Cyd-destun ac amseru
- Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Ni fydd un ffactor unigol ar ei ben ei hun yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu penodol yn bodloni'r prawf diben ai peidio. Yn hytrach, yr holl ffactorau perthnasol gyda'i gilydd fydd yn pennu a yw gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni'r prawf diben.
Mae'r Comisiwn yn defnyddio’r ffactorau hyn wrth ystyried a yw gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben:
1. Galwad i weithredu
Mae ymgyrch sy'n cynnwys galwad ar bleidleiswyr i weithredu drwy bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy'n hyrwyddo llwyddiant etholiadol ar gyfer plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni'r prawf diben. Gall yr alwad i weithredu fod yn alwad uniongyrchol, neu gall fod yn ymhlyg.
Mae ymgyrch sy'n hyrwyddo pleidiau neu ymgeiswyr penodol yn uniongyrchol, neu sy'n hyrwyddo rhai pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr dros rai eraill, yn debygol o fodloni'r prawf diben.
Mae'n annhebygol y bydd ymgyrch gyhoeddus heb alwad uniongyrchol neu ymhlyg i bleidleiswyr weithredu yn bodloni'r prawf diben.
2. Tôn
Mae ymgyrch sy’n gadarnhaol neu’n negyddol tuag at blaid neu bleidiau gwleidyddol, categori o ymgeiswyr neu bolisi sydd â chysylltiad agos a chyhoeddus â phlaid neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy'n gwneud i bleidleisiwr feddwl am blaid wleidyddol benodol neu gategori o ymgeiswyr yn debygol o gael ei hystyried fel un y bwriedir iddi ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol ac felly o fodloni'r prawf diben.
3. Cyd-destun ac amseru
Mae ymgyrch ar fater neu bolisi sy’n fater amlwg ar yr adeg y cynhelir y gweithgarwch ymgyrchu, sydd hefyd yn bodloni’r ffactorau eraill, yn debygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sy’n hyrwyddo llwyddiant etholiadol plaid neu gategori penodol o ymgeiswyr ac felly o fodloni’r prawf diben.
Mae ymgyrch sy'n dechrau'n agos at ddyddiad etholiad ac sydd hefyd yn bodloni'r ffactorau eraill, yn fwy tebygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad sydd i ddod.
Mae'n annhebygol y bydd ymgyrch barhaus yn cael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol yn yr etholiad.
4. Sut byddai person rhesymol yn gweld y gweithgarwch
Dim ond os bydd person rhesymol yn ystyried bod y gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd i ddod y bydd gweithgarwch ymgyrchu yn bodloni'r prawf diben.
Ymgyrchoedd sydd â sawl diben
Gall gweithgarwch sy’n bodloni’r prawf diben fod â nodau eraill yn ogystal â chael ei ‘ystyried yn rhesymol fel un y bwriedir iddo ddylanwadu ar sut mae pobl yn pleidleisio’.
Nid yw’n berthnasol a ellir yn rhesymol ystyried bod gweithgarwch yn weithgarwch sydd â’r bwriad o gyflawni diben neu ddibenion eraill os gellir ystyried yn rhesymol ei fod hefyd yn weithgarwch sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol14 .
Er enghraifft, mae gweithgarwch ymgyrchu wedi'i fwriadu i gyflawni dau ddiben, diben X a diben Y. Os yw diben X yn bodloni'r prawf diben, mae'n amherthnasol nad yw diben Y hefyd yn bodloni'r prawf diben.
Cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol
Pan fydd cyfnod a reoleiddir yn cael ei gymhwyso’n ôl-weithredol, dim ond os gellid ystyried yn rhesymol, ar adeg cynnal y gweithgarwch, ei fod yn weithgarwch oedd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad perthnasol, y caiff unrhyw weithgarwch sy’n cael ei gynnal cyn y cyhoeddiad ei reoleiddio15 . Gweler y diffiniad o etholiad perthnasol uchod.
Os nad oes etholiadau perthnasol ar y gweill, mae'n annhebygol y bydd ymgyrch barhaus ar fater penodol yn cael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol. Mae gweithgarwch ymgyrchu sy'n canolbwyntio ar fater penodol yn hytrach nag ar sut y dylai pleidleisiwr bleidleisio, yn annhebygol o fodloni'r prawf diben os nad oes etholiadau perthnasol ar y gweill.
Dim ond o dan y naill neu’r llall o’r amgylchiadau canlynol y caiff gweithgarwch ymgyrchu ei reoleiddio o ganlyniad i gyfnod a reoleiddir ôl-weithredol:
- Bydd gweithgarwch ymgyrchu sy'n bodloni'r prawf diben mewn unrhyw etholiad perthnasol sy'n cael ei gynnal ar adeg y gweithgarwch, hyd yn oed os nad yw'n etholiad i'r Senedd, yn cael ei reoleiddio os caiff cyfnod a reoleiddir ôl-weithredol ei gymhwyso.
- Bydd gweithgarwch sy'n ymgyrchu ar gyfer yr etholiad nesaf, ni wnaeth pa etholiad yw hwnnw, ac sy'n bodloni'r prawf diben, yn cael ei reoleiddio os bydd cyfnod a reoleidir ôl-weithredol yn cael ei gymhwyso.
Gweler yr adran ar weithgarwch ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad.
Ystyr ‘y cyhoedd’
Bydd angen ystyried ystyr ‘y cyhoedd’ mewn perthynas â’r gweithgarwch ymgyrchu canlynol wrth benderfynu a yw gwariant ar y gweithgarwch yn wariant a reoleiddir.
- Canfasio ac ymchwil marchnad ymysg y cyhoedd
- Ralïau a digwyddiadau cyhoeddus
- Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd etholiadol
Nid oes diffiniad statudol i’r term ‘y cyhoedd’ felly mae angen ei ystyried yn ei ystyr arferol.
Canfasio ac ymchwil y farchnad
Dim ond os yw'n ceisio barn neu wybodaeth gan y cyhoedd yn gyffredinol y bydd canfasio ac ymchwil marchnad sy'n bodloni'r prawf diben ac sy'n digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Ralïau a digwyddiadau
Dim ond os ydynt ar agor i unrhyw un eu clywed, eu gweld neu fynd iddynt y bydd ralïau a digwyddiadau sy’n bodloni’r prawf diben ac sy’n cael eu cynnal yn ystod cyfnod a reoleiddir yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Pan fydd mynediad i'r rali neu’r digwyddiad cyhoeddus wedi'i gyfyngu gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid fel nad yw'r cyhoedd yn gallu cymryd rhan, ni fydd hyn yn weithgarwch a reoleiddir.
Cynhyrchu neu gyhoeddi deunydd etholiadol
Dim ond os bydd yr ymgyrchydd nad yw’n blaid yn darparu deunydd ymgyrchu i'r cyhoedd neu i unrhyw ran o'r cyhoedd y bydd deunydd ymgyrchu yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Mae p’un a yw’r deunydd ar gael i’r cyhoedd yn cael ei bennu gan bwy sydd â mynediad at y deunydd hwnnw:
- Deunydd ymgyrchu sydd ar gael i'r cyhoedd neu i ran o'r cyhoedd
Bydd deunydd ymgyrchu sydd ar gael i’r cyhoedd neu ran o’r cyhoedd ei glywed neu ei weld, yn ddeunydd ymgyrchu cyhoeddus a bydd yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os yw hefyd yn bodloni’r prawf diben ac yn digwydd yn ystod cyfnod a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut caiff y deunydd ei ddosbarthu, er enghraifft drwy brint neu’n ddigidol.
