Data 2022 ar dwyll etholiadol
Summary
Mae lefelau twyll etholiadol profedig yn y DU yn isel. Nid oes tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2022. Yn y rhan fwyaf o achosion (93%), ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach, neu cawsant eu datrys yn lleol drwy gyngor a roddwyd.
Etholiadau 2022
Ym mis Mai 2022, cynhaliwyd etholiadau yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban a Gogledd Iwerddon:
- Cynulliad Gogledd Iwerddon
- Cynghorau lleol (Cymru, Lloegr a'r Alban)
- Meiri lleol (Lloegr)
- Etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfun (Lloegr)
Cynhaliwyd hefyd 6 is-etholiad Senedd y DU yn ystod 2022.
Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i gyfanswm o 193 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ystod 2022. Rhoddodd yr heddlu un rhybudd mewn perthynas ag achos o dwyll etholiadol honedig yn 2022. Roedd dwy euogfarn ac mae trafodion llys wedi’u dechrau mewn perthynas ag un achos arall.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni ar gyfer etholiadau a gynhaliwyd yn 2022.
Etholiad | Nifer o achosion |
---|---|
Etholiad lleol | 179 |
Nad yw’n benodol i etholiad (e.e. cofrestru treigl) | 8 |
Is-etholiad lleol | 2 |
Cynulliad Gogledd Iwerddon | 1 |
Maerol lleol | 1 |
Plwyf lleol | 1 |
Refferendwm lleol | 1 |
Arall | 1 |
Achosion lle cafwyd y sawl a ddrwgdybir yn euog
Euogfarn am bleidleisio fwy nag unwaith yn yr un ardal etholiadol
Derbyniodd Heddlu Llundain adroddiad gan Dîm Gwasanaethau Etholiadol Cyngor Barnet bod dyn wedi pleidleisio o dri chyfeiriad gwahanol ym Mwrdeistref Barnet yn Llundain yn etholiadau lleol 2022. Ar 9 Awst 2023, safodd ei brawf yn y Llys Ynadon lle plediodd yn euog i ddwy drosedd o bleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol fwy nag unwaith yn yr un etholaeth neu ardal etholiadol. Rhoddodd y llys ddirwy o £3,177.60 iddo.
Euogfarn am gyhoeddi datganiad ffeithiol anwir am gymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd ac am fethu â chynnwys argraffnod ar daflen
Derbyniodd Heddlu Llundain adroddiad gan ymgeisydd annibynnol yn yr etholiadau lleol yn Bromley yn 2022. Dywedodd yr ymgeisydd wrth yr heddlu fod posteri casineb amdani wedi eu dosbarthu yn ei hardal leol. Darparodd cefnogwr yr ymgeisydd hefyd fanylion cerbyd y dywedir ei fod yn rhan o ddosbarthu'r taflenni. Arweiniodd hyn yr heddlu at y sawl a ddrwgdybir a gyfaddefodd i greu a dosbarthu'r taflenni mewn cyfweliad dan rybudd.
Plediodd yn euog i gyhoeddi datganiad ffeithiol ffug am gymeriad personol neu ymddygiad yr ymgeisydd ac am fethu â chynnwys argraffnod ar y taflenni yn nodi ei hun fel yr argraffydd/cyhoeddwr. Ar 5 Mehefin 2023, cafodd:
• Ddirwy o £800 (£400 am bob trosedd)
• Gordal o £80, a
• Gorchmynnwyd iddo dalu £1,825 mewn costau
Achosion lle gwnaeth y sawl dan amheuaeth dderbyn rhybudd gan yr heddlu
Etholiad lleol Durham
Roedd y sawl dan amheuaeth am sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad lleol. Gwnaed honiad ei bod wedi ffugio llofnod ar ffurflen enwebu. Siaradodd yr heddlu gyda’r dyn yr oedd ei lofnod, yn ôl yr honiad, wedi’i ffugio. Gwnaeth gadarnhau nad oedd wedi llofnodi’r ffurflen. Gwnaeth y sawl dan amheuaeth gyfaddef ei bod wedi ffugio ei lofnod ond ei bod o’r farn y byddai wedi’i chefnogi. Derbyniodd rybudd gan yr heddlu am y drosedd.
