Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfennau Etholwyr Dienw ar gyfer etholiad neu ddeiseb benodol

Gellir gwneud cais am Dystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfennau Etholwyr Dienw ar unrhyw adeg. Dylech benderfynu ar geisiadau cyn gynted ag y bo'n ymarferol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ar gyfer etholiad neu ddeiseb benodol yw:

  • etholiad - 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio
  • deiseb - 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi ar gyfer y ddeiseb honno 

Mae'r dyddiadau cau yn statudol - ni ellir ymestyn y dyddiad cau am unrhyw reswm. Ni all ceisiadau a ddaw i law ar ôl y dyddiad cau perthnasol gael eu prosesu ar gyfer yr etholiad neu'r ddeiseb benodol. 
 
Gellir penderfynu ar geisiadau a ddaw i law cyn y dyddiad cau ar ôl y dyddiad cau ac ar unrhyw adeg hyd at ac yn cynnwys diwrnod yr etholiad, neu'r diwrnod olaf i lofnodi'r ddeiseb benodol. I gael rhagor o wybodaeth am benderfynu ar geisiadau, gweler ein canllawiau ar Benderfynu ar gais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw. 
 
Ni waeth beth fo'r dyddiad perthnasol ar ffurflen bapur, rhaid i chi fod wedi derbyn y cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr erbyn 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio neu cyn diwrnod olaf y cyfnod llofnodi ar gyfer y ddeiseb honno er mwyn gallu cyflwyno Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn pryd ar gyfer yr etholiad neu'r ddeiseb dan sylw.1
  
Dylech roi gwybod i ymgeisydd os bydd ei gais yn cyrraedd yn rhy hwyr i gael ei brosesu ar gyfer etholiad, refferendwm, neu ddeiseb benodol. Dylech esbonio'r canlynol:

  • bod ei gais wedi cyrraedd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer yr etholiad neu'r ddeiseb benodol
  • y bydd ei gais yn cael ei brosesu o hyd ac y caiff Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw ei pharatoi i'w defnyddio mewn etholiadau neu ddeisebau yn y dyfodol
  • os yw'n etholwr cyffredin, bydd yn gallu pleidleisio neu lofnodi'r ddeiseb o hyd os gall ddarparu math arall o brawf adnabod ffotograffig. Dylech gynnwys y rhestr o fathau o brawf adnabod ffotograffig a dderbynnir y gallant eu defnyddio
  • os yw'n etholwr dienw, bydd ond yn gallu pleidleisio neu lofnodi deiseb drwy benodi dirprwy mewn argyfwng.  
Diweddarwyd ddiwethaf: 21 Tachwedd 2022