Report: Pleidleisio yn 2017
Summary
Un o feysydd craidd gwaith y Comisiwn Etholiadol yw gwella hyder y cyhoedd yn y broses ddemocrataidd. Er mwyn deall agweddau'r cyhoedd, yn dilyn pob set o etholiadau rydym yn cynnal arolwg o sampl sy'n cynrychioli pobl y wlad yn yr ardaloedd hynny lle y cynhaliwyd etholiadau. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi ac yn dadansoddi canlyniadau arolygon ar ôl etholiad a gynhaliwyd yn 2017 ac mae'n rhoi trosolwg o agweddau'r cyhoedd at etholiadau a phleidleisio.
Canfyddiadau allweddol
Yn ystod etholiadau 2017, gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd o gymharu â'r etholiad cyfatebol diwethaf – etholiadau Cynulliad Gogledd
Iwerddon ac etholiadau cynghorau'r Alban yn bennaf. Hefyd, ymddengys bod lefel yr ymgysylltiad ymysg grwpiau oedran iau yn etholiad cyffredinol y DU wedi gwella ers 2015 – dengys ein hymchwil y gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd ynghyd â chynnydd yn lefel yr ymwybyddiaeth ymysg pobl ifanc o'r etholiad ei hun ac o'r pleidiau a'r ymgeiswyr a oedd yn sefyll yn yr etholiad.
Er hyn, gwnaethom ganfod tystiolaeth gref o ddiffyg ymgysylltiad parhaus, yn enwedig ymysg pobl ifanc, gyda'r etholiadau lleol. Er y gwelwyd cynnydd yn y nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau hyn, roedd yn gymharol isel o hyd. Gwnaethom holi pobl yn Lloegr lle y cynhaliwyd etholiadau llywodraeth leol p'un a oeddent o'r farn eu bod wedi cael digon o wybodaeth i wneud dewis hyddysg ynghylch pwy i bleidleisio drosto – anghytunodd un rhan o dair o'r holl ymatebwyr, yn cynnwys bron hanner y bobl 18-34 oed. Rhaid gwneud mwy er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn gallu cael gafael ar wybodaeth am yr etholiadau hyn a phwy y gallant bleidleisio drostynt, a'u bod yn manteisio ar hynny.
Yn gadarnhaol, rydym wedi canfod eto bod y rhan fwyaf o bobl o'r farn bod etholiadau yn y DU yn cael eu cynnal yn effeithiol – gyda hyd yn oed mwy
o hyder ymysg y sawl sy'n pleidleisio – a bod y mwyafrif helaeth o bleidleiswyr yn fodlon ar y broses o fwrw eu pleidlais. Fodd bynnag, ni ddylid llaesu dwylo yn y maes hwn ac amlygodd ein hymchwil ym mha feysydd lle rydym o'r farn y mae angen gwneud rhagor o waith.
Er bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon ar y system o gofrestru i bleidleisio ceir cefnogaeth i welliant, gyda dwy ran o dair yn cefnogi'r syniad y dylai
etholwyr gofrestru'n awtomatig pan gânt rif Yswiriant Gwladol. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein hasesiad o'r system gofrestru etholiadol gan amlygu sawl maes i'w gwella.
Yn olaf, mae'r canfyddiad o dwyll etholiadol yn broblem mewn etholiadau yn y DU o hyd. Er bod y mwyafrif helaeth o'r farn bod pleidleisio'n broses
ddiogel ar y cyfan, mae lefel o bryder, er ei bod yn seiliedig ar y sylw a roddir yn y cyfryngau yn fwy nag ar brofiad uniongyrchol. Gwnaethom nodi ein
hargymhelliad ar gyfer cyflwyno gofyniad i bleidleiswyr mewn gorsafoedd pleidleisio ym Mhrydain Fawr ddangos dogfen adnabod mewn gorsafoedd
pleidleisio ym Mhrydain Fawr, gan adlewyrchu'r hyn sydd eisoes yn digwydd yng Ngogledd Iwerddon. Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth y DU
gynlluniau i dreialu'r gofyniad i bleidleiswyr ddangos dogfen adnabod mewn nifer o etholiadau lleol ym mis Mai 2018, a bydd y Comisiwn yn cynnal ac yn cyhoeddi gwerthusiad llawn, annibynnol o'r treialon hyn erbyn haf 2018.