This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Introduction
Mae’n rhaid eich bod wedi’ch cofrestru i bleidleisio cyn i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Pan fyddwch yn cofrestru i bleidleisio, gofynnir i chi p’un a oes gennych ID pleidleisiwr ai peidio, neu a ydych am wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Pleidleisio trwy'r post
Pleidleisio trwy'r post
Nid oes angen ID ffotograffig arnoch i bleidleisio trwy’r post, felly does dim angen i chi wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr os dewiswch bleidleisio fel hyn.
Sut i wneud cais
Gwneud cais ar-lein
Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gov.uk.
Gwneud cais drwy'r post
Gallwch hefyd wneud cais drwy lenwi ffurflen gais bapur a’i hanfon i’ch cyngor lleol.
Gallwch wneud cais i gael y cyfarwyddiadau mewn print bras, Braille neu fformat hawdd eu darllen.
Gallwch hefyd wneud cais yn bersonol yn eich cyngor lleol.
Os oes angen help arnoch wrth wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu os ydych am ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’ch cyngor lleol. Gallwch hefyd ffonio ein llinell gymorth ar 0800 328 0280 os oes gennych unrhyw gwestiynau.
Gwybodaeth y bydd angen i chi ei darparu
Wrth wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, bydd angen i chi ddarparu eich:
- enw
- cyfeiriad
- dyddiad geni
- rhif Yswiriant Gwladol
Dylech wneud cais gan ddefnyddio’r un enw a ddefnyddiwyd gennych i gofrestru i bleidleisio.
Ni fydd angen i chi nodi eich rhywedd, a ni fydd gan eich tystysgrif farciwr rhywedd.
Os nad ydych chi'n gwybod beth yw eich Rhif Yswiriant Gwladol, neu os nad oes un gennych
Gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar:
- slipiau cyflog
- llythyron swyddogol ynghylch treth, pensiynau neu fudd-daliadau
Gallwch ddal wneud cais os nad ydych chi'n gwybod beth yw eich Rhif Yswiriant Gwladol, neu os nad oes un gennych.
Bydd angen i chi ddarparu mathau eraill o brawf adnabod, megis tystysgrif geni, datganiad banc a bil cyfleustod. Bydd eich cyngor lleol yn cysylltu â chi i drefnu hyn.
Os nad oes gennych fath arall o brawf adnabod a dderbynnir, gallwch ofyn i rywun rydych yn ei adnabod i gadarnhau eich hunaniaeth. Gelwir hyn yn ardystiad.
Os ydych yn byw ar gwch neu breswylfa symudol arall
Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr o hyd. Bydd yn cael ei phostio i’r cyfeiriad lle rydych wedi cofrestru i bleidleisio.
Os oes angen i chi ei chasglu yn bersonol, cysylltwch â'ch cyngor lleol.
Dysgwch fwy am sut i gofrestru i bleidleisio os ydych yn byw ar gwch neu breswylfa symudol arall.
Darparu ffoto
Bydd angen i chi gyflwyno ffoto gyda’ch cais. Mae’r gofynion ar gyfer y ffoto yn debyg i’r gofynion ar gyfer ffoto pasbort.
Os oes angen help arnoch wrth gymryd y ffoto, bydd eich cyngor lleol yn gallu gwneud hyn ar eich cyfer.
Er mwyn i’r ffoto gael ei dderbyn, mae’n rhaid i chi fodloni gofynion penodol o ran steil, ansawdd a maint:
Mae’n rhaid i’ch ffoto fod:
- ohonoch yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth ar y camera
- yn ffoto agos o’ch pen ac ysgwyddau, heb unrhyw orchudd pen, oni bai eich bod yn gwisgo un oherwydd credoau crefyddol neu am resymau meddygol. Mae’n rhaid i’ch wyneb beidio â chael ei gorchuddio am unrhyw reswm
- ohonoch â mynegiant wyneb plaen gyda’ch llygaid ar agor ac yn weladwy (er enghraifft, heb sbectol haul a heb eu cuddio â gwallt). Nodwch na fydd hyn yn gymwys os na allwch ddarparu ffoto sy’n cydymffurfio â’r naill ofyniad neu’r llall, neu’r ddau ohonynt, oherwydd unrhyw anabledd.
Os na allwch fodloni'r gofynion oherwydd anabledd, siaradwch â’ch cyngor lleol.
Mae’n rhaid i’r ffoto fod:
- yn wirioneddol debyg i chi
- mewn lliw
- wedi ei dynnu yn erbyn cefndir golau, plaen
- mewn ffocws ac yn eglur
- heb lygaid coch, cysgodion ar yr wyneb, nac adlewyrchiadau
- heb ei ddifrodi
Os gwnewch gais ar-lein, mae’n rhaid i’r ffoto fod:
- o leiaf 750 picsel o uchder a 600 picsel o led
- mewn ffeil electronig nad yw'n fwy na 20MB o faint
Os ydych yn gwneud cais gan ddefnyddio ffurflen bapur, mae’n rhaid i’r ffoto:
- o leiaf 45 milimetr o uchder a 35 milimetr o led
- yn ddim mwy na 297 milimetr o uchder na 210 milimetr o led.
Prosesu eich cais
Bydd eich cyngor lleol yn prosesu’ch cais. Byddant yn anfon Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr atoch drwy’r post.
Byddant hefyd yn anfon cyfarwyddiadau atoch ar sut i ddefnyddio’ch tystysgrif.
Nid oes gan Dystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr ddyddiad dod i ben. Argymhellir eich bod yn adnewyddu eich tystysgrif ar ôl 10 mlynedd.
Bydd yr holl ddata a ddarparwch wrth wneud cais am dystysgrif yn cael eu storio’n ddiogel gan eich cyngor lleol, yn unol â rheoliadau diogelu data.
Os oes angen help arnoch wrth wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu os ydych am ofyn am ffurflen gais, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ffoniwch ein llinell gymorth ar 0800 328 0280.
Dangos ID fel etholwr dienw
Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw ac am bleidleisio’n bersonol, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw.
Dysgwch ragor am gofrestru i bleidleisio yn ddienw a sut i bleidleisio yn ddienw.