Pleidleisio drwy ddirprwy

Make sure you're registered
Gwnewch yn siŵr eich bod wedi cofrestru
Er mwyn pleidleisio mewn unrhyw etholiad yn y DU, mae'n rhaid eich bod wedi cofrestru i bleidleisio.
Dysgwch a ydych yn gymwys i gofrestru a sut i wneud cais
Gofyn i berson dibynadwy bleidleisio ar eich rhan
Os nad ydych yn gallu bwrw eich pleidlais yn bersonol, gallwch benodi rhywun yr ydych yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eich rhan. Gelwir hyn yn bleidlais drwy ddirprwy, ac yn aml cyfeirir at y sawl sy'n bwrw eich pleidlais fel eich dirprwy.
Gall y sawl sy'n pleidleisio ar eich rhan naill ai fynd i'ch gorsaf bleidleisio i fwrw eich pleidlais, neu gall wneud cais i bleidleisio ar eich rhan drwy'r post.
Gwybodaeth ambleidlais bost drwy ddirprwy
Os na all eich dirprwy fynd i'r orsaf bleidleisio, gallant wneud cais i bleidleisio drwy'r post. Mae hyn yn cael ei alw yn bleidlais bost drwy ddirprwy. Gallant wneud hyn hyd at 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Bydd rhaid iddynt gysylltu â'r tîm gwasanaethau etholiadol yn eich cyngor lleol i gael rhagor o fanylion ac i ofyn am ffurflen gais bellach.
Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Er mwyn gwneud cais i bleidleisio drwy ddirprwy, mae'n rhaid i chi lenwi ffurflen a rhoi rheswm pan na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol.
Efallai eich bod wedi trefnu i fynd i ffwrdd ar wyliau, neu fod gennych gyflwr corfforol sy'n golygu na allwch fynd i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Bydd p'un a gaiff eich rheswm ei dderbyn ai peidio yn dibynnu ar y canlynol:
- y math o bleidlais drwy ddirprwy rydych yn gwneud cais amdani
- pryd rydych yn gwneud cais
- ble yn y DU rydych wedi cofrestru i bleidleisio
England, Scotland and Wales
Efallai eich bod yn gwybod y byddwch ar wyliau, neu i ffwrdd gyda gwaith ar ddiwrnod pleidleisio penodol. Dim ond ar gyfer yr etholiad penodol hwnnw rydych i gael pleidlais drwy ddirprwy, ac nid ar sail hirdymor.
Dim ond un ffurflen a geir ar gyfer y math hwn o bleidlais drwy ddirprwy.
Mae'n rhaid i'r ceisiadau hyn gael eu gwneud cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, sef 5pm, 6 diwrnod cyn etholiad fel arfer.
Os na allwch fynd i orsaf bleidleisio yn y dyfodol agos hyd y gallwch ragweld, neu os na allwch fynd am gyfnod hir.
Mae'r rheswm pam mae angen pleidlais drwy ddirprwy arnoch yn pennu pa ffurflen y dylech ei llenwi.
- Mae gennych anabledd (PDF)
- Byddwch i ffwrdd ar gwrs addysg (PDF)
- Byddwch i ffwrdd gyda gwaith (PDF)
- Rydych wedi cofrestru fel pleidleisiwr tramor (PDF)
- Rydych yn gweithio dramor i'r Cyngor Prydeinig neu fel un o Weision y Goron (PDF)
- Rydych yn gwasanaethu dramor yn y Lluoedd Arfog (PDF)
Mae'n rhaid i'r ceisiadau hyn gael eu gwneud cyn y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, sef 5pm, 6 diwrnod cyn etholiad fel arfer.
O dan amgylchiadau penodol, pan fydd argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn y dyddiad cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy arferol.
Mae'r rheswm pam y mae angen pleidlais drwy ddirprwy arnoch yn pennu pa ffurflen y dylech ei llenwi.
