Introduction

Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.

ID Pleidleisiwr

Mae angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos  ID ffotograffig i bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio.

Mae hyn yn berthnasol i:

  • Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
  • Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Os ydych yn etholwr dienw ac am bleidleisio’n bersonol yn un o’r etholiadau hyn, bydd angen i chi wneud cais am Ddogfen Etholwr Dienw cyn y diwrnod pleidleisio.

Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.

Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr.

Introduction

Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw gallwch ddewis p’un a ydych am bleidleisio’n bersonol, drwy’r post neu drwy ddirprwy (pan fyddwch yn penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan). 

Pleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy

Os ydych eisiau pleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy, dylech nodi hyn ar eich ffurflen wrth wneud cais i gofrestru i bleidleisio’n ddienw. Anfonir y ffurflenni perthnasol atoch fel y gallwch wneud cais i bleidleisio drwy’r post neu drwy ddirprwy. Fel arall, gallwch ddarllen am gofrestru i bleidleisio drwy’r post a chofrestru i bleidleisio drwy ddirprwy a lawrlwytho’r ffurflenni cais ar ein gwefan.

Pleidleisio'n bersonol

Os ydych wedi’ch cofrestru i bleidleisio’n ddienw er eich diogelwch, mae pleidleisio’n bersonol ychydig yn wahanol i bleidleiswyr sydd ag enw a chyfeiriad ar y gofrestr etholiadol.

Bydd bob pleidleisiwr cofrestredig yn cael cerdyn pleidleisio drwy’r post ychydig o wythnosau cyn y diwrnod pleidleisio.

Bydd angen i chi fynd â’ch cerdyn gyda chi i’r orsaf bleidleisio pan fyddwch yn pleidleisio.

Bydd eich cerdyn pleidleisio dim ond yn cynnwys eich rhif etholwr, ac nid eich enw a’ch cyfeiriad.

Bydd staff yr orsaf bleidleisio (neu’r clerc pleidleisio) yn gallu dod o hyd i’ch rhif etholwr ar ddiwedd y gofrestr etholiadol, o dan ‘etholwyr eraill’.

Does dim angen i chi roi’ch enw a’ch cyfeiriad i bleidleisio, a ni ddylai’r clerc pleidleisio ofyn amdanynt. Bydd staff yr orsaf bleidleisio’n darllen allan eich rhif etholwr pan fyddwch yn dangos eich cerdyn pleidleisio iddynt.

Os byddwch yn anghofio mynd â’ch cerdyn pleidleisio gyda chi i’r orsaf bleidleisio, bydd angen i chi ddychwelyd gyda’ch cerdyn yn hwyrach.

Os ydych wedi colli’ch cerdyn pleidleisio neu heb ei gael, bydd angen i chi gysylltu â’r Swyddog Canlyniadau neu’r Tîm Gwasanaethau Etholiadol yn eich cyngor lleol i ofyn am un arall.

Byddwch dim ond yn gallu pleidleisio os bydd y cerdyn arall yn cael ei ddosbarthu mewn pryd, a’ch bod yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio gydag ef cyn i’r orsaf bleidleisio gau am 10pm.

Dysgwch ragor am gofrestru i bleidleisio’n ddienw, neu cysylltwch â’ch cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.

Eich Dogfen Etholwr Dienw

Os ydych yn pleidleisio’n bersonol mewn etholiad lle mae angen ID ffotograffig, bydd angen i chi ddod â’ch Dogfen Etholwr Dienw gyda chi i’r orsaf bleidleisio.

Bydd staff yn yr orsaf bleidleisio yn gwirio hyn ar ôl iddynt ddod o hyd i’ch rhif etholwr ar y gofrestr etholiadol. 

Bydd ardal breifat ar gael mewn gorsafoedd er mwyn i chi allu dewis gweld eich Dogfen Etholwr Dienw yn breifat. Gall hon fod yn ystafell ar wahân, neu’n ardal sydd wedi’i gwahanu gan sgrin preifatrwydd, yn dibynnu ar yr orsaf bleidleisio.

Dysgwch ragor am gofrestru i bleidleisio yn ddienw, neu cysylltwch â’ch cyngor os oes gennych unrhyw gwestiynau.