Cyflwyno Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro

Pan fydd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr barhaol (a argraffwyd gan y cyflenwr sydd wedi'i gaffael yn ganolog a benodwyd gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau) wedi'i chyflwyno rhwng 5pm 6 diwrnod gwaith cyn etholiad (neu ddiwrnod olaf deiseb) a 5pm ar ddiwrnod yr etholiad neu ddiwrnod llofnodi'r ddeiseb (neu ddechrau'r awr olaf y mae'r ddeiseb ar gael i'w llofnodi os yw'n gynt na 5pm), a'ch bod yn fodlon na fydd o bosibl yn cyrraedd yr ymgeisydd mewn pryd i'w defnyddio ar y diwrnod pleidleisio neu ar gyfer deiseb, gellir cynhyrchu Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro a'i chyflwyno'n lleol1 , hyd at ddiwedd y bleidlais ar ddyddiad yr etholiad perthnasol neu pan ddisgwylir i'r ddeiseb ar y diwrnod olaf ar gyfer llofnodi'r ddeiseb berthnasol.  

Mae'n bosibl y bydd angen gwneud penderfyniad ynghylch a oes angen Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro oherwydd pa mor agos yw'r diwrnod pleidleisio sydd ar ddod neu ddiwrnod olaf deiseb, neu gallai fod oherwydd eich bod yn ymwybodol o broblem arall, megis streic bost.

Dim ond ar ddyddiad perthnasol etholiad penodol y bydd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro yn ddilys, neu ar gyfer y cyfnod sy'n weddill ar gyfer deiseb. Rhaid i'r ymgeisydd ei chasglu yn bersonol; ni ellir ei hanfon drwy'r post.

Rhaid i Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro gynnwys y canlynol2 yn Gymraeg ac yn Saesneg:3

  • enw llawn yr etholwr
  • y dyddiad cyflwyno
  • enw'r awdurdod lleol a benododd y Swyddog Cofrestru Etholiadol
  • dynodydd priodol
  • ar gyfer pa ddyddiad y mae'r Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro yn ddilys
  • ffoto o'r ymgeisydd4  
  • llofnod y Swyddog Cofrestru Etholiadol

Mae'r dynodydd priodol yn cynnwys 20 o rifau a llythrennau a neilltuir i bob Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro.5 Caiff hyn ei gynhyrchu gan EROP.

Gall dirprwy ddarparu llofnod y Swyddog Cofrestru Etholiadol a dylai fod ar ffurf llofnod inc gwlyb. Mae'n bosibl y bydd angen i chi ystyried penodi dirprwy Swyddog Cofrestru Etholiadol ychwanegol gyda'r pŵer i lofnodi Tystysgrifau Awdurdod Pleidleiswyr dros dro, er enghraifft i'w defnyddio mewn lleoliadau ychwanegol lle gall fod angen eu cynhyrchu. Fel arall, gallech ddefnyddio llofnod electronig neu stamp ond, os byddwch yn gwneud hynny, dylech hefyd ystyried pa fesur diogelwch lleol ychwanegol y byddwch yn ei ddefnyddio i nodi bod y dogfennau yn ddilys.

Y dyddiad y bydd y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn ddilys fydd dyddiad yr etholiad neu ddiwrnod olaf deiseb. Yn achos deiseb, bydd y dystysgrif yn ddilys i'w defnyddio ar unrhyw ddiwrnod hyd at ac yn cynnwys diwrnod olaf y cyfnod llofnodi.  

Bydd yn rhaid i chi ddiweddaru cofnod y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr barhaol yn y cofnod o ddogfennau a gyflwynwyd er mwyn nodi pan gynhyrchwyd Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr dros dro,  a dylai'r cofnod hwn gynnwys dynodydd priodol y ddogfen dros dro honno, a'r dyddiad y mae'n ddilys.

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Ebrill 2023