Yr hyn y gall arsyllwyr ei wneud a’r hyn y mae’n rhaid iddynt beidio â’i wneud
Mae arsylwadau annibynnol etholiadau, refferenda a deisebau adalw yn hanfodol ar gyfer democratiaeth iach ac yn rhan bwysig o’r broses etholiadol. Mae’n helpu i sicrhau bod digwyddiadau etholiadol yn cael eu cynnal mewn modd tryloyw, hygyrch, di-duedd a diogel. Mae gan arsyllwyr sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn Etholiadol hawl i arsylwi prosesau etholiadol penodol gan gynnwys pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.
Mae’n rhaid i arsyllwyr wneud y canlynol:
- Parchu awdurdod swyddogion etholiadol a dilyn eu cyfarwyddiadau.
- Gwisgo eu bathodyn arsyllwr swyddogol bob amser wrth arsylwi mewn digwyddiadau etholiadol a’i ddarparu pan ofynnir iddynt wneud hyn.
- Cynnal didueddrwydd gwleidyddol llym bob amser.
- Cynnal cyfrinachedd y bleidlais.
Mae’n rhaid i arsyllwyr beidio â gwneud y canlynol:
- Rhwystro’r broses etholiadol neu ymyrryd â hi.
- Camgyfleu eu bod yn Gynrychiolwyr o’r Comisiwn Etholiadol.
- Gweithredu mewn ffordd a allai niweidio ymddiriedaeth yn y cynllun arsyllwyr.
Dylai arsyllwyr wneud y canlynol:
- Adrodd am anghysondebau neu dwyll a amheuir i swyddogion etholiadol yn brydlon ac yn ddisylw, oni bai y byddai hyn yn torri cyfrinachedd y bleidlais neu’n rhwystro prosesau etholiadol.
- Dim ond gofyn cwestiynau i swyddogion, cynrychiolwyr pleidiau, arsyllwyr eraill, a phleidleiswyr yn briodol yn unol â chyfrinachedd y bleidlais.
- Cofnodi arsylwadau’n ofalus ac yn wrthrychol a seilio pob barn ar y safonau uchaf o gywirdeb gwybodaeth a didueddrwydd dadansoddi.
- Sicrhau nad yw eu hymddygiad yn dwyn anfri ar y cynllun arsyllwyr etholiadol.
Methu â bodloni’r safonau
Gellir symud arsyllwyr o orsafoedd pleidleisio neu ddigwyddiadau etholiadol os oes angen i atal camwedd neu’r risg o fygythiadau i’r rhai sy’n cymryd rhan. Os na fydd arsyllwr yn gadael pan ofynnir iddo wneud hynny gan swyddogion etholiadol, yna gall yr Heddlu ymyrryd er mwyn cael gwared ar yr arsyllwr.
Mae camymddygiad yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i:
- dorri cyfrinachedd y bleidlais, neu geisio tanseilio hynny
- rhwystro gweithrediadau etholiadol yn fwriadol
- gofyn i etholwyr am eu dewis pleidleisio wrth arsylwi mewn gorsafoedd pleidleisio
- bod dan ddylanwad alcohol a/neu gyffuriau wrth arsylwi
Os caiff arsyllwr achrededig ei symud oherwydd camymddwyn, gall y Comisiwn Etholiadol ystyried dirymu ei achrediad.