- Deunydd ymgyrchu nad yw ond ar gael i bobl sydd wedi dewis cael yr wybodaeth
Ni fydd deunydd ymgyrchu nad yw ond ar gael gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid i grŵp caeedig o aelodau neu bobl sydd wedi dewis derbyn yr wybodaeth, yn cael ei reoleiddio.
Pan fydd mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi'i gyfyngu yn y fath fodd fel na fyddai'r cyhoedd yn gallu cael mynediad at y deunydd hwnnw, nid yw hyn yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Mae hyn yn berthnasol ni waeth sut caiff y deunydd ei ddosbarthu, er enghraifft drwy brint neu’n ddigidol.
Pan fydd mynediad at ddeunydd ymgyrchu wedi'i gyfyngu gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid i grŵp o bobl sydd wedi cofrestru i gael y deunydd hwnnw, ni fydd y gweithgarwch hwnnw'n weithgarwch a reoleiddir. Er enghraifft, pan fydd mynediad wedi'i gyfyngu i aelodau, neu i gefnogwyr, ni fydd hyn yn weithgarwch a reoleiddir.
Beth yw'r gofynion hysbysu ac adrodd?
Trothwy hysbysu
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n bwriadu gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn y cyfnod a reoleiddir cyn etholiad i'r Senedd gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn16 . Cyfeirir at hyn yn y Cod hwn fel y ‘trothwy hysbysu’. Yng nghanllawiau’r Comisiwn neu mewn gohebiaeth â’r Comisiwn efallai y byddwch yn gweld cyfeiriadau at hyn fel y ‘trothwy cofrestru’.
Ymgyrchwyr cymwys nad ydynt yn bleidiau
Ni chaniateir i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau wario mwy na £700 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir oni bai eu bod yn gymwys i roi hysbysiad i'r Comisiwn yn rhinwedd a.88(2) PPERA. Dim ond unigolion neu sefydliadau a ddisgrifir yn a.88(2) PPERA sy'n gymwys i gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn17 . Dyma restr ohonynt:
- Unigolyn sydd wedi'i gofrestru ar un o gofrestrau etholiadol y DU neu sy'n preswylio yn y DU;
- Cwmni sydd wedi'i gofrestru yn y DU ac sy'n gwmni corfforedig yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU;
- Undeb llafur sydd wedi'i gofrestru yn y DU;
- Cymdeithas adeiladu sydd wedi'i gofrestru yn y DU;
- Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig sydd wedi'i chofrestru yn y DU ac sy'n cynnal busnes yn y DU;
- Cymdeithas gyfeillgar, diwydiannol neu ddarbodus sydd wed'i chofrestru yn y DU;
- Cymdeithas anghorfforedig sydd a'i phrif swyddfa yn y DU ac sy'n cynnal y rhan fwyaf o'i busnes neu weithgareddau eraill yn y DU;
- Corff sydd wedi'i gorfforio gan Siarter Frenhinol;
- Sefydliad corfforedig elusennol yn y DU;
- Partneriaeth yn yr Alban sy'n cynnal busnes yn y DU.
Gwaherddir sefydliadau rhag cofrestru fel ymgyrchydd nad yw'n blaid yn ogystal â phlaid wleidyddol18
Gall ymgyrchydd cymwys nad yw'n blaid wario hyd at £10,000 ledled y DU heb hysbysu'r Comisiwn19 .
Cyn gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, rhaid i ymgyrchydd cymwys nad yw'n blaid gyflwyno hysbysiad i’r Comisiwn20 .
Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cymryd rhan mewn ymgyrch ar y cyd gyrraedd y trothwy hysbysu o ganlyniad i'r gyfraith ar ymgyrchu ar y cyd, heb ysgwyddo gwariant uniongyrchol eu hunain. Gweler yr adran ar ymgyrchu ar y cyd.
Trothwyon adrodd
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau sy'n gwario mwy na £10,000 ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir gofnodi ac adrodd ar eu gwariant a'u rhoddion21 i'r Comisiwn. Gelwir hyn yn ‘drothwy adrodd’.22
Uchafswm y terfyn gwariant ar gyfer ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau
Mae terfynau gwariant sy'n cyfyngu ar y cyfanswm y gall ymgyrchydd nad yw'n blaid ei wario ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Y terfyn gwariant ar gyfer gwariant a reolir y gellir ei ysgwyddo gan neu ar ran ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid yw £30,000 fel y nodir ym Mharagraff 6 Atodlen 10 PPERA. Bydd gan gyfnodau a reoleiddir cyfunol derfynau gwariant gwahanol23 . Byd rhagor o wybodaeth yng nghanllawiau’r Comisiwn.
Gofynion adrodd
Rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid gydymffurfio â'r gyfraith ar wario a derbyn rhoddion. Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau gyflwyno ffurflen gwariant sy'n manylu ar eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ac unrhyw roddion a dderbyniwyd at ddiben talu am wariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir24 . Gweler yr adran ar roddion. Rhaid cyflwyno’r ffurflen gwariant i’r Comisiwn o fewn tri mis i ddiwedd y cyfnod a reoleiddir perthnasol25 .
Sylwch, os ydych yn bwriadu gwario dros £10,000 mewn etholiad i’r Senedd, rhaid i chi ein hysbysu ni ac adrodd am eich gwariant ar ôl yr etholiad.
Pa fath o wariant yw gwariant a reolir?
Gwariant a reolir yw unrhyw wariant a dynnir mewn perthynas â gweithgaredd ymgyrchu a reoleiddir. Mae Atodlen 8A PPERA yn nodi'r rhestr o dreuliau cymwys sy'n dod o fewn y gyfundrefn reoleiddio.
Canllawiau cyffredinol
Gweithgarwch ymgyrchu cyn cyhoeddi etholiad
Mae ymgyrch barhaus ar fater penodol a oedd yn cael ei chynnal cyn cyhoeddi etholiad yn annhebygol o gael ei hystyried yn rhesymol fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod os nad oes etholiad ar ddod.
Os bydd ymgyrch barhaus yn parhau heb ei newid unwaith y cyhoeddir yr etholiad, mae'n annhebygol o gael ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Os bydd gweithgarwch sy’n ymwneud ag ymgyrch barhaus yn cynyddu neu’n cael ei newid yn y cyfnod cyn etholiad mewn ffordd sy’n golygu bod y gweithgarwch yn bodloni’r prawf diben, h.y. gallai’r gweithgarwch gael ei ystyried yn rhesymol bellach fel un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol, gellir ei ystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. O'r adeg y caiff yr ymgyrch ei hystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, dim ond y costau sy'n gysylltiedig â'r ymgyrch honno sy'n debygol o fod yn wariant a reolir ac mae'n rhaid eu trin felly.
