Sut i bleidleisio trwy ddirprwy
This page
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU ar ddydd Iau 4 Gorffennaf yw 5pm ddydd Mercher 26 Mehefin. Rhaid i chi hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Crynodeb
Mae newidiadau i'r trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy. Gallwch nawr wneud cais ar-lein am rai mathau o bleidlais drwy ddirprwy ac mae newidiadau i faint o bobl y gall pleidleisiwr fod yn ddirprwy iddynt. Dysgu mwy
Mae'r newidiadau yn gymwys i etholiadau Senedd y DU, gan gynnwys is-etholiadau a deisebau adalw, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Os ydych wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn y gorffennol, bydd hon yn dod i ben ar 31 Ionawr 2024 a bydd angen i chi wneud cais am un newydd.
Gofyn i rywun rydych chi'n ymddiried ynddo fod yn ddirprwy
Os byddwch yn pleidleisio drwy ddirprwy, mae angen i chi ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan.
Bydd angen i chi ddweud wrth eich dirprwy i bwy yr hoffech bleidleisio.
Gall rhywun fod yn ddirprwy i chi os yw:
- yn 16 oed neu'n hŷn ar gyfer etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol, neu'n 18 oed neu'n hŷn ar gyfer etholiadau Senedd y DU
- wedi cofrestru i bleidleisio
- yn gallu mynd i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
- yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad
Nid oes yn rhaid i'ch dirprwy fod yn perthyn i chi.
Yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddau, dim ond i ddau berson yn y DU y gall rhywun fod yn ddirprwy. Os ydych yn gweithredu fel dirprwy i bobl sy'n byw dramor, gallwch fod yn ddirprwy ar ran hyd at bedwar person ond dim ond dau o'r rhain all fod wedi'u lleoli yn y DU.
Yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau llywodraeth leol, dim ond i berthnasau agos, a dau berson arall, y gall rhywun fod yn ddirprwy.
Yr hyn y mae angen i'r dirprwy a benodir gennych ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Bydd angen i'r unigolyn a benodir gennych fel eich dirprwy fynd i'ch gorsaf bleidleisio leol i fwrw'ch pleidlais.
Bydd eich dirprwy yn cael cerdyn pleidleisio dirprwy sy'n dweud wrtho ble a phryd i bleidleisio ar eich rhan.
Yn etholiadau Senedd y DU ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, bydd angen i'ch dirprwy ddangos ei ID ffotograffig ei hun pan fydd yn pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio ar eich rhan. Dysgwch fwy am ID pleidleisiwr.
Os na fydd yn cael cerdyn pleidleisio dirprwy, dylai holi tîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol. Byddant yn gallu dweud wrtho ble i fynd i bleidleisio a rhoi unrhyw wybodaeth arall sydd ei hangen.
Gallwch bleidleisio'n bersonol hyd yn oed os oes gennych bleidlais drwy ddirprwy, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny cyn i'ch dirprwy bleidleisio ar eich rhan.
Dod o hyd i’ch gorsaf bleidleisio
Rhowch eich cod post i ddarganfod ble mae eich gorsaf bleidleisio.
ID Pleidleisiwr
Bellach mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Dysgwch fwy am ba etholiadau y bydd angen ID ffotograffig arnoch yng Nghymru a'r mathau o ID ffotograffig a dderbynnir.
Pleidlais ddirprwy drwy’r post
Os na all yr unigolyn rydych yn ymddiried ynddo gyrraedd yr orsaf bleidleisio, gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy'r post. Pleidlais ddirprwy drwy'r post yw'r enw ar hyn.
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais ddirprwy drwy'r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Bydd angen i'r unigolyn rydych yn ymddiried ynddo gysylltu â thîm gwasanaethau etholiadol eich cyngor lleol i gael rhagor o fanylion a gofyn am ffurflen gais arall.
Os bydd eich dirprwy yn pleidleisio mewn etholiad lle mae angen dangos ID ffotograffig, a bod ei ID ffotograffig derbyniol wedi cael ei golli, ei ddwyn, ei ddinistrio neu'i ddifrodi, yna mae'n bosibl y gall wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng .
Sut i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy
Os byddwch wedi enwebu dirprwy, ond yna'n newid eich meddwl ac yn dymuno pleidleisio eich hun, mae gennych sawl opsiwn.
Un opsiwn yw y gallwch wneud cais i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy.
- Yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
- Yn yr Alban, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol.
Y dyddiad cau ar gyfer canslo pleidlais drwy ddirprwy yng Nghymru, Lloegr a'r Alban yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Os bydd pleidlais ddirprwy drwy'r post eisoes wedi cael ei chwblhau a'i dychwelyd, ni all y trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad hwnnw gael eu canslo.
Un opsiwn arall yw y gallwch bleidleisio eich hun. Gallwch wneud hyn ar yr amod eich bod yn pleidleisio cyn eich dirprwy. Ni allwch wneud hyn os bydd eich dirprwy eisoes wedi pleidleisio drwy'r post ar eich rhan.
Fel arall, gallwch wneud cais am bleidlais bost. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud hynny yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddo. Bydd y cais hwn am bleidlais bost yna'n canslo eich cais i bleidleisio drwy ddirprwy.
Emergency proxy
O dan amgylchiadau penodol, pan fydd argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.