Y broses i’w dilyn er mwyn herio AS presennol: adolygiad o ddeisebau adalw 2019

Crynodeb

Cynhaliwyd dwy ddeiseb yn ystod 2019 i adalw ASau etholaethau Peterborough a Brycheiniog a Sir Faesyfed. 

Cyflawnodd y ddau Swyddog Deisebau eu dyletswyddau fel sy'n ofynnol yn ôl Deddf Adalw 2015, gan ddarparu gwasanaeth o safon uchel. Ni fu unrhyw broblemau sylweddol a effeithiodd ar bobl a oedd yn gymwys i lofnodi neu'n dymuno ymgyrchu. 

Dim ond un ddeiseb adalw a gynhaliwyd o'r blaen, yn etholaeth Gogledd Antrim yn 2018. Mae ein profiadau o'r tair deiseb adalw hyn wedi rhoi tystiolaeth werthfawr i ni am y ffordd y mae'r rheolau deisebau presennol yn gweithio'n ymarferol, a hynny mewn gwahanol: 

  • rannau o'r DU
  • mathau o etholaethau 
  • cyd-destunau gwleidyddol. 

Mewn rhai ardaloedd, mae cymhwyso rheolau etholiadol at broses nad yw'n etholiad wedi arwain at heriau gweinyddol a phroblemau'n ymwneud â thryloywder a chyfrinachedd, ac rydym wedi argymell y dylid gwneud newidiadau i'r rheolau a'r prosesau ar gyfer cynnal deisebau adalw yn y dyfodol. 

Ein hargymhellion

Argymhellion ar gyfer Llywodraeth y DU

Dylai Llywodraeth y DU adolygu'r polisi a'r ddeddfwriaeth ar gyfer deisebau adalw er mwyn nodi newidiadau a fyddai'n gwella profiad etholwyr a'r broses weinyddol ar gyfer deisebau yn y dyfodol. Dylai'r Llywodraeth wneud y canlynol: 

  • Nodi'r hyd priodol ar gyfer cyfnod deiseb byrrach sy’n para llai na chwe wythnos. Dylai hyn ddechrau drwy ystyried a fyddai cyfnod o bedair wythnos yn ddigonol. 
  • Adolygu'r cwmpas o ran pwy all arsylwi ar y broses mewn mannau llofnodi er mwyn gwella tryloywder a'r gallu i graffu, gan sicrhau y cynhelir cyfrinachedd y bobl sy'n llofnodi'r ddeiseb ar yr un pryd.
  • Adolygu rheoliadau deisebau adalw ar gyfer Gogledd Iwerddon er mwyn sicrhau bod modd archwilio'r gofrestr a farciwyd yn briodol os oes pryderon am dwyll mewn deisebau adalw yn y dyfodol.
  • Ystyried a ddylid rhoi cyfle i etholwyr cymwys gwblhau taflen gyfatebol i'r daflen lofnodi i ddangos eu bod yn gwrthwynebu’r ddeiseb.  
  • Nodi'n gliriach pryd y dylai'r mannau llofnodi gau ar ddiwrnod olaf cyfnod y ddeiseb a'r terfyn amser ar gyfer derbyn papurau llofnodi drwy'r post, a phryd a sut y dylid hysbysu’r Llefarydd am ganlyniad y ddeiseb.  
  • Parhau i adolygu rheolau ar roddion a gwariant gan ymgyrchwyr wrth i fwy o brofiad gael ei ennill mewn deisebau adalw yn y dyfodol, er mwyn sicrhau y caiff gwariant ymgyrchwyr ei oruchwylio a’i reoleiddio’n briodol. 

Argymhellion i Swyddogion Deisebau a Swyddogion Canlyniadau

Hefyd, rydym yn argymell y dylai Swyddogion Deisebau a Swyddogion Canlyniadau adolygu eu cynlluniau ar gyfer cynnal deisebau adalw yn y dyfodol fel a ganlyn: 

  • Dylai Swyddogion Deisebau ar gyfer deisebau adalw yn y dyfodol sicrhau eu bod yn cynnig rhywfaint o oriau estynedig i bobl lofnodi'r ddeiseb, y tu hwnt i'r oriau gofynnol o 9am tan 5pm.
  • Dylai Swyddogion Canlyniadau adolygu eu cynlluniau wrth gefn er mwyn cynnwys trefniadau ar gyfer cyflawni unrhyw ddeisebau adalw a allai gael eu cynnal yn eu hetholaethau, yn arbennig er mwyn nodi lleoliadau posibl ar gyfer mannau llofnodi. 