Mae’n bosibl y bydd ymgyrch yn dal i gael ei hystyried yn weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir os mai ei bwriad yw cyflawni diben arall heblaw am ddylanwadu ar bleidleiswyr os gellir ystyried yn rhesymol bod yr ymgyrch yn un sydd â’r bwriad o ddylanwadu ar bleidleiswyr i bleidleisio mewn ffordd benodol mewn etholiad sydd ar ddod.
Ailddefnyddio eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol
Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ailddefnyddio eitemau o etholiadau blaenorol. Nid oes angen adrodd unwaith eto ar wariant am eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd mewn etholiad blaenorol ac a adroddwyd yn llawn amdanynt ar ffurflen gwariant flaenorol ar gyfer yr un ymgyrchydd nad yw'n blaid yn yr etholiad cyfredol os byddant yn cael eu defnyddio eto heb eu haddasu. Rhaid i'r holl gostau newydd sy'n ymwneud â'u hailddefnyddio, gan gynnwys storio, glanhau, neu gost addasu’r eitemau, ymddangos ar y ffurflen gwariant.
Dosrannu eitemau ar gyfer etholiadau dilynol
Ni ellir dosrannu neu adrodd ar eitemau y talwyd amdanynt ac a ddefnyddiwyd yn ystod cyfnod a reoleiddir ar y sail y byddant yn cael eu defnyddio eto yn ystod cyfnod a reoleiddir dilynol. Rhaid adrodd ar werth llawn y gwariant yn y ffurflen gwariant.
Eitemau nas defnyddiwyd
Nid oes angen adrodd ar eitemau y talwyd amdanynt gan ymgyrchydd nad yw'n blaid, ond na chawsant eu defnyddio yn ystod y cyfnod a reoleiddir, yn y ffurflen gwariant.
Os defnyddir yr eitemau hynny wedyn mewn etholiad yn y dyfodol, byddai angen adrodd ar y gwariant mewn perthynas â'r etholiad hwnnw, fel eitem y talwyd amdani cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir.
Eitemau y talwyd amdanynt cyn dechrau'r cyfnod a reoleiddir
Os ysgwyddwyd gwariant cyn dechrau cyfnod a reoleiddir ar eitemau a ddefnyddir yn ystod y cyfnod a reoleiddir, rhaid adrodd ar y gwariant ar yr eitemau hynny yn y ffurflen gwariant26 .
Eitemau a ddarparwyd am ddim neu am bris gostyngol
Pan ddarperir unrhyw eitemau am ddim neu am bris gostyngol, rhaid adrodd ar y swm priodol yn y ffurflen gwariant fel gwariant tybiannol a/neu rodd. Gweler y diffiniad o swm priodol uchod.
Dosrannu gwariant
Pan ysgwyddwyd gwariant ar eitem neu weithgarwch yn rhannol mewn cysylltiad â gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir ac yn rhannol mewn cysylltiad â gweithgarwch nas rheoleiddir, y swm y mae’n rhaid ei adrodd yw’r gyfran sy’n adlewyrchu’n rhesymol y swm a wariwyd mewn cysylltiad â’r gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir.
Dim ond y gwariant ymgyrchu a reoleiddir y mae'n rhaid ei adrodd yn y ffurflen gwariant.
TAW
Rhaid rhoi gwybod am wariant gan gynnwys TAW pan fo hynny'n berthnasol, hyd yn oed pan fod modd adennill TAW.
Gorbenion
Rhaid adrodd ar orbenion y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir. Y swm y mae'n rhaid ei gynnwys yn y ffurflen gwariant yw'r gyfran sy'n adlewyrchiad rhesymol o ddefnydd yn ystod yr ymgyrch.
Pan nad oes cynnydd mewn gwariant ar orbenion y tu hwnt i'r gwariant arferol a ysgwyddir gan ymgyrchydd, ni fydd gwariant ar orbenion yn cael ei reoleiddio.
Pan fo cynnydd yng nghost gorbenion a ysgwyddir gan ymgyrchydd o ganlyniad i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, rhaid adrodd ar y cynnydd hwnnw o ran gwariant.
Yn gyffredinol, y gyfran sy'n adlewyrchiad rhesymol o ddefnydd yw'r gost a ysgwyddir sy'n mynd y tu hwnt i'r costau arferol mewn cyfnod penodol. Pan fo angen dosrannu gorbenion, mae ffigwr cyfanredol ar gyfer pob gorben yn ddigon i fodloni'r rhwymedigaethau adrodd.
Gall gorbenion gynnwys eitemau fel:
- gwagle swyddfa
- biliau trydan
- darparu llinellau ffôn a mynediad i'r rhyngrwyd
- ffonau symudol
- darparu offer swyddfa o unrhyw fath
Nid yw cost dŵr, nwy a’r dreth gyngor yn gostau y mae angen rhoi gwybod amdanynt gan nad ydynt wedi’u cysylltu’n ddigon agos â’r gweithgarwch a reoleiddir.
Costau staff
Rhaid adrodd ar gostau staff y gellir eu priodoli'n uniongyrchol i weithgarwch a reoleiddir. Dim ond costau staff a ysgwyddir o ganlyniad i weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir y mae angen eu hadrodd.
Pan mai dim ond yn rhannol y gellir priodoli costau staff i weithgarwch a reoleiddir, rhaid dosrannu’r costau a dim ond y gyfran a briodolir i weithgarwch a reoleiddir y mae’n rhaid ei chynnwys yn y ffurflen gwariant.
Pan fo angen dosrannu amser aelod o staff, mae ffigur cyfanredol ar gyfer yr holl amser staff a briodolir i weithgarwch a reoleiddir yn ddigon i fodloni’r rhwymedigaethau adrodd.
Nid yw costau gofal plant aelodau staff yn dreuliau y mae angen rhoi gwybod amdanynt gan nad ydynt wedi’u cysylltu’n ddigon agos â’r gweithgarwch a reoleiddir27
Eitemau sydd wedi'u heithrio
Ni ddylid adrodd ar ffurflen gwariant ymgyrchydd nad yw'n blaid am unrhyw wariant ar weithgarwch ymgyrchu y mae angen ei adrodd ar ffurflen gwariant ymgeisydd neu ar ffurflen gwariant plaid wleidyddol gofrestredig.
Atodlen 8A
Mae Atodlen 8A PPERA yn rhestru'r treuliau cymwys a reoleiddir.
Treuliau sy'n dod o fewn y gyfundrefn reoleiddio
- llunio neu gyhoeddi deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o'r cyhoedd (ym mha bynnag ffurf a thrwy ba bynnag fodd)
- canfasio, neu ychmwil y farchnad yn ceisio barn neu wybodaeth gan aelodau o'r cyhoedd
- cynadleddau i'r wasg, neu ddigwyddiadau eraill i'r cyfryngau, a drefnir gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid
- cludo pobl (drwy unrhyw fodd) i unrhyw le neu lefydd gyda'r nod o gael cyhoeddusrwydd
- mae treuliau mewn perthynas â chludo pobl yn cynnwys costau llogi dull penodol o’u cludo
- ralïau cyhoeddus neu ddigwyddiadau cyhoeddus eraill, heblaw cynadleddau blynyddol yr ymgyrchydd nad yw’n blaid
Mae treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o’r fath yn cynnwys costau a ysgwyddir mewn cysylltiad â phresenoldeb pobl mewn digwyddiadau o’r fath, llogi eiddo at ddibenion digwyddiadau o’r fath neu ddarparu nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau ynddynt. Ond nid yw treuliau mewn perthynas â digwyddiadau o'r fath yn cynnwys costau a ysgwyddir wrth ddarparu ar gyfer diogelu pobl neu eiddo.
