Penderfynu ar geisiadau yn agos at y dyddiad cau

Penderfynu ar geisiadau yn agos at y dyddiad cau

Ar gyfer ceisiadau a ddaw i law cyn dyddiad cau, er y dylech benderfynu arnynt cyn gynted â phosibl, gallwch wneud eich penderfyniad hyd at ac yn cynnwys unrhyw amser ar y diwrnod pleidleisio ar gyfer etholiad neu refferendwm neu ar y diwrnod olaf  ar gyfer llofnodi deiseb. 

Ar gyfer ceisiadau a gaiff eu cymeradwyo ar ôl y dyddiad cau, bydd angen i chi benderfynu a fydd yr ymgeisydd yn cael y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu'r Ddogfen Etholwr Dienw mewn pryd i allu ei defnyddio yn yr etholiad neu'r refferendwm neu i lofnodi mewn deiseb. 

Os byddwch yn penderfynu na fyddai Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn cyrraedd mewn pryd ar gyfer cais y penderfynwyd arno ar ôl y dyddiad cau, cewch gyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro.1  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro

I'ch helpu i wneud y penderfyniad hwn, dylech ystyried yr amserlenni disgwyliedig sydd yn y cytundeb lefel gwasanaeth â'r cyflenwr canolog sydd wedi'i gaffael gan Lywodraeth y DU ar gyfer Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr ac amserlenni dosbarthu'r Post Brenhinol. Gellir cael gwybodaeth am hyn yn ein canllawiau ar gynhyrchu Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr parhaol

Os byddwch yn penderfynu na fydd Dogfen Etholwr Dienw yn cyrraedd mewn pryd pe bai'n cael ei hanfon drwy'r post, dylech gysylltu â'r etholwr a threfnu iddo ddod i gasglu'r ddogfen os yw'n bosibl. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ddosbarthu neu gasglu Dogfennau Etholwyr Dienw.

Pa benderfyniad bynnag a wnewch, rhaid i chi ysgrifennu at yr etholwr i roi gwybod iddo.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2022