Data twyll etholiadol 2021
Overview
Mae lefelau twyll etholiadol profedig yn y DU yn isel.
Nid oes tystiolaeth o dwyll etholiadol ar raddfa fawr yn 2021.
Etholiadau 2021
Ym mis Mai 2021, cynhaliwyd etholiadau yng Nghymru, yr Alban, a Lloegr:
- Senedd yr Alban
- Senedd Cymru
- Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Cymru a Lloegr)
- Etholiadau cynghorau lleol ac etholiadau maerol lleol (Lloegr)
- Etholiadau Maerol Awdurdodau Cyfun
- Maer Llundain a Chynulliad Llundain
Cafodd nifer o’r etholiadau hyn eu gohirio yn 2020. Cynhaliwyd hefyd chwech is-etholiad Senedd y DU yn ystod 2021.
Fe wnaeth yr heddlu ymchwilio i 317 o achosion o dwyll etholiadol honedig yn ystod 2021. Cafwyd dwy euogfarn a dwy ryddfarn. Rhoddodd yr heddlu rybudd mewn un achos.
Mae’r tabl hwn yn dangos nifer yr achosion o dwyll honedig y gwnaeth yr heddlu eu hadrodd i ni ar gyfer etholiadau a gynhaliwyd yn 2021.
Etholiad | Nifer o achosion |
---|---|
Etholiad lleol | 258 |
Refferendwm lleol | 12 |
Is-etholiad lleol | 10 |
Nad yw’n benodol i etholiad (e.e. cofrestru treigl) | 10 |
Etholiad Senedd Cymru | 8 |
Etholiad Maer Llundain | 7 |
Etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu | 6 |
Is-etholiad Senedd y DU | 3 |
Senedd yr Alban | 2 |
Etholiad maerol lleol | 1 |
Collfarn am gambersonadu mewn gorsaf bleidleisio
Gwnaeth dyn gambersonadu pleidleisiwr arall mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau mis Mai 2021 ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Eastleigh, Cyngor Sir Hampshire a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Gofynnodd staff yr orsaf bleidleisio iddo am ei enw a’i gyfeiriad. Rhoddodd ei enw cyntaf a chyfeiriad. Yna darllenodd y staff gyfenw etholwr arall a gofyn i’r etholwr ai hwn oedd ei gyfenw. Dywedodd ie mai hwn oedd ei gyfenw. Rhoddwyd tri phapur pleidleisio iddo a ddylai fod wedi mynd i’r etholwr yr oedd yn ei gambersonadu. Aeth â nhw i orsaf bleidleisio lle aeth ati i’w difetha a’u rhoi yn y blwch pleidleisio. Recordiodd y digwyddiad gyfan ar ei ffôn symudol a’i lanlwytho i gyfryngau cymdeithasol.
Cafodd ei gyhuddo o dair achos o gambersonadu mewn gorsaf bleidleisio ac fe’i cafwyd yn euog ym mhob achos yn Llys y Goron. Cafodd ei ddedfrydu i orchymyn cymunedol o 50 awr o waith di-dâl. Mae wedi’i wahardd rhag cael ei ethol i Dŷ’r Cyffredin neu dal swydd etholedig arall a rhag cofrestru fel pleidleisiwr am 5 mlynedd.
Collfarn am wyrdroi cwrs cyfiawnder
Dywedodd ymgeisydd yn yr etholiadau lleol yn 2021 gelwydd yn ei bapurau enwebu ynghylch dyddiad collfarn droseddol flaenorol am ddwyn. Darparodd ddogfennaeth ffug i gefnogi’r hyn a honnodd. Gan fod y gollfarn wedi digwydd o fewn y 5 mlynedd flaenorol, cafodd ei wahardd rhag sefyll yn yr etholiad. Cafodd ei gyhuddo o’r drosedd etholiadol o wneud datganiad ffug yn ei bapurau enwebu a gwyrdroi cwrs cyfiawnder am ddarparu dogfennau ffug. Yn y treial plediodd yn euog i’r cyhuddiad o wyrdroi cwrs cyfiawnder, a rhoddwyd y cyhuddiad o wneud datganiad ffug ar ei ffeil1 . Cafodd yr ymgeisydd ddedfryd o 9 mis o garchar.
Achosion lle gwnaeth y sawl dan amheuaeth dderbyn rhybudd gan yr heddlu
Rhoddodd Heddlu Caint rybuddion i ddau berson am yr un drosedd o bersonadu. Defnyddiodd gwraig gerdyn pleidleisio ei mam i geisio pleidleisio mewn etholiad llywodraeth leol ar ôl i’w thad awgrymu iddi wneud hynny. Roedd staff yr orsaf bleidleisio’n amau nad hi oedd y person a enwyd ar y cerdyn pleidleisio. Gwnaeth y tad a’r ferch dderbyn rhybudd ar ôl i’r heddlu gael cyngor gan Wasanaeth Erlyn y Goron
Canlyniadau pob achos a adroddwyd
Ni wnaeth yr heddlu gymryd camau pellach gyda dros hanner (65%) yr achosion. Mae hyn yn golygu nad ymchwiliwyd ymhellach i’r achosion gan yr heddlu am nad oedd tystiolaeth (neu nad oedd digon o dystiolaeth), neu na chafwyd bod trosedd.