Treuliau sydd y tu allan i'r gyfundrefn reoleiddio
Mae PPERA yn eithrio'r treuliau canlynol yn benodol o'r gofynion adrodd:
treuliau a ysgwyddir mewn perthynas â chyhoeddi unrhyw fater sy’n ymwneud ag etholiad, ac eithrio hysbyseb:
o mewn papur newydd neu gyfnodolyn
o fel darllediad a wneir gan y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig neu gan Sianel Pedwar Cymru neu
o fel rhaglen sydd wedi'i chynnwys mewn unrhyw wasanaeth sydd wedi'i drwyddedu o dan Ran 1 neu Ran 3 o Ddeddf Darlledu 1990 neu Ran 1 neu Ran 2 o Ddeddf Darlledu 1996
- treuliau a ysgwyddwyd mewn perthynas â, neu o ganlyniad i, gyfieithu rhywbeth o Gymraeg i Saesneg neu o Saesneg i Gymraeg.
- treuliau personol rhesymol a ysgwyddir gan unigolyn wrth deithio neu wrth ddarparu ar gyfer llety neu anghenion personol eraill yr unigolyn
- treuliau rhesymol y gellir eu priodoli'n rhesymol i anabledd unigolyn
- treuliau a ysgwyddir mewn perthynas â darparu gwasanaethau’r unigolyn ei hun a ddarperir yn wirfoddol yn amser yr unigolyn ei hun ac yn rhad ac am ddim28
- treuliau rhesymol a ysgwyddwyd y gellir eu priodoli'n rhesymol i ddiogelu unigolion neu eiddo
Mae Atodiad A yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r mathau o dreuliau sydd, neu nad ydynt, yn dod o fewn ystyr treuliau cymwys.
Beth yw gwariant tybiannol?
Weithiau gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ddefnyddio eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau yn eu hymgyrch nad oedd yn rhaid iddynt wario arian arnynt, oherwydd bod yr eitem neu'r gwasanaethau wedi'u darparu fel budd mewn nwyddau, am ddim, neu am bris gostyngol anfasnachol.
Gelwir hyn yn ‘wariant tybiannol’.
Gostyngiadau
Gostyngiadau anfasnachol
Gostyngiadau anfasnachol yw gostyngiadau arbennig a roddir i’r ymgeisydd nad yw’n blaid. Mae hyn yn cynnwys unrhyw gyfraddau arbennig nad ydynt ar gael ar y farchnad agored.
Pan fydd hyn yn digwydd, bydd gwerth masnachol llawn yr eitem neu’r gwasanaeth yn cyfrif tuag at y terfyn gwariant ac mae’n rhaid adrodd amdano yn y ffurflen wariant.
Gostyngiadau masnachol
Gostyngiadau masnachol yw'r rhai sydd ar gael i gwsmeriaid tebyg eraill, fel gostyngiadau ar gyfer swmp-archebion neu ostyngiadau tymhorol. Nid yw'r rhain yn cael eu trin fel gwariant tybiannol.
Gwariant tybiannol
Bydd eitemau neu wasanaethau a ddefnyddir gan neu ar ran ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cael eu trin fel gwariant tybiannol:
- os yw'r eiddo, y gwasanaethau neu'r cyfleusterau'n cael eu darparu am ddim neu gyda gostyngiad o fwy na 10% oddi ar y gyfradd fasnachol at ddefnydd neu fudd yr ymgyrchydd nad yw'n blaid, neu yn achos trosglwyddo eiddo os caiff ei drosglwyddo'n rhad ac am ddim neu gyda gostyngiad o fwy na 10% o'i werth marchnadol29
- os yw'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng yr hyn a ddarperir a'r hyn a delir gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid yn fwy na £20030
- os ydynt yn cael eu defnyddio gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid a
- ac y byddent wedi bod yn wariant a reolir pe bai'r treuliau wedi eu hysgwyddo gan neu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid mewn perthynas â'r defnydd hwnnw31 .
Dim ond os caiff y defnydd hwnnw ei gyfeirio, ei awdurdodi neu ei annog gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid neu'r person cyfrifol y defnyddir yr eitemau neu'r gwasanaethau ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid32 .
Gwerth y gwariant tybiannol yw’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm gwerth yr hyn a drosglwyddwyd neu a ddarparwyd a’r swm a dalwyd, os o gwbl.
Rhaid i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid gofnodi:
- gwerth y gwariant tybiannol
- cyfanswm a dalwyd
Ni chaiff eitemau neu wasanaethau eu trin fel gwariant tybiannol:
- os mait 10% neu lai na hynny yw'r gostyngiad arnynt, neu
- os yw gwerth y gostyngiad yn £200 neu lai.
Gwerth y gwariant tybiannol
Pan gaiff eitem ei thrin fel gwariant tybiannol, rhaid i’r ymgyrchydd nad yw’n blaid adrodd ‘swm priodol’ fel gwariant a reolir.
Pan fo'r gwariant tybiannol yn eiddo a drosglwyddwyd i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid, y swm priodol yw'r gyfran y gellir ei phriodoli'n rhesymol i'r defnydd o'r eitem, o naill ai:
- ei gwerth marchnadol (lle caiff ei throsglwyddo am ddim) neu
- gwerth y gostyngiad33 .
Pan fo'r gwariant tybiannol yn eiddo, yn wasanaethau neu’n gyfleusterau a ddefnyddir gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid, y swm priodol yw'r gyfran y gellir ei phriodoli'n rhesymol i'r defnydd o'r eitem, o naill ai:
- y gyfradd fasnachol (os caiff ei darparu am ddim) neu
- y gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gyfradd fasnachol ar gyfer item neu wasanaeth a'r pris a dalwyd mewn gwirionedd gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid34 .
Rhoddion
Rhaid i'r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau gael eu darparu neu eu trosglwyddo i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid er mwyn eu trin fel gwariant tybiannol.
Mae hyn yn golygu y bydd unrhyw wariant tybiannol hefyd yn rhodd i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid.
Rhaid ymdrin â'r gwahaniaeth mewn gwerth rhwng y gwerth marchnadol neu'r gyfradd fasnachol, a'r pris a dalwyd, os o gwbl, yn unol â'r gyfraith ar roddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau ac efallai y bydd angen adrodd arnynt i'r Comisiwn.
Gweithio gyda phleidiau gwleidyddol cofrestredig
Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau hefyd weithio gyda phlaid wleidyddol gofrestredig, a darparu eiddo, gwasanaethau neu gyfleusterau am ddim neu am bris gostyngol anfasnachol.
Os bydd y blaid wleidyddol gofrestredig yn defnyddio'r nwyddau, y gwasanaethau neu’r cyfleusterau yn ystod ei hymgyrch, rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol ar ran y blaid wleidyddol gofrestredig35 . Bydd hyn hefyd yn cael ei drin fel rhodd gan yr ymgyrchydd nad yw'n blaid i'r blaid wleidyddol.36
Rhaid i’r blaid wleidyddol gofrestredig adrodd ar hyn a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant y blaid.
