Ymgynghoriad ar y polisi gorfodi diwygiedig
Yr hyn rydym yn ymgynghori arno
Fel rheoleiddiwr cyllid gwleidyddol yn y DU, rydym yn sicrhau bod pleidiau ac ymgyrchwyr yn dilyn y gyfraith. Os credwn y gall y gyfraith fod wedi cael ei thorri, gallwn weithredu. Mae hyn yn rhoi hyder i bleidleiswyr, pleidiau, ac ymgyrchwyr fod y system yn deg.
Mae Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA) yn ei gwneud yn ofynnol i ni roi canllawiau ar ein pwerau ymchwilio a chosbi mewn perthynas â throseddau a thoriadau posibl o dan y Ddeddf.
Rydym yn cyhoeddi polisi gorfodi statudol, y byddwn yn cyfeirio ato wrth gynnal ymchwiliad.
Byddwn yn adolygu'r polisi yn rheolaidd ac rydym newydd gwblhau ein hadolygiad diweddaraf. Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y newidiadau. Bydd eich barn yn ein helpu i sicrhau bod y polisi hwn mor eglur a defnyddiol â phosibl, fel bod ein dull gorfodi yn dryloyw ac yn hawdd ei ddeall.
Sut i ymateb
Bydd yr ymgynghoriad hwn ar agor rhwng 16 Ionawr a 31 Mawrth 2023.
Gallwch ymateb:
- drwy lenwi ein ffurflen ar-lein
- drwy e-bostio'ch sylwadau i X neu
- drwy ysgrifennu atom yn y cyfeiriad canlynol:
Enforcement Team
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London EC1Y 8YZ
Os bydd gennych unrhyw gwestiynau neu os bydd angen help arnoch i allu ymateb, mae croeso i chi gysylltu ar 0333 103 1928.
Newidiadau i'r polisi gorfodi
Rydym wedi adolygu ein polisi gorfodi. Nid yw'r fersiwn ddiwygiedig yn cynrychioli newidiadau sylweddol i'n gwaith gweithredol, ond mae'n egluro sut rydym eisoes yn gweithio. Rydym yn gofyn am eich safbwyntiau i helpu i wneud y ddogfen mor eglur â phosibl.
Mae rhai o'r newidiadau rydym wedi'u gwneud yn cynnwys y canlynol:
- Diwygio sut rydym yn esbonio ein dull gorfodi Mae hyn yn egluro sut mae'r polisi gorfodi yn rhan o gyd-destun ehangach
- Diwygio sut rydym yn esbonio ein dull ac ychwanegu cyfeiriadau uniongyrchol at ddidueddrwydd. Rydym wedi nodi'n glir y byddwn ond yn cymryd camau gorfodi pan fydd yn angenrheidiol ac yn gymesur.
- Cynnwys adran newydd ar ein dull fforffedu. Proses o dynnu cyllid nas caniateir o'r system yw hon a bydd yn wirfoddol fel arfer. Credwn ei bod yn ddefnyddiol i ymgyrchwyr os ydym yn esbonio ein dull.
- Cynnwys cydnabyddiaeth o'r effaith y gall ymchwiliadau ei chael ar y bobl dan sylw, ac y byddwn yn sensitif i hyn. Rydym hefyd wedi cyfeirio at ein hymrwymiad i gydnabod amrywiaeth ac ystyried hyn.
- Dileu atodiad yn rhoi gwybodaeth i gyfweleion am y broses gyfweld. Caiff y wybodaeth hon ei darparu eisoes i unrhyw un a wahoddir am gyfweliad yn ystod ymchwiliad.
- Mân newidiadau eraill i eirfa er mwyn egluro a chynnig cymaint o sicrwydd â phosibl i ymgyrchwyr. Er enghraifft, o dan ba amgylchiadau y byddwn yn ystyried dechrau ymchwiliad, a'n dull o ddatgelu gwybodaeth.