Mae’r tabl a’r siart gylch yn dangos nifer yr achosion a adroddwyd i’r heddlu yn 2021, a’u canlyniadau.
Canlyniad | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Dim camau pellach | 204 | 65% |
Wedi’i ddatrys yn lleol | 104 | 33% |
Collfarnwyd | 3 | 1% |
Ymchwiliad yn mynd rhagddo | 2 | Llai na 1% |
Rhyddfarn | 2 | Llai na 1% |
Rhybudd | 1 | Llai na 1% |
Trafodion llys wedi’u cychwyn | 1 | Llai na 1% |
Mathau o honiadau twyll etholiadol
Roedd dros hanner yr holl achosion yr adroddwyd arnynt yn 2021 yn droseddau ymgyrchu. Roedd y rhan fwyaf o’r rhain ynghylch:
- Ymgyrchwyr yn methu â chynnwys manylion ynghylch yr argraffwr, hyrwyddwr neu gyhoeddwr ar ddeunydd etholiadol - ‘argraffnod’
- Rhywun yn gwneud datganiadau ffug ynghylch cymeriad personol neu ymddygiad ymgeisydd.
Mae’r tabl a’r siart gylch yn dangos nifer yr achosion, a’r mathau o droseddau, yr ymchwiliwyd iddynt yn 2021.
Math o drosedd | Nifer o achosion | Canran o'r cyfanswm |
---|---|---|
Ymgyrchu | 166 | 52% |
Pleidleisio | 79 | 25% |
Cofrestru | 35 | 11% |
Enwebu | 33 | 10% |
Arall2 | 4 | 1% |
Deisebau etholiadol
Mae deiseb etholiadol yn her gyfreithiol i ganlyniad etholiad.
Cafwyd pum deiseb wedi’r etholiadau ym mis Mai 2021, gan gynnwys dwy oedd yn ymwneud ag honiadau o dwyll etholiadol. Roedd tair arall yn ymwneud â phroblemau gweinyddu etholiadol honedig. Rydym wedi cynnwys astudiaethau achos o'r ddau achos a oedd yn ymwneud â thwyll etholiadol honedig.
Ward Fens a Greatham, Cyngor Bwrdeistref Hartlepool
Roedd y ddeiseb yn honni bod yr ymgeisydd llwyddiannus o’r Blaid Lafur wedi gwneud datganiad ffug ynghylch ei ymddygiad personol mewn taflen etholiadol. Canfu’r llys mai ynghylch ei ymddygiad gwleidyddol oedd y datganiad, ac nid ei ymddygiad personol. Bu’r ddeiseb yn aflwyddiannus, ac ardystiodd y llys bod yr ymgeisydd o’r Blaid Lafur wedi’i ethol.
High Wycombe
Roedd y ddeiseb yn herio ethol tri ymgeisydd Annibynwyr Wycombe (Wycombe Independents) i Gyngor Swydd Buckingham ar 6 Mai 2021. Honnwyd yr amharwyd ar 80 o bapurau pleidleisio gyda phleidleisiau i ymgeiswyr y Democratiaid Rhyddfrydol drwy ychwanegu pleidleisiau i ymgeiswyr eraill fel bod y papurau pleidleisio yn cael eu hystyried yn rhai annilys, ac felly, heb eu cyfrif. Roedd y ddeiseb yn gofyn am ailgyfrif y pleidleisiau. Cafwyd ailgyfrif a arweiniodd at Annibynwyr Wycombe i gyd yn ennill mwy o bleidleisiau tra bod y deisebydd wedi ennill ychydig yn llai. Daeth ymgeisydd Annibynwyr Wycombe yn drydydd gyda 107 o bleidleisiau yn fwy na’r deisebydd. O ganlyniad, gwnaeth ymgeiswyr Annibynwyr Wycombe gais i'r llys i wrthod y ddeiseb, a chytunodd y deisebydd i hynny yn ddiweddarach. Gwrthododd y llys etholiadol y ddeiseb a datgan bod tri ymgeisydd Annibynwyr Wycombe wedi'u hethol yn briodol.
- 1. Mae gwefan Gwasanaeth Erlyn y Goron yn dweud hyn am y term “cofnod o gelwydd” (lie on file): Yn Llys y Goron mae gan y barnwr y pŵer i orchymyn bod cyhuddiadau cyfan neu rai cyhuddiadau yn cael eu gorchymyn fel 'cofnod o gelwydd'. Nid oes rheithfarn, felly nid yw'r achos yn cael ei derfynu'n ffurfiol. Ni ellir cael unrhyw achos pellach yn erbyn y diffynnydd ar y materion hynny, heb ganiatâd Llys y Goron neu’r Llys Apêl. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Mae’r rhain yn achosion lle nad oedd yr ymddygiad honedig yn drosedd etholiadol. Ond roedd yn ymwneud ag agweddau o bleidleisio neu ymgyrchu, ac felly rhoddodd yr heddlu gyngor i’r bobl hynny y gwnaed cwynion amdanynt. ↩ Back to content at footnote 2