Ni fydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd nad yw'n blaid ac ni ddylid ei gofnodi yn y ffurflen gwariant ar gyfer yr ymgyrchydd nad yw'n blaid.
Beth yw ymgyrchu ar y cyd?
Gweithio gydag ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau eraill
Gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau benderfynu cydweithio ar ymgyrch. Pan fydd ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cydweithio ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, gall y gyfraith ar ymgyrchu ar y cyd fod yn berthnasol.
Mae'r rheolau ar ymgyrchu ar y cyd yn berthnasol i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy’n gofrestredig ac sydd heb eu cofrestru37
Mae ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cymryd rhan mewn ymgyrchu ar y cyd pan fo'r amgylchiadau canlynol i gyd yn bresennol:
- yn ymrwymo i gynllun neu drefniant arall gydag un neu fwy o ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau
- yr holl ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r cynllun neu'r trefniant yn bwriadu ysgwyddo gwariant a reoleiddir yn unol â'r cynllun neu'r trefniant hwnnw
- un neu fwy o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dan sylw yn ysgwyddo gwariant a reolir yn unol â'r cynllun neu'r trefniant, a
- yn rhesymol ystyried bod y cynllun neu'r trefniant hwnnw yn un sydd â’r bwriad o gyflawni diben cyffredin38 .
Mae'r holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant pob un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd.
Beth yw ymgyrchu ar y cyd
Rhaid cael mwy nag un ymgyrchydd nad yw'n blaid
Ni fydd sefydliad ambarél presennol sy'n gwneud penderfyniadau am ei weithgarwch ymgyrchu yn annibynnol yn ymgyrchu ar y cyd oni bai ei fod yn ymrwymo i gynllun neu drefniant gydag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau a’u bod i gyd yn bwriadu ysgwyddo gwariant a reolir.
Nid ymgyrchu ar y cyd fyddai sefydliad newydd sy’n cael ei sefydlu i gynnal gweithgarwch ymgyrchu sy'n cynnwys grŵp o sefydliadau eraill ac yn gwario arian.
Rhaid bod cyd-ddealltwriaeth y caiff gwariant a reolir ei ysgwyddo er mwyn cyflawni'r diben cyffredin
Os nad oes bwriad ysgwyddo gwariant, does dim ymgyrchu ar y cyd. Er enghraifft, os cytunir y bydd pob gweithgarwch yn cael ei gyflawni gan wirfoddolwyr, fydd dim gwariant a fydd dim ymgyrchu ar y cyd.
Rhaid bod cyd-ddealltwriaeth o ran cwmpas a diben yr ymgyrch
Nid yw ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n digwydd ymgyrchu am faterion tebyg neu gysylltiedig yn ymgyrchwyr ar y cyd.
Rhaid bod cyd-ddealltwriaeth rhwng yr ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau y bydd pob un ohonynt yn ysgwyddo gwariant a reolir i gyflawni'r diben cyffredin
Bydd yr holl wariant a reolir sy’n cael ei ysgwyddo yn unol â'r cynllun neu’r trefniant yn dod o dan reolaethau ymgyrchu ar y cyd.
Nid mater o ymgyrchu ar y cyd yw
- trosglwyddo neu fenthyca eitemau i ymgyrchydd arall, neu
- darparu arian i ymgyrchydd arall
Rhaid trin hyn fel gwariant tybiannol neu rodd ac ymdrin ag ef yn unol â'r gyfraith briodol.
Hyd yn oed os bydd un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n ymwneud â'r cynllun neu'r trefniant yn peidio ysgwyddo’i siâr o'r gwariant y cytunwyd arno, bydd unrhyw wariant a ysgwyddir yn dal i fod yn ymgyrchu ar y cyd a rhaid i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid adrodd arno.
Nid yw gwariant a reolir y mae ymgyrchydd nad yw'n blaid yn ei ysgwyddo y tu hwnt i'r cynllun neu'r trefniant y cytunwyd arno neu sy'n cael ei ysgwyddo y tu allan i'r cynllun neu’r trefniant y cytunwyd arno, yn rhan o'r ymgyrchu ar y cyd ond bydd yn dal i gyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchydd nad yw'n blaid penodol sy'n ysgwyddo'r gwariant.
Dim ond gwariant y cytunwyd arno fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd sy'n cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r cynllun ar y cyd.
Enghreifftiau o ymgyrchu ar y cyd
- Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i gynnal ymgyrch i annog pleidleiswyr i bleidleisio dros ymgeiswyr sy'n cefnogi mater penodol. Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn bwriadu ysgwyddo gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch. Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B ill dau yn ysgwyddo gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Ymgyrchu ar y cyd yw hyn, a dylid trin y gwariant felly.
- Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i gynnal ymgyrch i annog pleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol benodol. Mae'r ddau’n bwriadu ysgwyddo gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd. Mae ymgyrchydd A yn ysgwyddo gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd, ond nid yw ymgyrchydd B byth yn gwario ei gyfran arfaethedig. Ymgyrchu ar y cyd yw hyn, a dylai’r gwariant gael ei drin felly gan ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B.
- Mae ymgyrchydd A ac ymgyrchydd B yn cytuno i gynnal ymgyrch i annog pleidleiswyr i bleidleisio dros blaid wleidyddol benodol. Mae'r ddau’n bwriadu ysgwyddo gwariant a reolir fel rhan o'r ymgyrch ar y cyd. Nid yw'r naill ymgyrchydd na'r llall yn ysgwyddo dim gwariant a reolir ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes ymgyrchu ar y cyd wedi digwydd.
Gweithgarwch sy'n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cymryd rhan yn y rhestr a ganlyn o weithgarwch (nad yw’n hollgynhwysfawr) yn debygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- Ymgyrch hysbysebu ar y cyd, boed yn ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill, gan gynnwys taflenni ar y cyd neu ddigwyddiadau ar y cyd.
- Ymgyrch gydgysylltiedig; er enghraifft pan gytunir pa feysydd sydd i'w cwmpasu, pa faterion sydd i'w codi neu ba bleidleiswyr sydd i'w targedu.
- Gweithio ar y cyd lle gall un parti wrthod neu gymeradwyo deunydd parti arall.
Gweithgarwch nad yw’n ymgyrchu ar y cyd
Mae ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n cymryd rhan yn y rhestr a ganlyn o weithgarwch (nad yw’n hollgynhwysfawr) yn annhebygol o fod yn ymgyrchwyr ar y cyd:
- Cymeradwyo ymgyrch arall drwy ganiatáu i'ch logo/brand gael ei ddefnyddio heb ddim ymrwymiad ariannol na chyfranogiad pellach.
- Ychwanegu'ch llofnod at lythyr ochr yn ochr ag ymgyrchwyr eraill nad ydynt yn bleidiau heb ddim ymrwymiad ariannol.
- Siarad yn rhydd mewn digwyddiad a drefnwyd gan ymgyrchydd arall nad yw'n blaid heb ddim ymrwymiad ariannol.
- Cynnal trafodaethau am feysydd o ddiddordeb cyffrein heb gydgysylltu gweithgarwch ymgyrchu.
- Nid yw rhoi rhodd i ymgyrchydd arall nad yw'n blaid yn ymgyrchu ar y cyd.
