
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Gofyniad ID Pleidleisiwr
O 4 Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.
Mae hyn yn berthnasol i:
- Etholiadau seneddol y DU, gan gynnwys etholiadau cyffredinol, is-etholiadau a deisebau adalw
- Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu
Dysgwch ragor am fathau o ID ffotograffig a dderbynnir, sut i wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a’r hyn i’w ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.
Ni fydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd neu mewn etholiadau cynghorau lleol.
Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr
Dim ID gyda chi? Gwnewch gais am ID pleidleisiwr am ddim nawr
Os nad oes gennych ID ffotograffig a dderbynnir, gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr sy'n rhad ac am ddim. Fe'i gelwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.
Pleidleisio a dod ag ID
Supporting others
Cynorthwyo pobl i fodloni’r gofyniad o ran ID pleidleisiwr
Rydym yn gwybod bod rhai grwpiau yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau a grëir gan y gofyniad hwn am ID pleidleisiwr ac efallai y bydd arnynt angen cymorth i gael ID ffotograffig.
Gall sefydliadau sy’n gweithio’n uniongyrchol gyda phleidleiswyr, gan gynnwys awdurdodau lleol ac elusennau, helpu pleidleiswyr i sicrhau fod ganddynt ID ffotograffig cyn unrhyw etholiad lle mae’r gofyniad hwn yn gymwys.
Rydym wedi cynhyrchu set generig o adnoddau i’w defnyddio yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Bydd yr adnoddau hyn yn helpu sefydliadau i godi ymwybyddiaeth ac yn cynorthwyo pleidleiswyr gyda gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os bydd angen. Mae’r pecyn hwn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am gofrestru pleidleiswyr, yn ogystal â gwybodaeth sydd wedi’i theilwra at anghenion grwpiau penodol.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi adnoddau pwrpasol i gynorthwyo pleidleiswyr sydd wedi’u cofrestru i bleidleisio’n ddienw, neu a allai elwa o wneud hynny.
Archwiliwch ein hadnoddau am bartneriaid, elusennau a sefydliadau cymdeithas sifi