Overview

Cafodd etholiadau lleol, etholiadau maerol, ac etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu a oedd i’w cynnal ym mis Mai 2020 eu gohirio tan fis Mai 2021 mewn ymateb i’r pandemig COVID-19. 

Ychydig iawn o etholiadau a gafodd eu cynnal yn 2020, a oedd yn golygu bod nifer y cyhuddiadau a adroddwyd i heddluoedd yn arbennig o isel. 

Gan nad oedd hon yn flwyddyn normal ar gyfer etholiadau yn y DU, ni ellir cymharu’r data hwn â’r data a gafwyd mewn blynyddoedd blaenorol na data’r blynyddoedd i ddod mewn unrhyw ffordd ystyrlon. 
 

Elections in 2020

Cynhaliwyd is-etholiadau lleol ledled Prydain Fawr rhwng mis Ionawr a mis Mawrth 2020. Ar ôl mis Mawrth, yr unig etholiadau a gynhaliwyd - o dan gyfyngiadau’r coronafeirws - oedd wyth is-etholiad cyngor yn yr Alban yn hydref 2020.

Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i 15 achos o dwyll etholiadol honedig. O’r rhain, ni fu camau pellach yng nghyswllt 10 ohonynt a chafodd 5 eu datrys yn lleol gan yr heddlu.

Data honiadau fesul heddlu

Defnyddiwch y tabl hwn i chwilio am ddata gan heddluoedd penodol, yn ôl categori’r drosedd neu’r canlyniad.

 

Os oes angen yr wybodaeth hon arnoch mewn fformat amgen, cysylltwch â ni

Deisebau etholiadol

Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad a/neu y ffordd y cynhaliwyd etholiad.

Cafwyd un ddeiseb mewn perthynas â gweinyddu’r is-etholiad lleol ym Mwrdeistref Brent yn Llundain ar 23 Ionawr 2020. Honnwyd nad oedd y papurau pleidleisio wedi eu cyfrif yn gywir, a bod yr ymgeisydd anghywir wedi cael ei ethol. Nid oedd y ddeiseb yn llwyddiannus.