Pleidleisio drwy ddirprwy

Eich lleoliad:
This page
Please note that this page is only relevant to voters living in Wales.
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru
Sicrhewch eich bod wedi cofrestru
I bleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio.
Darganfyddwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut mae gwneud cais
Gofyn i berson rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan
Os ydych yn gwybod na fyddwch yn gallu cyrraedd yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gallwch ofyn i rywun rydych yn ymddiried ynddynt bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy ac yn aml cyfeirir at y person sy'n bwrw eich pleidlais fel dirprwy.
Gall y person sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gallant wneud cais i bleidleisio ar eich rhan trwy'r post.
Pleidlais bost drwy ddirprwy
Pleidlais bost drwy ddirprwy
Os na all eich dirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Caiff hyn ei alw’n bleidlais bost drwy ddirprwy.
Fel arfer, y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost drwy ddirprwy yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais.
Bydd angen iddynt gysylltu â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol am ragor o fanylion ac er mwyn gofyn am ffurflen gais bellach.
Lawrlwythwch y ffurflen gais
I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, bydd rhaid i chi lenwi ffurflen a nodi pam na allwch fynd i’ch gorsaf bleidleisio yn bersonol.
Gall hyn fod oherwydd y byddwch ar wyliau, neu am fod cyflwr ffisegol arnoch sy’n golygu na allwch fynd i’ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Bydd angen i chi gwblhau cais newydd am bleidlais drwy ddirprwy os ydych wedi symud tŷ.
Pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol
Defnyddiwch y ffurflen hon i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiad penodol. Gallai hyn fod oherwydd eich bod ar wyliau neu i ffwrdd gyda’ch gwaith ar y diwrnod pleidleisio.
Pleidlais drwy ddirprwy hir-dymor neu barhaol
Defnyddiwch un o’r ffurflenni hyn os na fyddwch yn gallu mynd i’r orsaf bleidleisio hyd y gallwch ragweld, neu am gyfnod hir.
Mae’r ffurflen sydd angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar eich rheswm dros bleidlais drwy ddirprwy.
Help gyda’r ffurflen hon
Help gyda’r ffurflen hon
Os na allwch argraffu’r ffurflen gais, neu os bydd ei hangen arnoch mewn fformat hygyrch, cysylltwch â’r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol am help.
Llenwi eich ffurflen
Mae’r ffurflen gais yn cynnwys cyfarwyddiadau ynghylch sut i’w llenwi’n gywir.
Bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar eich ffurflen gais.
Ble dylech anfon eich ffurflen ar ôl ei chwblhau
Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen a sicrhau eich bod wedi ei llofnodi, bydd angen i chi ei hanfon at y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol.
Gallwch anfon eich ffurflen trwy'r post. Efallai y bydd y tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol hefyd yn fodlon derbyn copi o’r ffurflen wedi ei sganio trwy e-bost, ond dylech wirio gyda nhw yn gyntaf.
Darganfyddwch i ble y mae angen i chi anfon eich ffurflen
Rhowch eich cod post i ddarganfod cyfeiriad eich tîm gwasanaethau etholiadol lleol
Gwirio a oes gennych bleidlais drwy ddirprwy yn barod
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais drwy ddirprwy yn barod, cysylltwch â’r tîm etholiadol lleol yn eich cyngor lleol.
Pleidlais drwy ddirprwy brys
Mewn rhai amgylchiadau, lle bo argyfwng sy’n golygu na allwch bleidleisio’n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy brys.
Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn y dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy arferol.
- Rydych wedi cael argyfwng meddygol (PDF)
- Byddwch i ffwrdd gyda gwaith (PDF)
- Os na allwch bleidleisio'n bersonol oherwydd COVID-19 (PDF). Gellir defnyddio'r ffurflen hon hefyd i newid dirprwy cyfredol os na allant bleidleisio’n bersonol ar eich rhan oherwydd COVID-19.
Gellir cyflwyno’r ceisiadau hyn hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Sut i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy
Os ydych wedi dewis dirprwy ond yna’n newid eich meddwl ac am bleidleisio eich hunan, mae gennych sawl opsiwn.
Un opsiwn yw gwneud cais i ganslo eich pleidlais drwy ddirprwy.
- Yng Nghymru a Lloegr, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
- Yn yr Alban, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol.
Y dyddiad cau i ganslo pleidlais drwy ddirprwy yng Nghymru, yr Alban a Lloegr yw cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Os oes pleidlais bost drwy ddirprwy eisoes wedi’i dychwelyd, ni ellir canslo’r trefniadau pleidleisio drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Opsiwn arall i chi yw pleidleisio’n bersonol. Gallwch wneud hyn cyn belled â’ch bod yn pleidleisio cyn eich dirprwy. Nid yw hyn yn opsiwn os yw eich dirprwy eisoes wedi pleidleisio drwy’r post ar eich rhan.
Fel arall gallwch wneud cais am bleidlais bost. Y dyddiad cau i wneud hyn yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad y byddwch yn pleidleisio ynddo. Bydd y cais hwn i bleidleisio drwy’r post yn disodli’r cais i bleidleisio drwy ddirprwy.
Eich lleoliad: