Templedi llythyrau ailymgeisio am bleidlais bost newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
Templedi llythyrau ailymgeisio am bleidlais bost newydd ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol
O ganlyniad i’r newidiadau a wnaed o dan Ddeddf Etholiadau 2022, mae yn rhaid nawr i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yrru hysbysiad i etholwyr domestig sydd â threfniant pleidleisio drwy’r post ar gyfer Etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu sydd yn dod i ben ar yr 31ain o Ionawr bob blwyddyn. Nid yw ffurf yr hysbysiad wedi’i ragnodi, ond mae’n rhaid iddo hysbysu’r etholwr o’r dyddiad y daw eu trefniant i ben a bydd rhaid iddynt wneud cais newydd os byddant am barhau i fod yn bleidleiswr post.
I gefnogi’r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyda hyn, rydym wedi llunio llythyr templed i chi ei ddefnyddio i wahodd pleidleiswyr post i ailymgeisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau ar y broses ar gyfer hysbysu pleidleiswyr post o’r gofyniad i ailymgeisio ac yn ein canllawiau ar gynnwys yr hysbysiad ailymgeisio am bleidlais post.
I’r etholwyr sydd â threfniadau parhaol i bleidleisio drwy’r post ar gyfer etholiadau’r Senedd a/neu etholiadau llywodraeth leol, bydd y trefniadau presennol yn parhau yn eu lle. Pan fydd llofnod pledleiswyr post ar eu cofnod dynodyddion personol yn fwy na phum mlwydd oed, bydd yn rhaid i Swyddogion Cofrestru Etholiadol eu hysbysu y bydd angen cael llofnod newydd er mwyn i’r trefniant/trefniadau pleidleisio drwy’r post barhau. Rydym wedi diweddaru ein llythyr templed adnewyddu pleidleisiau post i helpu pleidleiswyr post i wahaniaethu rhwng y ddwy broses hyn.