Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Emergency proxy vote
Yn ôl y gyfraith, o dan amgylchiadau penodol, pan fydd argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn y terfyn amser ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy arferol.
Rydych am bleidleisio mewn etholiad lle mae angen dangos ID ffotograffig ac mae eich ID ffotograffig wedi cael ei golli, ei ddwyn, ei ddinistrio neu'i ddifrodi ar ôl y dyddiad cau i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Gellir defnyddio'r ffurflen hon hefyd os yw eich Dogfen Etholwr Dienw wedi cael ei cholli, ei dwyn, ei dinistrio neu'i difrodi.
Gellir gwneud y ceisiadau hyn hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.