Newidiadau i drefniadau pleidleisio drwy ddirprwy
Summary
Bellach mae cyfyngiad ar faint o bobl y gall rhywun weithredu fel dirprwy ar eu rhan.
Gallwch hefyd wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy. Ni allwch wneud cais ar-lein os oes angen ardystio eich cais neu os ydych yn gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys.
Newidiadau
Mae’r newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy yn cynnwys:
- Gallwch nawr wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy.
- Bydd eich hunaniaeth yn cael ei wirio fel rhan o'r broses ymgeisio. Bydd angen dilysu ID (ac eithrio pleidleisiau drwy ddirprwy brys) i wneud cais ar-lein ac ar bapur.
- Bellach mae cyfyngiad ar faint o bobl y gall rhywun fod yn ddirprwy ar eu rhan. Gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer dau berson. Os byddwch yn pleidleisio ar ran pleidleiswyr y DU sy’n byw dramor, gallwch weithredu fel dirprwy ar gyfer hyd at bedwar o bobl (ond dim ond dau o’r rheini sy’n gallu byw yn y DU).
Mae’r newidiadau’n berthnasol i:
- Etholiadau Senedd y DU (ac eithrio Gogledd Iwerddon), gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau lleol yn Lloegr
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr
Bydd y cyfyngiad ar faint o bobl y gall pleidleisiwr weithredu fel dirprwy ar eu rhan hefyd yn berthnasol i etholiadau lleol ac etholiadau’r Cynulliad yng Ngogledd Iwerddon.
Nid yw’r newidiadau hyn yn berthnasol i etholiadau Senedd yr Alban nac etholiadau llywodraeth leol yn yr Alban, nac i etholiadau'r Senedd nac etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru.
Ein rôl
Rydym wedi darparu canllawiau wedi’u diweddaru a chymorth i weinyddwyr etholiadol i'w helpu i ddeall a chyflawni'r newidiadau.
Rydym yn cefnogi awdurdodau lleol i gyfleu’r newidiadau hyn i bleidleiswyr sydd am wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, gan gynnwys amlygu iddynt yr opsiwn i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar-lein lle mae’n bodoli.
Rydym wedi dweud wrth bleidiau gwleidyddol ac ymgyrchwyr am y newidiadau i bleidleisio drwy ddirprwy.