Scottish Parliamentary election 2026: Party spending
Ymchwil i'r farchnad neu ganfasio
Gwasanaethau, safleoedd, cyfleusterau neu gyfarpar a ddarperir gan eraill
Mae hyn yn cynnwys cost defnyddio neu logi unrhyw:
- asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- gwasanaethau a ddarperir gan asiantaeth, unigolyn neu sefydliad
- safle neu gyfleusterau
- cyfarpar
a ddefnyddir i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
eg1
Er enghraifft, cost defnyddio banciau ffôn i gysylltu â phleidleiswyr, gan gynnwys datblygu sgriptiau i gyflogeion banciau ffôn eu defnyddio y bwriedir iddynt ddylanwadu ar bleidleiswyr.
Market research 2
Costau cael neu gynnal data
Mae hyn yn cynnwys cost cyrchu, prynu, datblygu neu gynnal:
- meddalwedd TG neu gronfeydd data o fanylion cyswllt
- setiau data, gan gynnwys defnyddio dadansoddeg data
i hwyluso neu gynnal ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio.
eg2
Er enghraifft, mae'n cynnwys cost ymgymryd â gweithgarwch gwrando ar y cyfryngau cymdeithasol a dadansoddi'r canlyniad er mwyn canfod bwriad pleidleiswyr. Mae'n cynnwys costau yr aed iddynt cyn y cyfnod a reoleiddir lle mae'r data yn cael eu defnyddio wedyn yn ystod y cyfnod a reoleiddir.
Market research 3
Costau eraill sydd wedi'u cynnwys
Mae'n cynnwys cost prynu a defnyddio unrhyw gyfarpar sydd ei angen i:
- baratoi, cynhyrchu neu hwyluso gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cynnal neu gydlynu gweithgarwch canfasio neu ymchwil i'r farchnad
- cofnodi neu ddadansoddi canlyniadau unrhyw ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio, neu eu defnyddio mewn ffordd arall
Er enghraifft:
- gliniaduron neu lechi os cânt eu defnyddio ar gyfer canfasio
- ap canfasio
- ffonau symudol os cânt eu defnyddio gan arweinydd/cydlynydd y gweithgarwch canfasio
lle mae'r blaid neu drydydd parti yn talu neu'n ad-dalu'r costau am y cyfarpar hwnnw a/neu gostau cysylltiedig.
Mae'n cynnwys cyfran berthnasol o gostau:
- swyddfa
- ardrethi busnes
- trydan
- rhentu ffonau a mynediad i'r rhyngrwyd
sy'n gysylltiedig ag ymchwil i'r farchnad neu weithgarwch canfasio.
Mae'n cynnwys cost bwyd a/neu lety i unrhyw unigolyn sy'n darparu gwasanaethau mewn cysylltiad â'r ymchwil i'r farchnad neu ganfasio i'r blaid, lle mae'r blaid yn talu neu'n ad-dalu'r gost honno.