Bwletin Gweinyddiaeth Etholiadol: 384

Ym Mwletin yr wythnos hon...

  • Canfas 2024: gwybodaeth am gasglu data cofrestru etholiadol  
  • Adnoddau newydd - newidiadau i hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth dinasyddion yr UE
  • Cyfle Secondiad y Comisiwn Etholiadol 

Canfas 2024: gwybodaeth am gasglu data cofrestru etholiadol  

Fel y gwyddoch, bob blwyddyn mae'r Comisiwn yn casglu data cofrestru etholiadol gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn dilyn y canfas blynyddol a chyhoeddi'r cofrestrau etholiadol diwygiedig. Mae'r data hwn yn chwarae rhan bwysig yn ein hadroddiadau ar gofrestru etholiadol ym Mhrydain Fawr ac yn ein helpu i ddangos sut mae'r prosesau canfasio wedi bod yn gweithio'n ymarferol.  

Rydym wedi bod yn gweithio gyda chyflenwyr meddalwedd rheoli etholiadol i sicrhau bod y data ar gael yn eich systemau. Byddwn yn gofyn am yr un data canfasio ag yn 2023. Bydd ymarfer casglu data ar wahân ym mis Chwefror 2025 ar gyfer data Hawliau Pleidleisio Dinasyddion yr UE.  

Byddwn mewn cysylltiad trwy e-bost yn fuan i ofyn am y data a byddwn yn cadarnhau bryd hynny sut y gellir cynhyrchu'r adroddiadau perthnasol.  

Hoffem ddiolch i chi o flaen llaw am eich cefnogaeth gyda’r gwaith hwn ac am yr amser a gymerwyd i roi’r data i ni.  

Newidiadau i hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth dinasyddion yr UE

Mae yna ychydig o newidiadau wedi bod i hawliau pleidleisio ac ymgeisyddiaeth rhai o ddinasyddion yr UE. Os ydych chi’n ddinesydd yr UE sy’n byw yn y DU, mae p'un a allwch chi bleidleisio yn dibynnu ar y math o etholiad a'ch dinasyddiaeth.  

Yr etholiadau cyntaf yng Nghymru sydd wedi’u trefnu y bydd y newidiadau hyn yn berthnasol iddynt fydd etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yn 2028.  

Mae rhagor o wybodaeth, gan gynnwys offeryn y gall dinasyddion yr UE ei ddefnyddio i ganfod pa etholiadau y gallant bleidleisio ynddynt, ar gael yma.  

Adnoddau partneriaeth ar gael   
Er mwyn eich helpu i godi ymwybyddiaeth pleidleiswyr o’r newidiadau hyn, rydym wedi cynhyrchu ystod o adnoddau. Mae’r rhain yn cynnwys:

  •    Taflen A5
  •   Graffigau cyfryngau cymdeithasol
  •   Facebook/Insta/X – postiadau a storïau
  •   Whatsapp - graffeg
  •   Copi cyfryngau cymdeithasol
  •   Cwestiynau a Ofynnir yn Aml  
     

Lawrlwythwch yr adnoddau  

Os oes gennych unrhyw gwestiynau ynghylch ein hadnoddau i bartneriaid, cysylltwch â ni drwy e-bostio [email protected] 

Cyfle Secondiad y Comisiwn Etholiadol 

Rydym yn chwilio am weithiwr etholiadol proffesiynol sydd â phrofiad o weithio gyda Safonau Perfformiad y Swyddog Canlyniadau a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i ymuno â ni rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2025 ar secondiad fel Arweinydd Ymgysylltu Safonau Perfformiad. Bydd y rôl yn cynnwys ymgysylltu â chyfoedion ar draws y sector etholiadol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban i gael gwybod sut mae’r safonau’n cael eu defnyddio a beth y gellid ei wella.

Mae'n gyfle unigryw i helpu i lunio safonau perfformiad y Comisiwn a gwneud gwelliannau i adnodd allweddol sy'n galluogi gweinyddwyr etholiadol i gynnal etholiadau yn dda. Byddwch yn cael y cyfle i gael mewnwelediad a phrofiad o weithio i reoleiddiwr.

I gael rhagor o wybodaeth am y rôl a sut i wneud cais, ewch i'n gwefan