Canlyniadau pob achos a adroddwyd
Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda thua dau ym mhob tri (61%) achos. Mae hyn yn golygu na ymchwiliwyd ymhellach i’r achosion gan yr heddlu am nad oedd tystiolaeth, neu nad oedd digon o dystiolaeth, neu na chafwyd bod trosedd.
Mae’r tabl a’r siart yn dangos nifer yr achosion a adroddwyd i’r heddlu yn 2022, a’u canlyniadau.
Canlyniad | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Dim camau pellach | 121 | 63% |
Wedi’i ddatrys yn lleol | 62 | 32% |
Ymchwiliad yn mynd rhagddo | 4 | 2% |
Euogfarn | 2 | 1% |
Arall | 2 | 1% |
Rhybudd | 1 | 0.5% |
Trafodion llys wedi’u dechrau | 1 | 0.5% |
Electoral Fraud Data
Mathau o honiadau twyll etholiadol
Roedd bron i ddau ym mhob tri (64%) achos a adroddwyd yn 2022 yn gysylltiedig â throseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ynghylch:
- Ymgyrchwyr ddim yn cynnwys manylion ynghylch yr argraffwr, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol - ‘argraffnod’
- Rhywun yn gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd.
Mae’r tabl a’r siart gylch yn dangos nifer yr achosion a’r mathau o droseddau yr ymchwiliwyd iddynt yn 2022.
Math o drosedd | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Ymgyrchu | 123 | 64% |
Pleidleisio | 38 | 20% |
Enwebu | 18 | 9% |
Cofrestru | 13 | 6% |
Arall | 1 | 1% |
Personadu
Cofnodwyd cyfanswm o 13 o achosion o dwyll etholiadol honedig gan luoedd yr heddlu yn 2022.
Mae personadu yn drosedd lle mae person yn esgus bod yn rhywun arall er mwyn gallu defnyddio pleidlais y person hwnnw. Gall hyn ddigwydd mewn gorsaf bleidleisio, gyda phleidlais bost, neu bleidlais drwy ddirprwy (lle mae pleidleisiwr wedi penodi rhywun arall i bleidleisio ar eu rhan).
Roedd ychydig dros hanner o’r achosion hynny (7) yn cynnwys honiadau o bersonadu mewn gorsafoedd pleidleisio. Yn yr holl achosion hynny ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach oherwydd doedd dim tystiolaeth neu doedd dim digon o dystiolaeth.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr honiadau o bersonadu a’u canlyniadau.
Math o bersonadu | Nifer yr honiadau | Math o ganlyniad a nifer |
---|---|---|
Gorsaf bleidleisio | 7 | Dim camau pellach: 7 |
Trwy’r post | 3 | Dim camau pellach: 2 Euogfarn: 1 |
Trwy ddirprwy | 3 | Dim camau pellach: 2 Wedi’i ddatrys yn lleol: 1 |
Deisebau etholiadol
Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad.
Cafwyd un deiseb wedi etholiadau a gynhaliwyd yn 2022.
Ward Aston, Cyngor Dinas Birmingham
Roedd y ddeiseb yn honni, yn yr etholiad yn y ward ym mis Mai 2022, bod y ddau ymgeisydd llwyddiannus o’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi gwneud honiadau anwir, sef bod un o ymgeiswyr y Blaid Lafur wedi llwgrwobrwyo pleidleiswyr gyda phecynnau o ddêts. Roedd y ddeiseb yn gofyn bod y llys yn dirymu canlyniad yr etholiad. Fodd bynnag, gwnaeth ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol gyflwyno fideo cloch drws fel tystiolaeth. Roedd hyn yn dangos ymgeisydd y Blaid Lafur a’i gefnogwyr yn rhoi pecynnau o ddêts gyda sticeri’r Blaid Lafur arnynt. Yn sgil y dystiolaeth hon, gwnaeth ymgeisydd y Blaid Lafur gais i’r llys i dynnu’r ddeiseb yn ôl a chaniatawyd hyn gan y llys.