Gweler yr adrannau ar wariant tybiannol a rhoddion.
Adrodd gwariant ar ymgyrch ar y cyd
Pan fydd ymgyrch ar y cyd, mae'r holl wariant ar yr ymgyrch honno ar y cyd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant pob un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd.
Rhaid i bob ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd sy'n cyrraedd y trothwy adrodd, adrodd ar yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd oni bai bod un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau yn cytuno i fod yn ymgyrchydd arweiniol. Gweler yr adran ar ofynion hysbysu ac adrodd.
Ymgyrchwyr arweiniol a mân
Pan fydd ymgyrch ar y cyd, gall un o'r ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau gytuno i adrodd ar yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd gan bob un o'r ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd.
Bydd ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid sy'n cytuno i adrodd am yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei alw’n ymgyrchydd arweiniol39 . . Bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid y mae ymgyrchydd arweiniol yn adrodd ar ei wariant ymgyrchu ar y cyd yn cael ei alw’n fân ymgyrchydd40 .
Pan fydd grŵp o ymgyrchwyr ar y cyd yn gwario mwy na'r trothwy hysbysu ond nad yw rhai o'r ymgyrchwyr hynny'n cyrraedd y trothwy hysbysu, mae'r deddfau deddfau sy’n ymwneud ag ymgyrchydd arweiniol/mân ymgyrchydd yn caniatáu i un ymgyrchydd, yr ymgyrchydd arweiniol, gyflwyno hysbysiad i'r Comisiwn ac adrodd ar yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd. Nid oes rhaid i'r mân ymgyrchwyr gyflwyno hysbysiad.
Hysbysiad o statws ymgyrchydd arweiniol
Os bydd ymgyrchydd nad yw'n blaid sy'n ymwneud ag ymgyrch ar y cyd yn cytuno i adrodd ar yr holl wariant ymgyrchu ar y cyd, rhaid iddynt:
- Hysbysu'r Comisiwn eu bod yn rhan o ymgyrch ar y cyd, ac mai nhw fydd yr ymgyrchydd arweiniol, a
- Hysbysu'r Comisiwn am y mân ymgyrchwyr sy'n ymwneud â'r ymgyrch ar y cyd.
Gall ymgyrchydd nad yw'n blaid hysbysu'r Comisiwn o'i statws fel ymgyrchydd arweiniol, neu ymwneud mân ymgyrchwyr, ar unrhyw adeg cyn diwedd y cyfnod a reoleiddir41 .
Adrodd gan yr ymgyrchydd arweiniol
Bydd yr holl wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, boed gan yr ymgyrchydd arweiniol neu'r mân ymgyrchydd/mân ymgyrchwyr, yn cyfrif tuag at derfyn gwariant ymgyrchwyr arweiniol yn ystod y cyfnod a reoleiddir42 .
Rhaid i'r ymgyrchydd arweiniol adrodd ar eu gwariant eu hunain a gwariant y mân ymgyrchwyr ar yr ymgyrch ar y cyd yn y ffurflen gwariant ar ôl yr etholiad, ochr yn ochr ag unrhyw wariant ymgyrchu arall a ysgwyddir gan yr ymgyrchydd arweiniol ar wahân i'r ymgyrch ar y cyd.
Hysbysu ac adrodd gan y mân ymgyrchydd
Pan fydd yr ymgyrchydd arweiniol yn hysbysu'r Comisiwn o'i statws fel ymgyrchydd arweiniol, rhaid iddo hysbysu'r Comisiwn am y mân ymgyrchwyr sy'n rhan o'r ymgyrch ar y cyd.
At ddiben penderfynu a yw mân ymgyrchydd yn bodloni'r trothwy hysbysu neu adrodd, ni ddylid cynnwys gwariant ar yr ymgyrch ar y cyd wrth bennu'r terfynau:
- Os yw'r gwariant yn rhan o ymgyrch ar y cyd sydd wedi'i hysbysu i'r Comisiwn (ac os felly bydd gwariant y mân ymgyrchwyr ar yr ymgyrch ar y cyd yn cael ei drin fel gwariant a ysgwyddir gan yr ymgyrchydd arweiniol a bydd yn cyfrif tuag at derfyn gwariant yr ymgyrchwyr arweiniol), ac
- Os yw'r ymgyrchydd nad yw'n blaid yn fân ymgyrchydd ar adeg ysgwyddo'r gwariant, ac
- Os yw cyfanswm gwariant yr ymgyrchydd nad yw'n blaid, heb gynnwys unrhyw wariant ar yr ymgyrch ar y cyd, yn llai na'r trothwyon adrodd43 .
Gweler yr adran ar drothwyon hysbysu ac adrodd.
Beth yw'r rheolaethau ar roddion?
Rhaid i bob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid gydymffurfio â'r rheolaethau rhoddion yn Atodlen 11 PPERA sy'n nodi pwy all roi i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau.
Rhaid i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau sydd ddim yn bodloni'r trothwy adrodd wirio a yw'r rhodd yn dod o ffynhonnell a ganiateir, ond nid ydynt yn ddarostyngedig i'r gofynion adrodd am roddion. Gweler yr adran ar ofynion adrodd.
Rhoddion a gwmpesir gan y gyfraith
Dim ond i roddion a roddir i ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau, a hynny’n benodol tuag at eu gwariant ar weithgarwch ymgyrchu a reoleiddir, y mae'r gyfraith ar roddion yn berthnasol. Nid yw’r gyfraith yn berthnasol i arian a dderbynnir at ddibenion cyffredinol y sefydliad.
At ddibenion rhoddion i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau, rhodd yw:
- arian, nwyddau, eiddo neu wasanaethau44
- a roddir at ddiben gweithgarwch ymgyrchu a reoleiddir45 ac
- yn ddi-dâl neu ar delerau anfasnachol gyda gwerth o fwy na £50046 .
Nid yw unrhyw beth sydd â gwerth o £500 neu lai yn rhodd at ddibenion PPERA.
Pwy all roi i ymgyrchydd nad yw'n blaid
Dim ond gan unigolion neu sefydliadau sydd ar y rhestr o ffynonellau a ganiateir sydd wedi'i nodi yn a.54(2) PPERA y gall ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dderbyn rhoddion.
Ni chaiff ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau dderbyn rhoddion gan blaid wleidyddol gofrestredig47 .
Pennu gwerth rhoddion anariannol
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau roi gwerth ar unrhyw rodd anariannol. Gwerth rhodd yw'r gwahaniaeth rhwng gwerth yr hyn a dderbynnir, a'r swm, os o gwbl, y mae'r ymgyrchydd nad yw'n blaid yn ei dalu amdano48
Mae eitemau a dderbynnir am ddim neu ar ostyngiad anfasnachol, pan fo’r gwahaniaeth rhwng y gwerth masnachol a’r hyn a dalwyd amdano yn fwy na £500, yn rhodd at ddibenion PPERA.
Gwiriadau ar roddion
Pan fydd ymgyrchydd nad yw'n blaid yn cael rhodd sy’n werth mwy na £500, rhaid iddo wirio'n brydlon a yw'r rhodd yn dod o ffynhonnell a ganiateir.