- Mae gennych anabledd (PDF)
- Byddwch i ffwrdd gyda gwaith (PDF)
- Cais am bleidlais argyfwng drwy ddirprwy mewn is-etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru yn seiliedig ar COVID-19 (PDF)
Gellir gwneud y ceisiadau hyn hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.
Dychwelyd eich ffurflen yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Ar ôl i chi gwblhau eich ffurflen a sicrhau eich bod wedi'i llofnodi, mae angen i chi ei dychwelyd i'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais drwy ddirprwy yn barod, cysylltwch â'ch swyddfa gofrestru etholiadol leol i gael gwybod.
Dod o hyd i'ch swyddfa cofrestru etholiadol
Dewch o hyd i fanylion cyswllt eich swyddfa cofrestru etholiadol leol er mwyn dychwelyd eich ffurflen
print form
Os na allwch argraffu'r ffurflen gais neu os oes angen i chi ei chael mewn fformat hygyrch, cysylltwch â'ch swyddfa cofrestru etholiadol leol am gymorth.
Gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yng Ngogledd Iwerddon
Os ydych wedi cofrestru i bleidleisio yng Ngogledd Iwerddon, mae'n rhaid i chi roi rheswm dilys pam na allwch fynd i'r orsaf bleidleisio'n bersonol.
Gallai hyn fod oherwydd:
- salwch
- anabledd
- gwyliau
- trefniadau gwaith
O dan amgylchiadau penodol, gallwch hefyd wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy benagored. Gallwch wneud hyn ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn.
Lawrlwythwch y ffurflen pleidlais absennol a dewch o hyd i ragor o wybodaeth gan Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon.
Os gwnaethoch gofrestru i bleidleision ar-lein, bydd angen i chi ddarparu eich Rhif Cofrestru Digidol (DRN) ar eich cais am bleidlais drwy ddirprwy.
Os nad ydych yn siŵr a oes gennych bleidlais drwy ddirprwy yn barod, cysylltwch â Swyddfa Etholiadol Gogledd Iwerddon a fydd yn gallu rhoi gwybod i chi.
Pwy all fod yn ddirprwy i chi
Gall rhywun fod yn ddirprwy i chi os yw:
- yn 18 oed neu'n hŷn (yn yr Alban, gall fod yn 16 oed neu'n hŷn a bwrw eich pleidlais yn etholiadau Senedd yr Alban ac etholiadau llywodraeth leol)
- wedi cofrestru i bleidleisio
- yn gallu mynd i'ch gorsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
- yn gymwys i bleidleisio yn yr etholiad neu'r refferendwm
Nid oes rhaid i'ch dirprwy fod yn perthyn i chi. Fodd bynnag, os nad yw'n berthynas agos, dim ond i ddau berson ar y mwyaf y gall fod yn ddirprwy.
Yr hyn y mae angen i'r dirprwy a benodir gennych ei wneud ar y diwrnod pleidleisio
Mae'n rhaid i'r unigolyn a benodir gennych fel eich dirprwy fynd i'ch gorsaf bleidleisio leol i fwrw eich pleidlais.
Bydd yn derbyn cerdyn pleidleisio dirprwy a fydd yn dweud wrtho ble a phryd i fwrw eich pleidlais ar eich rhan.
Os na fydd yn derbyn cerdyn pleidleisio dirprwy, dylai ofyn i glerc eich swyddfa cofrestru etholiadol leol. Bydd y clerc yn gallu dweud wrtho ble i fynd i bleidleisio.
Gallwch bleidleisio'n bersonol hyd yn oed os oes gennych bleidlais drwy ddirprwy, ar yr amod eich bod yn gwneud hynny cyn i'ch dirprwy bleidleisio ar eich rhan.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Y dyddiad cau i gofrestru am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer yr etholiadau ar 6 Mai yw 5pm dydd Mawrth 27 Ebrill. Rhaid i chi hefyd fod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn canol nos dydd Llun 19 Ebrill.