Llofnodi'r deisebau adalw

Yn Peterborough ac ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed, roedd mwy na 10% o'r bobl a oedd yn gymwys i lofnodi'r ddeiseb adalw wedi gwneud hynny erbyn diwedd y cyfnod llofnodi chwe wythnos. Roedd hyn yn golygu y byddai'r ASau presennol yn cael eu hadalw ac y byddai is-etholiad yn cael ei gynnal i lenwi'r sedd wag ym mhob etholaeth.

Siart 1: Canran y bobl gymwys a lofnododd y deisebau adalw ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed ac yn Peterborough

Hyd y cyfnod llofnodi

Tryloywder a chyfrinachedd

Mae'n bwysig sicrhau bod pobl sydd â hawl i lofnodi deiseb adalw yn teimlo eu bod yn rhydd i fynegi eu barn, ac yn hyderus bod prosesau'r ddeiseb yn cael eu cynnal yn dda a bod modd ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll.

Mae cyfyngiadau ar dryloywder a chyfrinachedd yn fwy arwyddocaol ar gyfer deiseb adalw, o gymharu ag etholiad, am ei bod yn amlwg beth yw safiad rhywun sy'n llofnodi deiseb:  mae wedi gwneud penderfyniad gweithredol o blaid y penderfyniad i adalw'r Aelod Seneddol presennol. Mewn gwrthgyferbyniad, dim ond dangos bod papur pleidleisio wedi'i roi i etholwr unigol y mae arsylwi ar orsaf bleidleisio neu archwilio'r gofrestr a farciwyd, ac nid yw'n dangos ei fod wedi bwrw ei bleidlais dros ymgeisydd neu blaid benodol.

Mae rhai elfennau o'r broses ddeisebu, a drafodir isod, y gellir eu hegluro ar gyfer Swyddogion Deisebau, etholwyr, a'r cyhoedd yn ehangach er mwyn sicrhau bod y lefelau priodol o gyfrinachedd a thryloywder ar waith. Dylai Llywodraeth y DU adolygu'r gyfraith yn yr elfennau hyn.

Gallai’r Llywodraeth hefyd ystyried a ddylid rhoi cyfle i bob etholwr gwblhau taflen gyfatebol i'r daflen lofnodi i ddangos ei fod yn gwrthwynebu’r ddeiseb. Gallai hyn leihau’r risg o beryglu cyfrinachedd unigolion, yn enwedig pe bai mynediad at arsylwadau annibynnol ar y broses mewn mannau llofnodi yn cael ei ymestyn.

Tryloywder a chyfrinachedd

Cynnal y ddeiseb adalw

Yn y ddwy etholaeth, cafodd y deisebau adalw eu cynnal yn dda. Dywedodd y rhan fwyaf o'r bobl yn Peterborough eu bod yn hyderus bod y ddeiseb wedi cael ei chynnal yn dda (87%), gyda bron pawb a lofnododd y ddeiseb yn dweud eu bod yn hyderus (96%).

Fodd bynnag, roedd y ddau Swyddog Deisebau wedi wynebu heriau ymarferol wrth gynnal y deisebau yn eu hetholaethau. Cafodd y rhain eu dwysau, yn y meysydd a amlinellir isod, gan ddiffyg eglurder ynghylch rhai rhannau o'r ddeddfwriaeth, y ffaith bod yn rhaid i'r Swyddogion Deisebau gyflawni dyletswyddau newydd, ac anawsterau wrth i'r Swyddogion Deisebau orfod defnyddio meddalwedd rheoli etholiadol i gynnal deiseb, nad yw'r un peth ag etholiad.  Roedd Swyddogion Deisebau hefyd yn gwynebu cynllunio a gweithredu digwyddiadau etholiadol eraill a oedd yn effeithio ar ddarparu adnoddua ar gyfer deisebau. 

Cynnal y ddeiseb adalw

Cefndir

Diweddarwyd ddiwethaf: 10 October 2019
Next review: 29 September 2020