Pan ddaw rhodd drwy asiant, rhaid i'r ymgyrchydd nad yw'n blaid allu nodi pwy yw'r gwir roddwr49 . Rhaid i'r asiant ddarparu manylion y gwir roddwr.50
Rhaid dychwelyd rhoddion gan roddwyr nas caniateir a rhoddwyr anhysbys o fewn 30 diwrnod i gael y rhodd51 .
Rhaid i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau gadw cofnodion o'r rhoddion maent yn eu cael, yn ogystal â rhoddion a ddychwelwyd. Rhaid cynnwys y manylion hyn pan adroddir am y rhodd i'r Comisiwn.
Atodiad A
Mae’r Atodiad hwn yn nodi rhestr nad yw’n hollgynhwysfawr o’r mathau o dreuliau sydd, neu nad ydynt, yn dod o fewn ystyr ‘treuliau cymwys’ yn Atodlen 8A PPERA (y gellir ei ystyried yn ‘wariant a reolir’ o fewn ystyr adran 85(2)).
Daw treuliau o fewn ystyr treuliau cymwys os ydynt yn dreuliau a ysgwyddir mewn perthynas ag unrhyw un o’r materion a nodir ym mharagraff 1 o Atodlen 8A.
Atodlen 8A, paragraff 1(1): The production or publication of material which is made available to the public at large or any section of the public (in whatever form and by whatever means).
Mae’r paragraff hwn yn cynnwys:
Gwasanaethau, offer, cyfleusterau neu safleoedd a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- paratoi, llunio neu gyhoeddi deunydd sy'n cael ei ddarparu i'r cyhoedd yn gyffredinol neu unrhyw ran o'r cyhoedd
Er enghraifft, llogi ffotograffydd a safle i gynhyrchu delweddau i'w defnyddio mewn deunydd hysbysebu.
Costau penodol mewn cysylltiad â chynhyrchu neu ledaenu deunydd hysbysebu digidol neu electronig
Mae hyn yn cynnwys cost unrhyw feddalwedd, o unrhyw fath, i’w ddefnyddio ar unrhyw ddyfais:
- ddylunio a chynhyrchu deunydd hysbysebu yn fewnol
- lledaenu neu hwyluso'r broses o ledaenu deunydd hysbysebu
p'un a gaiff y deunydd hwnnw ei ddosbarthu'n ddigidol, yn electronig neu drwy ddulliau eraill.
Er enghraifft, ffi drwyddedu neu feddalwedd i'w defnyddio ar unrhyw ddyfais.
Mae hefyd yn cynnwys unrhyw gost y gellir ei phriodoli i wneud y cynnwys yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull.
Er enghraifft, prynu lle mwy blaenllaw ar dudalen mewn chwilotwr.
Mae'n cynnwys cost paratoi, cynhyrchu neu hwyluso'r broses o gynhyrchu deunydd hysbysebu:
- i'w lawrlwytho a'i ddefnyddio gan bobl eraill
- postio a hyrwyddo deunydd drwy unrhyw fath o sianel neu lwyfan cyfryngau cymdeithasol
Er enghraifft, costau cynhyrchu deunydd hysbysebu yn hyrwyddo'r ymgyrch a gaiff ei rannu ar dudalen ar sianel cyfryngau cymdeithasol yn annog dilynwyr i'w rannu.
Mae'n cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal unrhyw rwydwaith digidol neu rwydwaith arall sy'n:
- hwyluso'r broses o ddosbarthu neu ledaenu deunydd drwy unrhyw ddull
- hyrwyddo deunydd neu'n ei wneud yn fwy gweladwy drwy unrhyw ddull
Er enghraifft, prynu hunaniaethau digidol i wneud i ddeunydd ymddangos fel petai wedi cael ei weld a'i gymeradwyo gan nifer mawr o ddefnyddwyr ar lwyfan y cyfryngau cymdeithasol.
Mae'n cynnwys costau:
- lletya, cynnal, dylunio neu adeiladu gwefan neu ddeunydd electronig/digidol arall sy'n hyrwyddo canlyniad yr etholiad
- unrhyw ffi drwyddedu neu hawliau eraill ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth lunio deunydd perthnasol
Costau eraill
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw offer a ddefnyddir ar gyfer:
- paratoi, llunio neu hwyluso'r gwaith o lunio'r deunydd
- lledaenu'r deunydd drwy ddosbarthu neu fel arall
Mae'n cynnwys cost:
- papur neu unrhyw gyfrwng arall y mae'r deunydd yn cael ei argraffu neu ei ddangos arno
- arddangos deunydd yn ffisegol mewn unrhyw leoliad, er enghraifft clymau neu lud i osod posteri
Mae'n cynnwys cost argraffu deunydd neu brynu, llogi neu ddefnyddio:
- offer llungopïo
- offer argraffu
Mae’n cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- unrhyw wybodaeth, ym mha bynnag fodd, a ddefnyddir i hwyluso'r gwaith o anfon deunydd at bleidleiswyr (er enghraifft, prynu cyfeiriadau e-bost)
Mae'n cynnwys cost cyrchu, cael, prynu, datblygu neu gynnal setiau data, gan gynnwys dadansoddeg data i dargedu pleidleiswyr drwy ba ddull bynnag, gan gynnwys cost asiantaethau, sefydliadau neu bobl eraill sy'n nodi grwpiau o bleidleiswyr, drwy ba ddull bynnag.
Er enghraifft, cost unrhyw asiantaeth a gaiff ei thalu i ddadansoddi cynnwys cyfryngau cymdeithasol er mwyn hwyluso'r broses o dargedu pleidleiswyr mewn ardaloedd etholiadol a chost modelu gan asiantaeth sy'n seiliedig ar y dadansoddiad hwnnw.
Mae'n cynnwys unrhyw wasanaethau i nodi pleidleiswyr sy'n cael eu prynu, eu datblygu neu eu darparu cyn y cyfnod a reoleiddir, ond a ddefnyddir i dargedu pleidleiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir. Pan geir gwybodaeth neu fynediad at wybodaeth o ffynhonnell allanol, mae'n cynnwys cost fasnachol cael yr wybodaeth honno o'r ffynhonnell allanol.
Mae'n cynnwys dosbarthu deunydd drwy unrhyw ddull gan gynnwys dulliau electronig, er enghraifft prynu system ar gyfer anfon e-byst neu ffi drwyddedu ar gyfer rhaglen feddalwedd i’w defnyddio ar ddyfais, yn ogystal â dosbarthu ffisegol, er enghraifft cost amlenni a stampiau.
Mae'n cynnwys goruchwylio a chynnal a chadw’r holl gyfryngau cymdeithasol, digidol neu fathau eraill o ddosbarthu deunydd gan gynnwys cynnal yr holl gyfrifon cyfryngau cymdeithasol p’un a ydynt yn cael eu cynnal gan endid/unigolyn arall ai peidio.
Atodlen 8A, paragraff 1(2): Canvassing, or market research seeking views or information from, members of the public
Mae’r paragraff hwn yn cynnwys:
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu offer a ddarperir gan eraill
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- paratoi, llunio, hwyluso, cynnal neu gydlynu gwaith canfasio neu ymchwil marchnad gan gynnwys cofnodi neu ddadansoddi neu ddefnyddio canlyniadau unrhyw ymchwil marchnad neu weithgarwch canfasio mewn unrhyw ffordd arall
Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i’w defnyddio gan weithwyr y banc ffôn sydd wedi’u dylunio i ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Costau casglu neu gynnal data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu a chynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- setiau data, gan gynnwys defnydd o ddadansoddeg data i hwyluso neu i gynnal ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, mae'n cynnwys y gost o gynnal gwaith gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniadau i ddadansoddi bwriad pleidleiswyr.
Costau eraill
Mae’n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw offer sydd ei angen i:
- paratoi, llunio neu hwyluso gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cynnal neu gydlynu gwaith canfasio neu ymchwil y farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi, neu ddefnyddio mewn ffordd arall, ganlyniadau unrhyw weithgarwch ymchwil y farchnad neu ganfasio
Er enghraifft, gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio a ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gwaith canfasio os bydd yr offer hwnnw a/neu gostau cysylltiedig yn cael eu talu neu eu had-dalu gan drydydd parti cofrestredig.
Atodlen 8, paragraff 1(3): Press conferences, or other media events, organised by or on behalf of the third party
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Costau cynadleddau’r wasg neu ymwneud arall â’r cyfryngau
Mae hyn yn cynnwys cost prynu, defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- offer
- safle neu gyfleusterau
a ddefnyddir i baratoi, llunio, hwyluso neu gynnal cynadleddau i'r wasg neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau.
Costau eraill
Mae’n cynnwys cost unrhyw ffi hawliau neu drwyddedu ar gyfer unrhyw ddelwedd a ddefnyddir wrth baratoi, llunio, hwyluso neu gynnal cynadleddau i’r wasg neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau.
Mae’n cynnwys cost prynu neu ddefnyddio unrhyw offer mewn perthynas â pharatoi, llunio, hwyluso neu gynnal cynadleddau i’r wasg neu ddigwyddiadau eraill i’r cyfryngau.
Atodlen 8, paragraff 1(4): Transport (by any means) of persons to any place or places with a view to obtaining publicity
Transport (by any means) of persons to any place or places with a view to obtaining publicity.
Expenses in respect of the transport of such persons include the costs of hiring a particular means of transport.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Cludo gwirfoddolwyr ac ymgyrchwyr
Mae'n cynnwys cost cludo:
- gwirfoddolwyr
- aelodau, gan gynnwys aelodau o staff
- pobl eraill sy'n ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid
ardal etholiadol, neu i ardal etholiadol ac oddi yno, gan gynnwys cost:
- parcio ar gyfer unrhyw gludiant,
- llogi unrhyw gludiant
- tanwydd a brynwyd neu gostau gwefru cerbydau trydan ar gyfer unrhyw gludiant
- parcio ar gyfer unrhyw gludiant
pan fyddant yn ymgyrchu ar ran yr ymgyrchydd nad yw'n blaid.
Costau eraill
Mae'n cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw gerbyd neu fath o gludiant sy'n arddangos deunydd sy'n hyrwyddo canlyniad yr etholiad, gan gynnwys:
- dylunio cynllun a'i osod ar y cerbyd neu'r math o gludiant
- teithio rhwng ardaloedd etholiadol
- teithio o amgylch ardal etholiadol
- ffioedd parcio lle ddefnyddir cerbyd i arddangos deunydd
Mae costau adroddadwy yn cynnwys yr holl gostau cludiant sy'n gysylltiedig ag unrhyw weithgarwch arall a restrir. Er enghraifft, cludo rhywun i rali.
Atodlen 8A, paragraff 1(5): Public rallies or other public events
Public rallies or other public events, other than—
(a) annual conferences of the third party, or
(b) any public procession or protest meeting, within the meaning of the Public Processions (Northern Ireland) Act 1998 , in respect of which notice is given in accordance with section 6 or 7 of that Act (advance notice of public processions or related protest meetings).
Expenses in respect of such events include costs incurred in connection with the attendance of persons at such events, the hire of premises for the purposes of such events or the provision of goods, services or facilities at them. But expenses in respect of such events do not include costs incurred in providing for the protection of persons or property.
Mae'r paragraff hwn yn cynnwys:
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu offer a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safleu neu gyfleusterau
- offer
a ddefnyddir i:
- hyrwyddo rali neu ddigwyddiad arall
- cynnal rali neu ddigwyddiad arall
- ffrydio neu ddarlledu rali neu ddigwyddiad arall mewn unrhyw fodd
Costau eraill
Mae'n cynnwys cost hyrwyddo neu hysbysebu'r rali neu ddigwyddiad, drwy unrhyw ddull.
Mae'n cynnwys cost darparu unrhyw nwyddau, gwasanaethau neu gyfleusterau yn y digwyddiad, er enghraifft cost llogi seddi.
Mae'n cynnwys cost prynu unrhyw offer mewn perthynas â:
- cynnal cyfarfod cyhoeddus
- ffrydio cyfarfod cyhoeddus yn fyw neu ei ddarlledu drwy unrhyw ddull
Costsau sydd wedi'u heithrio
Nid yw costau adroddadwy yn cynnwys cost darparu diogelwch penodol ar gyfer unrhyw un sy’n ymddangos neu’n mynychu’r digwyddiad na chostau darparu diogelwch cyffredinol i bobl neu eiddo yn y digwyddiad.
- 1. a100A(1A) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A100A(5A) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. a89B PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. a89B(1)PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. a94(4) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. A88(3)(c) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 8A paragraff 1 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 10 paragraff 6(4) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. A3(1) Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Yn unol ag a5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Atodlen 10 paragraff 6 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 11
- 12. A94D PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 12
- 13. S85(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 13
- 14. A85(4A) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 14
- 15. A5(6); a22(5) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 15
- 16. A94(3) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 16
- 17. A89B(1) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 17
- 18. A88; a28(7A) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 18
- 19. A89B(1) & (2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 19
- 20. A94(3)(a)(i), a94(3)(b)(i) ac a94(4) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 20
- 21. A94(3)(a)(i), a94(3)(b)(ii), A96(1) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 21
- 22. A85(5B) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 22
- 23. Atodlen 10 paragraffau 9-11 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 23
- 24. A96(1A), a96A ac a98(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 24
- 25. A98(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 25
- 26. A94(8) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 26
- 27. A85 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 27
- 28. Atodlen 8A paragraff 2 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 28
- 29. A86(1)(a) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 29
- 30. A86(6) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 30
- 31. A86(1)(b) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 31
- 32. A86(1A) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 32
- 33. A86(3) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 33
- 34. A86(4) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 34
- 35. A73 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 35
- 36. A50(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 36
- 37. A94(7) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 37
- 38. A94(6) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 38
- 39. A94A(3)(a) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 39
- 40. A94A(3)(b) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 40
- 41. A94A(1) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 41
- 42. A94B(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 42
- 43. A94B PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 43
- 44. Atodlen 11 paragraff (2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 44
- 45. Atodlen 11 paragraff 1(4) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 45
- 46. Atodlen 11 paragraff 4(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 46
- 47. Atodlen 11 paragraff 1(6) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 47
- 48. Atodlen 11 paragraff 5 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 48
- 49. Atodlen 11 paragraff 6(4) a (6) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 49
- 50. Atodlen 11 paragraff 6(4), (6) a (7) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 50
- 51. Atodlen 11 paragraff 7 PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 51